Mae Russell T Davies, awdur y gyfres ‘Doctor Who’, wedi talu teyrnged i’r “lejend” Bernard Cribbins, sydd wedi marw’n 93 oed.
Yn ystod ei yrfa, a ddechreuodd yn y theatr yn Oldham ac a barodd saith degawd, fe fu’n adroddwr y gyfres The Wombles yn y 1970au, rai blynyddoedd ar ôl chwarae’r cymeriad Tom Campbell, cyfaill Doctor Who yn y ffilm Daleks’ Invasion Earth 2150, gan ymddangos rai degawdau’n ddiweddarach yn y gyfres deledu ar ei newydd wedd, gan chwarae Wilfred Mott, tad-cu Donna (Catherine Tate).
I blant y 1970au, bydd Bernard Cribbins yn cael ei gofio am y cymeriad Albert Perks yn The Railway Children.
Fe wnaeth e serennu hefyd mewn ffilmiau Carry On ac yn Frenzy gan Alfred Hitchcock, yn ogystal â’r gyfres gomedi Fawlty Towers, ac fe ganodd e ‘Right Said Fred’ yn y 1960au.
Roedd e hefyd yn llais cyfarwydd yn y gyfres Jackanory rhwng 1966 a 1991, ac Old Jack’s Boat rhwng 2013 a 2015.
Roedd yn dal i weithio yn ei 90au, ond fe gollodd ei wraig Gill y llynedd, a hwythau’n briod ers 66 o flynyddoedd.
Ac yntau bron yn 90 oed yn 2018, fe gyhoeddodd ei hunangofiant yn edrych yn ôl ar ei 75 mlynedd yn y byd adloniant.
‘Dw i’n caru’r dyn hwn’
“Dw i’n caru’r dyn hwn,” meddai Russell T Davies ar y cyfryngau cymdeithasol wrth dalu teyrnged i Bernard Cribbins.
“Dw i’n ei garu fe.
“Dyna fe fel Snout yn A Midsummer Night’s Dream,” meddai wrth gyfeirio at lun sydd wedi cael ei bostio ar ei dudalen.
“Ydych chi’n ffansïo gwneud ychydig o Shakespeare, Bernard? “Dewch i fi gael gweld y sgript”.
“Roedd e’n nabod pawb! Byddai’n siarad am y Beatles a David Niven, a sut y bu iddo eistedd ar risiau unwaith mewn parti yn dynwared cân yr adar gyda T H White.
“Yna byddai’n ychwanegu, ‘Dywedais i wrth Ashley Banjo yr wythnos ddiwethaf…’
“Roedd e’n caru bod yn Doctor Who. Dywedodd, ‘Mae pobol yn galw tad-cu arna’i yn y stryd!’
“Roedd ei ddiwrnod cyntaf ar leoliad gyda Kylie Minogue, ond roedd llygaid pawb, Kylie hyd yn oed, ar Bernard.
“Roedd e wedi troi i fyny â chês llawn props, jyst rhag ofn, gan gynnwys iâr rwber.
“Ac, o, am actor. O, wir yr, am actor hyfryd.
“Aethon ni ag e unwaith i’r TV Choice Awards a’i anfon e ar ei ben ei hun i gasglu’r wobr, a safodd yr ystafell gyfan a bloeddio. Dyna i chi atgof hyfryd.
“Byddai’n ffonio a dweud, ‘Mae syniad gyda fi! Beth pe bawn i’n ymosod ar Dalek gyda dryll peli paent?’ Iawn Bernard, i mewn â fe.
“Roedd e’n caru Gill â’i holl galon, byddai’n sôn amdani ym mhob sgwrs gawson ni. Stori gariad i’r holl oesoedd.
“Dw i mor lwcus o fod wedi’i nabod e.
“Diolch am bopeth, fy hen soldiwr.
“Mae lejend wedi gadael y byd.”