Mae S4C wedi gweld twf pellach mewn cynulleidfaoedd sy’n defnyddio’u gwasanaeth dal i fyny.

Bu cynnydd o 11.6% ers y llynedd yn y sesiynau gwylio ar eu gwasanaethau dal i fyny, o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Wrth gyhoeddi Adroddiad Blynyddol S4C, dywedodd y darlledwr eu bod nhw’n bwriadu buddsoddi’n helaeth mewn llwyfannau gwylio newydd, a’u bod nhw am gyflwyno dulliau newydd o fesur y niferoedd sy’n troi at y sianel ar y llwyfannau hynny.

Cyrhaeddodd prif gyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C ar draws Facebook, Twitter a YouTube eu horiau gwylio uchaf erioed hefyd, gyda chynnydd o 42% ers y flwyddyn flaenorol.

Yn ystod 2021-22, cafodd 366,300 awr o gynnwys ei wylio ar draws sianeli S4C ar YouTube, sy’n gynnydd o 13.5% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Fodd bynnag, roedd gostyngiad yn nifer gwylwyr y sianel o gymharu â 2020-21 – blwyddyn oedd yn cynnwys sawl cyfnod clo.

Yn 2021-22, roedd cynulleidfa gyfartalog S4C yn ystod yr oriau brig yn 17,400 o gymharu â 20,200 yn 2020-21.

Roedd gostyngiad yn nifer y bobol wyliodd S4C bob wythnos yng Nghymru (o 321,000 i 300,000), a gostyngiad yn nifer y bobol oedd yn gwylio bob wythnos dros y Deyrnas Unedig i gyd (o 823,000 i 602,000) hefyd.

‘Arwain y ffordd’

Dywed Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd Unedol S4C, fod 2021-22 yn “gyfnod o newid unwaith eto i S4C”.

“Fe barhaodd y pandemig i effeithio ar ein gweithgareddau ni a’r sector yn ehangach wrth i ni ymateb i newidiadau yng nghyfyngiadau Covid yn ystod y flwyddyn,” meddai.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r sector gynhyrchu a staff S4C am eu gwaith diflino wrth addasu yn ystod y pandemig.

“Mae nifer o’r arferion gwylio ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig yn parhau. Yn sicr mae S4C yn dilyn arferion y farchnad, a chynyddu’r defnydd o’n cynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau fydd y nod dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae dros 271,000 bellach wedi cofrestru i wylio ar S4C Clic, ac mae rhaglenni plant, chwaraeon a drama yn arwain y ffordd.”

‘Cartref i brofiadau cenedlaethol’

“Wrth i ni barhau i symud tuag at gyhoeddi ar wahanol lwyfannau a gwasanaethau gwylio newydd, byddwn yn adolygu ein mesuryddion i sicrhau ein bod yn deall y tueddiadau gwylio diweddaraf, er mwyn caniatáu i ni dargedu a phersonoli ein cynnwys i’r gynulleidfa briodol,” meddai Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C.

“Wrth edrych at y dyfodol, byddwn yn dal i ddod â chynnwys beiddgar i Gymru ac adlewyrchu prif ddigwyddiadau o Gymru i boblogaeth Cymru a thu hwnt.

“Rydym am i S4C fod yn gartref i brofiadau cenedlaethol Cymru, gyda’n cynnwys yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, gan helpu’r Gymraeg i ffynnu yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r farchnad fyd-eang.”