Mae’r ymateb positif i gyfrol gignoeth y gantores Non Parry yn awgrymu bod agweddau pobol tuag at iechyd meddwl wedi symud ymlaen, yn ôl yr awdures.
Daeth Paid â Bod yn Ofn i’r brig yng nghategori Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2022 neithiwr (nos Fercher, Gorffennaf 20), gan guro cyfrolau hunangofiannol Eigra Lewis Roberts a Carys Eleri.
Mae cyfrol gyntaf y gantores, sy’n un o aelodau Eden, yn codi cwr y llen ar fywyd yn llygad y cyhoedd ac yn trafod iechyd meddwl yn onest iawn.
“Pan gefais i wybod fe wnes i grio, fe wnes i wneud sioe o fy hun o flaen bawb,” meddai Non Parry wrth golwg360.
“Mae pobol yn dweud ‘Mae o’n lyfli i jyst bod ar y rhestr fer’, ond roeddwn i 100% yn ddigon hapus i fod ar y rhestr fer. Roeddwn i’n mindblown fy mod i efo Eigra Lewis Roberts a Carys Eleri bob ochr i fi yn y categori.
“Doeddwn i ddim yn disgwyl hynna. Dw i dal yn gobsmacked, a jyst mor falch a hapus.
“Achos bod o’n llyfr mor bersonol hefyd, ti’n teimlo ‘jyst fi ydy o’ – roedd o’n gategori mor bersonol i’r tair ohonom ni.
“Roedd y tair ohonom ni yn enillwyr yn fy meddwl i achos roedd y tair ohonom ni wedi bod yn onest ac wedi sgrifennu pethau ofnadwy o bersonol. Roedd o’n golygu gymaint oherwydd hynna.
“Be sy’n fy ngwneud i mor hapus amdano ydy fy mod i wedi treulio blynyddoedd yn trio cuddio lot o gyflyrau iechyd meddwl, cuddio ryw fersiwn o Non oeddwn i’n meddwl fysa pobol ddim yn derbyn neu ddim yn licio.
“Unwaith i fi ddweud wrth bobol ‘Dyma be sy’n mynd ymlaen’, roedd pobol nid yn unig yn ei dderbyn, ond yn ymateb yn bositif a gyrru negeseuon lyfli ac yn uniaethu efo fi… roedd o’n neis bod pobol wedi mwynhau’r math yma o lyfr.”
‘Cuddio’n waeth na bod yn onest’
Mae’n deimlad braf bod llyfr “sydd weithiau ddim yn ddel, llyfr mor gignoeth” yn dal sylw, yn ôl Non Parry.
“Mae o’n gwneud i fi sylwi bod agweddau pobol, efallai, wedi symud ymlaen. Mae pobol yn barod i dderbyn, mae pobol eisiau siarad, eisiau rhannu. Dyna’r ymateb dw i wedi’i gael,” meddai.
“Mae o’n gam positif dw i’n meddwl, bod hwn yn bwysig, bod pobol yn gweld bod iechyd meddwl yn flaenoriaeth erbyn hyn.”
Doedd ganddi ddim bwriad gwirioneddol i sgrifennu llyfr nes i’r Lolfa roi’r cynnig iddi.
“Y peth cyntaf wnes i sgrifennu oedd i wefan Meddwl tua 2018, ac roeddwn i wedi bod mewn cyfnod rili isel,” meddai.
“Roeddwn i’n dod at ddiwedd cyfnod rili gwael efo iselder a gorbryder.
“Dw i’n meddwl fy mod i’n i’n eithaf desbret, fe wnes i sgrifennu fo tra’r oeddwn i dal ychydig bach yn sâl a thra’r oeddwn i’n meddwl ‘Fedra i ddim actually cario ymlaen fel ydw i rŵan oherwydd mae’n rhy anodd, dw i’n mynd yn fwy a mwy isolated, dw i’n ffeindio fo’n anoddach gweithio’.
“Roeddwn i’n ffeindio fo’n anodd gweithio oddi adre, ac roeddwn i jyst yn gweld fy mod i methu cario ymlaen fel hyn.
“Roedd cuddio yn waeth opsiwn na jyst cymryd y gambl a bod yn onest. Roedd rhannu efo pobol fy mod i’n teimlo fel hyn am fod yn rhyw fath o ryddhad, o leiaf, rhyw fath o symud ymlaen achos doeddwn i methu cario ymlaen fel hyn.”
Cael blas ar sgrifennu
Ar ôl darllen y blog ar meddwl.org, gofynnodd y Lolfa iddi a fyddai’n hoffi sgrifennu fersiwn hirach.
“Wnes i ddim penderfynu dw i’n mynd i sgrifennu llyfr rŵan, ond roeddwn i wastad wedi bod eisiau efallai sgrifennu llyfr,” meddai wedyn.
“Roedd fy mam wastad eisiau sgrifennu llyfr ac yn dweud hynny drwy’r amser. Fe wnaethon ni golli Mam ryw saith blynedd yn ôl.
“Pan wnaeth Y Lolfa gysylltu efo fi a gofyn: ‘Ti’n ffansio sgrifennu llyfr?’, y peth cyntaf wnes i feddwl oedd ‘Na, does gen i ddim syniad sut i sgrifennu llyfr’.
“Wedyn fe wnes i gofio am Mam, a chlywed llais Mam yng nghefn fy mhen yn dweud: ‘Pwy sy’n cael y cyfle yma i sgrifennu llyfr? Mae yna gymaint o bobol sydd jyst â marw eisiau sgrifennu llyfr’.
“Fyswn i’n licio sgrifennu mwy. Doedd gen i ddim syniad sut oedd yr ymateb am fod, doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod os oeddwn i’n mynd i allu gorffen sgrifennu’r llyfr, ond rŵan fyswn i’n dweud fy mod i wedi cael blas bach amdani.
“Dw i ddim yn gwybod lle i fynd nesaf, achos dw i’n meddwl bod pobol wedi clywed popeth amdana i.
“Ond fyswn i’n bendant yn licio gwneud rhywbeth arall, a rhywbeth i wneud efo’r byd iechyd meddwl yn dal i fod. Be? Dw i ddim yn gwybod!”