Ers wythnos neu ddwy, mae yna luniau di-ri wedi bod yn ymddangos ar wefannau newyddion o waith addurno lliwgar a gwreiddiol trigolion cefn gwlad Ceredigion.
Mi fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Nhregaron eleni, o Orffennaf 30 i Awst 6, ac mae arwyddion yn croesawu’r brifwyl i’w gweld ar hyd y sir erbyn hyn.
Mae sylw wedi bod ar y cyfryngau i ymdrechion pentrefi fel Llanddewi Brefi a Lledrod, a threfi a phentrefi mwy fel Bow Street, Pontrhydfendigaid ac Aberaeron.
Y diweddaraf i ddangos eu plu lliwgar yw pentref bach Pisgah, i’r dwyrain o Aberystwyth.
Er ei fod bron i 20 milltir o safle Maes yr Eisteddfod yn Nhregaron, mae trigolion Pisgah yn amlwg yn barod iawn eu croeso i’r ŵyl fawr ddiwylliannol.
Galw cyfarfod
Perchennog tafarn yr Halfway Inn yn Pisgah a oedd wedi galw’r cyfarfod i annog ei chyd-bentrefwyr i addurno’u cartrefi a libart eu tai.
“Fel cymuned, braf oedd gweld gymaint o drigolion Pisgah yn dod at ei gilydd a chyd-weithio i groesawu Eisteddfod Genedlaethol 2022 i Geredigion,” meddai Ann Raeburn.
“Roedd rhai o’r trigolion yn newydd i’r ardal a heb gael y cyfle i gwrdd â gweddill trigolion Pisgah, felly roedd hi’n braf gweld pobol yn dod i adnabod ei gilydd a chael sbort yr un pryd.”
Dyma ambell lun a dynnodd Ann Raeburn wrth fynd rownd y pentref fore heddiw…
Y prif arlwy drwy’r Sir yr wythnos nesaf – Eisteddfod Tregaron