Mae safonau a chanllawiau newydd ar sut y dylai gweithgareddau presgripsiynu cymdeithasol, gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff, clybiau garddio a grwpiau celf, gael eu darparu ledled Cymru yn cael eu datblygu er mwyn gwella iechyd meddwl a lles pobol a lleihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae Covid-19 wedi cael effaith enfawr ar iechyd a lles, a gall presgripsiynu cymdeithasol chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod pobol yn cael mynediad at gymorth cymunedol, anghlinigol sy’n gallu rhoi hwb i unigolion.

Heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 28), mae Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, yn lansio ymgynghoriad newydd ar bresgripsiynu cymdeithasol, a fydd yn gofyn am farn pobol i gynllunio fframwaith i’r dyfodol ar gyfer cymorth cymunedol, anghlinigol, a all gynnwys ystod o weithgareddau, gyda phob un yn cyfrannu at ddull ataliol cynnar drwy wella lles pobol.

Bydd y fframwaith newydd yn nodi’r safonau, y canllawiau a’r camau i’w datblygu ar lefel genedlaethol i sicrhau darpariaeth gyson ledled Cymru.

Yng Nghymru, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau a’r defnydd o bresgripsiynu cymdeithasol bob blwyddyn dros y tair blynedd ddiwethaf.

Mae’r ffigurau’n dangos cynnydd yn nifer y bobol a oedd yn manteisio ar bresgripsiynu cymdeithasol yn 2018/2019 – dros 10,000 – i fwy na 25,000 yn 2020/21.

Drwy ei ddull ataliol cynnar, gallai presgripsiynu cymdeithasol helpu i leihau’r pwysau ar fwy o wasanaethau arbenigol rheng flaen.

Mae tystiolaeth o Brifysgol De Cymru yn awgrymu bod presgripsiynu cymdeithasol yn lleihau nifer y bobol sy’n ymweld â meddygfeydd o 15%-28%.

Mewn astudiaeth arall, fe ddaeth i’r amlwg fod cleifion yn defnyddio llai ar wasanaethau gofal sylfaenol, gyda lleihad o 25% mewn apwyntiadau.

‘Amrywio ar draws y wlad’

“Mae presgripsiynu cymdeithasol yn parhau i fod yn fuddiol i lesiant pobol, yn arbennig o ran eu hiechyd meddwl, gan helpu pobol i deimlo’n rhan o’u cymuned a dysgu sgiliau newydd,” meddai Lynne Neagle.

“Nod yr ymgynghoriad hwn yw cael dealltwriaeth gyffredin o beth yw presgripsiynu cymdeithasol a darpariaeth gyson ar draws Cymru.

“Mae tystiolaeth bresennol yn dangos bod lefelau mynediad at bresgripsiynu cymdeithasol a’r ymwybyddiaeth o’r cymorth anghlinigol sydd ar gael yn amrywio ar draws y wlad.

“Yn ogystal, rwyf am i’r fframwaith cenedlaethol sefydlu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol mewn mannau nad ydynt yn bodoli o gwbl ar hyn o bryd neu ble mae angen eu datblygu ymhellach, a nodi’r ardaloedd hynny lle mae angen cymryd camau pellach.”

Caerau a Threlái

Un ganolfan sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol yng Nghaerdydd yw ACE – Gweithredu yng Nghaerau a Threlái.

Mae’n gweithio gyda meddygon teulu lleol a phartneriaid eraill i helpu pobol i fanteisio ar yr amrywiaeth o weithgareddau sydd ar eu stepen drws.

Mae hefyd yn gweithio gyda’r gymuned i ddatblygu amryw o weithgareddau iechyd, lles a chymorth, ac yn cynnal grwpiau a sefydliadau eraill yn eu hadeilad cymunedol, Dusty Forge.

“Mae presgripsiynu cymdeithasol yn ein galluogi i estyn allan at bobol newydd drwy ein practisau meddygon teulu lleol, gan ddod â mwy o bobol o’n cymuned leol at ei gilydd i gefnogi ei gilydd a chreu cysylltiadau a ffrindiau newydd,” meddai Hazel Cryer, Cydgysylltydd Iechyd a Llesiant i ACE.

“Byddem wrth ein bodd yn gweld presgripsiynu cymdeithasol yn tyfu ac yn datblygu ledled Cymru drwy’r fframwaith hwn.”

Tyfu’n dda

Un prosiect sy’n gweithio ar y cyd ag ACE yw Grow Well, sy’n cael ei redeg gan yr elusen leol Grow Cardiff.

Grŵp gerddi cymunedol therapiwtig yw hwn, sy’n croesawu pobol o bob oed.

Mae’r grŵp yn cwrdd ar dri safle ar draws de-orllewin Caerdydd drwy gydol yr wythnos i hybu iechyd a lles drwy dyfu, rhannu sgiliau, bod yn agos at fyd natur, cyfeillgarwch a bwyd.

“Ar ôl gweld y newidiadau anhygoel y mae prosiect fel hwn yn gallu eu gwneud i fywyd rhywun, byddai’n wych gweld rhwydwaith o erddi cymunedol ar draws Cymru yn cael ei gysylltu â gofal iechyd drwy wasanaethau presgripsiynu cymdeithasol,” meddai Claire Terry, Cydgysylltydd Prosiect Grow Well, Grow Cardiff.

“Rydyn ni’n rhoi ein cefnogaeth lawn i’r lansiad hwn heddiw.”