Am yr eildro mewn tair blynedd, mae un o gyfrolau gwasg annibynnol Cyhoeddiadau’r Stamp wedi dod i’r brig yng nghategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn.

merch y llyn gan Grug Muse gipiodd y wobr eleni, wedi i Caryl Bryn ennill y wobr gyda Hwn ydy’r llais, tybed? yn 2020.

Mae llwyddiannau fel hyn yn dangos bod gweisg llai ac annibynnol yn gallu “cyhoeddi gwaith sy’n cyrraedd yr un safon, a, gobeithio, yn codi’r safon”, â gweisg mwy, meddai Grug Muse, sy’n un o olygyddion Cyhoeddiadau’r Stamp hefyd.

“Fel gwasg fach, newydd, annibynnol dydyn ni ddim yn dosbarthu drwy’r Cyngor Llyfrau a dydyn ni ddim yn cael ein llyfrau wedi’u hyrwyddo drwy’r Cyngor Llyfrau, felly mae cystadlaethau fel hyn yn bwysig achos eu bod nhw’n rhoi sylw i’r cyfrolau,” meddai Grug Muse wrth golwg360.

“Mae’n rhywbeth rydyn ni’n falch ohono ac yn golygu lot i ni, ein bod ni’n gallu rhoi ein marc a ninnau’n wasg mor newydd ac yn gweithio mewn ffordd ychydig bach yn wahanol i weisg mwy na ni – ein bod ni’n gallu cyhoeddi pethau sy’n cyrraedd yr un safon, a, gobeithio, yn codi’r safon yna hyd yn oed!”

‘Wedi gwirioni’

Cyrhaeddodd cyfrol arall o Gyhoeddiadau’r Stamp, Stafelloedd Amhenodol gan Iestyn Tyne, y rhestr fer yn y categori barddoniaeth hefyd, ynghyd â Cawod Lwch gan Rhys Iorwerth (Gwasg Carreg Gwalch).

“Fi ac Iestyn [Tyne] ydy golygyddion barddoniaeth y Stamp, efo Esyllt [Lewis]. Fuodd y ddau ohonom ni yn golygu gwaith ein gilydd, fi wnaeth olygu Stafelloedd Amhenodol ac Iestyn wnaeth olygu merch y llyn,” meddai Grug Muse.

“Wedyn, dw i’n meddwl fysa ni wedi bod yn hapus dros y llall ond gyted os fysa un ohonom ni ar y rhestr fer a llall ddim. Roedd o’n special gallu rhannu hynna efo Iest, ac er mai fi sydd wedi ennill dw i’n teimlo bod Iest yn rhan o’r wobr achos fysa merch y llyn ddim y gyfrol ydy hi heb olygyddiaeth Iestyn.

“Roeddwn i wedi synnu [fy mod i wedi ennill]. Mae’n ystrydeb i’w ddweud ond roedd o’n gategori lle fysa unrhyw un wedi gallu mynd â hi,” ychwanega Grug Muse, sy’n gweithio ar gasgliad o ysgrifau a theithlyfr am daith yng ngogledd America ar y funud.

“Mae gen i barch mawr tuag at Iestyn a Rhys [Iorwerth] a’u gwaith nhw.

“[Dw i] wedi gwirioni, ond roedd o’n sioc hefyd.”

‘Sylw i farddoniaeth gan fenywod’

Tair dynes dan 30 oed sydd wedi dod i’r brig yng nghategori Barddoniaeth y gystadleuaeth ers 2020 – Caryl Bryn, Marged Tudur, a nawr Grug Muse.

Mae hynny teimlo’n “reit arwyddocaol”, meddai Grug Muse.

“Un wennol ni wna wanwyn, ond ti’n gweld yr arwyddion dim jyst yn y wobr yma ond yn fwy eang hefyd – bod cyfrolau a barddoniaeth gan fenywod yn fwy cyffredinol yn cael sylw lot fwy amlwg yn y sîn.

“Boed o’n gyhoeddiadau, sydd dw i’n meddwl yn bwysig achos dyna sut ti’n cael pres allan o farddoni, dyna sut mae dy waith di’n cael ei gynnwys fel darnau llefaru Eisteddfod, darnau gosod maes llafur. Mae hynny’n bwysig wedyn o ran be’ mae plant yn yr ysgol yn ei weld a sut maen nhw’n gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn y sîn.

“Ond fyswn i hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd be’ sydd wedi bod yn digwydd ar Instagram a digwyddiadau byw, a’r ffordd mae merched yn arwain y ffordd mewn nifer o ffyrdd, yn enwedig ar Instagram.

“Efallai bod y rheiny ddim yn ffyrdd mor swyddogol a sefydliadol o ddathlu barddoniaeth ond mae’r rheiny hefyd yn bwysig, a bod y wobr yma’n rhan o newid mwy yn y sîn, gobeithio.”

Grug Muse | merch y llyn

Pleidlais Barn y Bobl: Sgwrs gyda Grug Muse

Dros yr wythnos nesaf, bydd golwg360 yn sgwrsio gyda’r holl awduron sydd wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni

Dod i’r brig yng nghategori Ffuglen Llyfr y Flwyddyn yn “sioc llwyr”

Cadi Dafydd

“Mi faswn i’n licio trio sgrifennu nofel arall, mae gen i egin o syniad bach yn fy mhen,” meddai Ffion Dafis, a gipiodd y wobr gyda’r nofel Mori