Casgliad Y Pump sydd wedi cipio Gwobr Plant a Phobl Ifanc Llyfr y Flwyddyn eleni, a Paid â Bod Ofn gan Non Parry sydd wedi dod i’r brig yn y categori Ffeithiol Greadigol.
Mae Y Pump yn gyfres o bum nofel, pob un wedi’u cyd-ysgrifennu gan ddau awdur.
Er eu bod nhw wedi’u cyflwyno fel cyfrolau unigol yn wreiddiol, barn y beirniaid oedd fod cyfrolau’r gyfres mor gysylltiedig, a’r cymeriadau yn ymddangos drwyddi draw, fel nad oedd modd gwahaniaethu rhyngddyn nhw.
At hynny, mae’r beirniaid wedi penderfynu eu gwobrwyo fel cyfanwaith, ac felly mae’r deg awdur, Elgan Rhys a Tomos Jones (Tim), Mared Roberts a Ceri-Anne Gatehouse (Tami), Marged Elen Wiliam a Mahum Umer (Aniq), Iestyn Tyne a Leo Drayton (Robyn), a Megan Angharad Hunter a Maisie Awen (Cat), oll yn rhannu’r wobr a’r clod.
Hunangofiant cignoeth y gantores Non Parry yw Paid â Bod Ofn sy’n yn codi’r llen ar fywyd yn llygad y cyhoedd ac yn trafod iechyd meddwl yn onest iawn.
Fel aelod o grŵp pop Eden, daeth Non Parry yn wyneb cyfarwydd pan oedd hi ond yn 22 oed. Dros nos roedd hi’n gwireddu breuddwyd gyda’i ffrindiau gorau, Emma a Rachael.
Ond y tu ôl i’r gytgan ‘Paid â bod ofn’, roedd yna Non Parry wahanol iawn.
Yn 2018 daeth yr amser i gyfaddef y gwir: roedd ofn lot fawr o bethau arni. Wedi blynyddoedd o ddioddef yn dawel, digon oedd digon.
‘Llwyr haeddu eu lle’
“Am braf cael llongyfarch nid un, ond deg awdur am gipio’r categori Plant a Phobl Ifanc eleni – a phob un o gyfrolau Y Pump yn llwyr haeddu eu lle fel cyfrolau unigol,” meddai Leusa Llewelyn, cyd-Brif Weithredwr dros dro Llenyddiaeth Cymru, sy’n cynnal gwobr Llyfr y Flwyddyn.
“Dw i’n siŵr fod yr awduron wrth eu boddau o gael cwmni ei gilydd ar y rhestr, os yw eu cyfeillgarwch chwarter cystal â’r cyfeillgarwch rhwng cymeriadau Y Pump.
“Llongyfarchiadau mawr i Non hefyd sydd yn agor ei chalon, a hynny yn y dafodiaith orau un yn ei chyfrol Paid â Bod Ofn, ac yn arwain y ffordd yn ddewr i sgyrsiau agored am iechyd meddwl.”
Bydd yr enillwyr yn ennill £1,000 a thlws wedi’i ddylunio a’i greu yn arbennig gan Angharad Pearce Jones.
Maen nhw hefyd yn gymwys am Wobr Barn y Bobl golwg360 a Phrif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2022, a fydd yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru nos fory (nos Iau, Gorffennaf 21).
Cafodd y gwobrau eu beirniadu eleni gan y darlledwr Mirain Iwerydd; y cyflwynydd a cholofnydd Melanie Owen; yr academydd, golygydd ac awdur y cyfnodolyn academaidd, Llên Cymru, Siwan Rosser; a’r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam.
Daeth cadarnhad mai nofel gyntaf Ffion Dafis, Mori, ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Ffuglen Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mai merch y llyn gan Grug Muse gipiodd y wobr Farddoniaeth, neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 19).