Mae golygydd prosiect Y Pump, sef y gyfres o bum nofel sydd wedi cipio’r wobr Plant a Phobl Ifanc yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni, yn dweud bod y nofelau “ar eu gorau efo’i gilydd”.
Mae Y Pump yn gyfres o nofelau a phob un wedi’u cyd-ysgrifennu gan ddau awdur, ac mae Llenyddiaeth Cymru wedi penderfynu eu gwobrwyo gyda’i gilydd yn hytrach nag un o’r nofelau ar wahân.
Er eu bod nhw wedi’u cyflwyno fel cyfrolau unigol yn wreiddiol, barn y beirniaid oedd fod cyfrolau’r gyfres mor gysylltiedig, a’r cymeriadau yn ymddangos drwyddi draw, fel nad oedd modd gwahaniaethu rhyngddyn nhw.
At hynny, mae’r beirniaid wedi penderfynu eu gwobrwyo fel cyfanwaith, ac felly mae’r deg awdur, Elgan Rhys a Tomos Jones (Tim), Mared Roberts a Ceri-Anne Gatehouse (Tami), Marged Elen Wiliam a Mahum Umer (Aniq), Iestyn Tyne a Leo Drayton (Robyn), a Megan Angharad Hunter a Maisie Awen (Cat), oll yn rhannu’r wobr a’r clod.
“Am braf cael llongyfarch nid un, ond deg awdur am gipio’r categori Plant a Phobl Ifanc eleni – a phob un o gyfrolau Y Pump yn llwyr haeddu eu lle fel cyfrolau unigol,” meddai Leusa Llewelyn, cyd-Brif Weithredwr dros dro Llenyddiaeth Cymru, sy’n cynnal gwobr Llyfr y Flwyddyn.
“Dw i’n siŵr fod yr awduron wrth eu boddau o gael cwmni ei gilydd ar y rhestr, os yw eu cyfeillgarwch chwarter cystal â’r cyfeillgarwch rhwng cymeriadau Y Pump.
Bydd yr enillwyr yn ennill £1,000 a thlws wedi’i ddylunio a’i greu yn arbennig gan Angharad Pearce Jones.
Maen nhw hefyd yn gymwys am Wobr Barn y Bobl golwg360 a Phrif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2022, a fydd yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru nos fory (nos Iau, Gorffennaf 21).
Cafodd y gwobrau eu beirniadu eleni gan y darlledwr Mirain Iwerydd; y cyflwynydd a cholofnydd Melanie Owen; yr academydd, golygydd ac awdur y cyfnodolyn academaidd, Llên Cymru, Siwan Rosser; a’r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam.
‘Bwlch ar gyfer gwaith i bobol ifanc amdan pobol ifanc’
Yn ôl y golygydd Elgan Rhys, mae Y Pump yn llenwi bwlch yn y farchnad “ar gyfer gwaith i bobol ifanc amdan pobol ifanc”, ac yn benodol, pobol ifanc oedd ddim yn cael eu cynrychioli”.
“Roedd yna rinweddau o fewn i’w hunaniaeth nhw ro’n i’n teimlo, ‘Reit, ’dan ni ddim yn clywed stori protagonist awtistig, ’dan ni ddim yn clywed stori efo protagonist crefyddol’,” meddai wrth golwg360.
“Wnaeth hwnna i gyd adeiladu.
“Ynghyd â hynna, roedd hi wedi dod i’r amlwg fod yna ddim awduron oedd efallai efo’r profiad byw i sicrhau authenticity y protagonists, y cymeriadau yma, so dyna lle ddaeth y syniad o weithio mewn ffordd wahanol a chreu model lle roedd cyd-awduron ifanc oedd yn sgwennu ac yn uniaethu efo rhinweddau’r cymeriadau.
“So, paru nhw i fyny efo awdur oedd yn ddigon parod i sgwennu nofel, a dyna lle wnaeth y ddau beth uno – cynnwys oedd yn teimlo’n newydd a wedyn ffordd o weithio’n radical wrth feithrin talent newydd ar yr un pryd.”
Gwobrwyo’r gyfrol fel cyfanwaith
“Dw i mor falch bod y gyfrol fel cyfanwaith yn cael ei chydnabod,” meddai wedyn wrth ymateb i ennill y wobr.
“Achos ydyn, mae’r nofelau’n sefyll ar ben eu hunain ond maen nhw ar eu gorau pan maen nhw efo’i gilydd ond mae’n grêt fod y beirniaid wedi cydnabod hynna ac wedi mynd tu hwnt i’r meini prawf a bod o’n eithriad yn yr achos yma.
“Gobeithio bod hwnna’n ddechrau i gyfrolau tebyg yn y dyfodol, bod yna gyfle i nofelau sydd efo mwy na dau awdur i gael i’w cydnabod eto.”