Mae Plaid Cymru wedi beirniadu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch tâl athrawon, gan ddweud nad “codiad cyflog mo hwn”.
Yn ôl Heledd Fychan, llefarydd plant a phobol ifanc y Blaid, “mae’n rhaid i dâl y sector cyhoeddus godi gyda chwyddiant”.
Daw hyn wrth iddi ymateb i ddatganiad Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru, ac adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ynghylch codiad cyflog i athrawon sy’n is na chwyddiant.
Bydd cyflogau’n codi 5% yn ystod y flwyddyn gyntaf, a hyd at 3.5% yn yr ail flwyddyn, ond mae disgwyl i undebau athrawon ymateb drwy bleidleisio ar weithredu’n ddiwydiannol.
9.4% yw lefel chwyddiant yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, ond mae disgwyl y gallai godi i 11%.
£39,009 yw cyflog cyfartalog y 26,000 o athrawon sydd yng Nghymru.
‘Y peth lleiaf maen nhw’n ei haeddu ydi cydnabyddiaeth’
“Nid codiad cyflog mo’r codiad cyflog hwn – yn y bôn, toriad ydi hwn i gyflogau athrawon yn sgil chwyddiant,” meddai Heledd Fychan.
“Mae athrawon wedi bod yn allweddol wrth gefnogi miloedd o blant a phobol ifanc yng Nghymru drwy gydol un o’r cyfnodau mwyaf anodd ers cyn cof.
“Y peth lleiaf maen nhw’n ei haeddu ydi cydnabyddiaeth ar gyfer hynny.
“Yn hytrach, yr hyn maen nhw’n ei gael gan eu Llywodraeth Lafur ydi codiad cyflog is na chwyddiant tra ein bod ni yng nghanol argyfwng costau byw cynyddol lle mae cynifer o bobol eisoes yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd.
“Mae un ym mhob tri o athrawon yn gadael yr ystafell ddosbarth o fewn eu pum mlynedd gyntaf yn y proffesiwn o ganlyniad i lwyth gwaith ac amodau gwaith.
“Os ydym o ddifrif am gadw athrawon a recriwtio rhai newydd, ac os ydym am wireddu uchelgeisiau’r cwricwlwm newydd yn llawn, yn ogystal ag anghenion dysgu ychwanegol a darpariaeth iaith Gymraeg, yna mae angen i ni ddangos i’n hathrawon ein bod ni’n eu gwerthfawrogi nhw.
“Rydym yn annog y Llywodraeth i ailfeddwl ac o leiaf gynnig codiadau cyflog i’r sector cyhoeddus yn unol â chwyddiant wrth leddfu amodau gwaith a llwyth gwaith i athrawon.
“Fydd yr argyfwng costau byw ddim yn cael ei leddfu’n fuan.
“Mae angen i unrhyw gyllideb Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ystyried cynildeb Torïaidd o ran cyflogau’r sector cyhoeddus a gwarchod y bobol maen nhw’n eu cynrychioli rhag San Steffan ar ei gwaethaf.”