Bydd drysau’r Pafiliwn yn cael eu taflu ar agor yn y ffordd fwyaf sassy bosib nos Iau, Awst 4, wrth i Mas ar y Maes wahodd pawb i Barti Pinc cyntaf Cymru.
Dyma ddathliad a chyflwyniad i Ddiwylliant y Ddawnsfa gan y Gymuned Ddawnsfa Gymreig, gyda Seiriol Davies a Lisa Angharad yn sbarclo’n ogoneddus wrth y llyw.
Mae’r sîn Dawnsfa’n is-ddiwylliant Cwiar lle mae perfformwyr yn cystadlu mewn dawnsio, modelu a pherfformiadau ‘drag’.
Cafodd ei sefydlu yn Efrog Newydd gan y gymuned ddu cwiar, ac mae wedi cyrraedd Cymru – a llwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod – drwy waith y Gymuned Ddawnsfa Gymreig.
“Aeth Osian Meilir a fi i Kiki Ball cyntaf y Gymuned Ddawnsfa Gymreig ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru, ac roedd o’n un o’r digwyddiadau mwyaf llawen, cynhwysol, corff-bositif i ni fod iddo fo erioed,” meddai Marc Rees, sy’n rhan o drefnu’r digwyddiad.
“Felly, dyma fachu ar y cyfle i drefnu Parti Pinc Mas ar y Maes fel rhan o’r Eisteddfod eleni, a’r uchelgais, wrth gwrs, yw trefnu a chynnal ein Kiki Ball ein hunain yn y dyfodol.”
Beth allwn ni ei ddisgwyl?
Felly beth allwn ni’i ddisgwyl yn y Parti Pinc?
“Bydd y Gymuned Ddawnsfa Gymreig yn cychwyn gyda demo hollol wefreiddiol a llawn bywyd,” meddai Marc Rees wedyn.
“Yna, rydyn ni am agor y rhedfa (runway) i’r gynulleidfa, iddyn nhw gael dod i’r llwyfan a mynd amdani mewn tri chategori gwahanol, gyda Seiriol, Lisa a’r Gymuned Ddawnsfa’n trafod pob perfformiad.
“Mae hi am fod yn noson anhygoel, felly gwnewch yn siwr eich bod chi’n dewis eich gwisg fwyaf sbarcli a syfrdanol, p’un ai os ydych chi’n camu i’r llwyfan neu yno i fwynhau o’r gynulleidfa.
“Hon fydd un o nosweithiau gorau’r flwyddyn!”
Ac yng ngwir arddull Mas ar y Maes, mae naws Eisteddfodol i’r categorïau, felly os ydych chi am serennu ar lwyfan pwysicaf a mwyaf parchus Cymru, dyma’ch cyfle:
- Gwisgoedd: Rhyddhewch eich ffantasi gwerin mewnol Cymreig – mewn ffordd wedi’i sybfertio
- Cerdded: Gwirdeb gweithredol ond Eisteddfodol
- Wyneb: Gweini wyneb yn eich gwisg Orseddol wedi’i haddasu neu’i hail-ddychmygu
Mae cynhwysedd a rhyddid mynegiant yn egwyddorion sylfaenol ym myd y Ddawnsfa, ac mae’r Parti Pinc yn uchafbwynt cyffrous i raglen fwyaf cynhwysol a chyffrous Mas ar y Maes hyd yma.
Ers ei sefydlu fel rhan o Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018, mae’r prosiect wedi dod yn rhan annatod o ŵyl yr Eisteddfod ac yn rhan gynyddol o’r gwaith cymunedol.
‘O nerth i nerth’
Mae Marc Rees wedi bod yn gysylltiedig â’r prosiect ers y dechrau.
“Ar ôl bod yn rhan o’r cychwyn cyntaf, mae’n wych gweld Mas ar y Maes yn mynd o nerth i nerth, gyda rhaglen o weithgareddau, digwyddiadau, perfformiadau, a thrafodaethau LHDTC+ yn ffurfio rhan allweddol o’r Eisteddfod,” meddai.
“Rydyn ni wedi dod yn bell, ac wrth gwrs mae gennym ni ffordd bell i fynd o hyd, ond rydw i’n dychmygu bod cynnal ein Parti Pinc ein hunain ar lwyfan y Pafiliwn yn foment bwysig.
“Mae’n dipyn o beth i feddiannu llwyfan mwyaf mawreddog ac eiconig Cymru, ac mae’n garreg filltir bendant i Ddiwylliant Cwiar Cymraeg.
“Rydyn ni mor ddiolchgar i’r Eisteddfod am fod mor gefnogol i gynnal Parti Pinc yn y Pafiliwn, er mae’n rhaid i mi ddweud ei bod hi’n drueni nad ydyn ni yn yr hen Bafiliwn Pinc eiconig – byddai hynny wedi bod yn berffaith!”
Bydd y Parti Pinc yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn yr Eisteddfod am 11 o’r gloch, nos Iau, Awst 4.
Mae mynediad am ddim gyda thocyn Maes dydd Iau neu docyn Gig y Pafiliwn.
- Mae Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn cael ei chynnal ar gyrion Tregaron o Orffennaf 30 i Awst 6. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.