Roedd dod i’r brig yng nghategori Ffuglen Llyfr y Flwyddyn eleni yn “sioc llwyr” i Ffion Dafis, meddai.

Mori yw nofel gyntaf yr actores a’r cyflwynydd, ond mae hi’n awyddus i roi pen ar bapur ac ysgrifennu ail nofel.

Hela gan Aled Hughes a Hannah-Jane gan Lleucu Roberts oedd y ddwy nofel arall ar restr fer y categori Ffuglen.

Cafodd enillwyr y categori Ffuglen a Barddoniaeth eu cyhoeddi ar Radio Cymru neithiwr (nos Fawrth, Gorffennaf 19), a Grug Muse a’i chyfrol merch y llyn ddaeth i’r brig yn y categori Barddoniaeth.

Stori gyfoes bwerus sy’n dilyn Morfudd a’i hobsesiwn â merch drydanol sy’n anfon cais ffrind iddi ar y cyfryngau cymdeithasol yw Mori.

Mae ei pherthynas â hi yn gorfodi Morfudd i wynebu cyfrinachau ei gorffennol a throedio ar daith i fannau tywyll iawn.

“Roedd jyst cael bod yn y categori yma yn fraint, yn enwedig cael bod mewn categori efo Lleucu Roberts. Dw i wedi edmygu ei gwaith hi ers cymaint o flynyddoedd, ac wedi edmygu ei gwaith hi gymaint,” meddai Ffion Dafis wrth golwg360.

‘Gwthio fy ffiniau’

Syllu ar Walia’ oedd cyfrol gyntaf Ffion Dafis, ond roedd honno wedi’i hysgrifennu yn y person cyntaf ac yn “chwarae o gwmpas efo genres gydag elfennau hunangofiannol”.

“Roeddwn i yna pwysleisio yn hwnna fy mod i’n chwarae o gwmpas efo genre, ychydig o ffaith ac ychydig o ffuglen,” meddai.

“Ar ôl Syllu ar Walia’ roeddwn i wedi mwynhau’r profiad yn fawr iawn, ac mi wnaeth Y Lolfa ofyn a fyddai gen i ddiddordeb trio sgrifennu nofel.

“Wedyn mi benderfynais i ‘pam lai?’ achos roeddwn i eisiau gwthio ffiniau fy hun a gweld a fyddwn i’n gallu ffeindio’r hunanddisgyblaeth a gweld os fyswn i’n gallu cadw llinynnau storïol i fynd.

“Efo Syllu ar Walia’ roedden nhw fwy o ysgrifau mewn ffordd, mwy o bethau byrion, ond mae cynnal llinynnau storïol yn stori hollol wahanol. Roeddwn i eisiau gweld os oedd gen i’r gallu a’r amynedd a’r hunanddisgyblaeth i wneud hynny.

“[Fe wnes i] fwynhau. Unwaith wnes i ddechrau eistedd lawr a sylwi bod fy ymennydd i’n ffeindio ryw gilfachau cudd, mi wnaeth hi ddechrau llifo.”

‘Egin syniad’

Mae prif gymeriad y nofel, Morfudd, yn wrth-arwres, meddai Ffion Dafis.

“Mae gen ti gydymdeimlad tuag ati ar brydiau ond wedyn ti’n ei chasáu hi ar brydiau,” eglura, gan ddweud mai ei phrif ddylanwadau yw awduron eraill fel Leila Slimani a Lorrie Moore.

“Dw i’n gobeithio fy mod i wedi mynd â’r darllenydd ar daith, ac wedi rhoi digon o gefndir hanesyddol i Morfudd heb fod yn gor-sgrifennu ei chefndir hi, bod gennym ni gydymdeimlad tuag ati ac yn uniaethu efo hi.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n gwneud y pethau mae lot o bobol yn meddwl eu gwneud, efallai, ond ddim â’r hyder i’w gwneud ac i’w dweud.

“Mae hi ar y cyrion. Dw i’n licio fy mod i wedi creu rhywun sydd ar gyrion cymdeithas.

“Mi faswn i’n licio trio sgrifennu nofel arall, mae gen i egin o syniad bach yn fy mhen. Ffeindio’r amser ydy lot ohono fo.

“Ond unwaith y ffeindia i’r bwlch bach yna, dw i’n gobeithio y gwna i eistedd lawr a sgrifennu un arall – fyswn i wrth fy modd.”

Bydd enillwyr y categorïau Plant a Phobl Ifanc a’r categori Ffeithiol Greadigol yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru heno (nos Fercher, Gorffennaf 20), cyn cyhoeddi’r Prif Enillydd ac enillydd Barn y Bobl nos fory (nos Iau, Gorffennaf 21).