Mae ymgyrchwyr wedi croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r achos dros agor rheilffordd rhwng Aberystwyth a’r de.

Fel rhan o Gynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi ymrwymo i ddatblygu’r achos erbyn 2025-27.

Yn ôl Traws Link Cymru, grŵp Ymgyrch Rheilffordd Gorllewin Cymru, bydd Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yn “amlygu y tu hwnt i amheuaeth resymol yr angen i adfer y coridor rheilffordd gogledd-de”.

Byddai ei ail-agor yn “ysgogiad mawr i ddatblygiad economaidd” y gorllewin, yn ôl yr Athro Mike Walker, cadeirydd y grŵp.

“Ddydd Sul yma, Gorffennaf 30, bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru y bu disgwyl mawr amdani yn agor yn Nhregaron yng Ngheredigion, yn dilyn dwy flynedd o absenoldeb oherwydd pandemig Covid,” meddai.

“Mae Traws Link Cymru, grŵp Ymgyrch Rheilffyrdd Gorllewin Cymru, am fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno’n dda i bwyllgor trefnu’r Eisteddfod a phawb sy’n cymryd rhan ac yn cystadlu ym mhrif ddigwyddiad diwylliannol y genedl.

“Fodd bynnag, o ran seilwaith trafnidiaeth lleol, mae yna faterion sylweddol y mae angen mynd i’r afael â nhw, yn enwedig seilwaith ffyrdd yng nghanol Ceredigion a’i allu i ymdopi â digwyddiad a ddaw â degau o filoedd o ymwelwyr i Dregaron a’r cyffiniau.

“Nid oes unrhyw fynediad cefnffordd o gwbl i’r dref, ac mae gwasanaeth bws gwennol yn gorfod cael ei ddarparu gan gwmni o Ogledd Cymru a oedd yn gyfrifol am weithrediad tebyg yn yr Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 2019.

“Mae’n eironig braidd fod Maes yr Eisteddfod wedi ei leoli ger llwybr yr hen reilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin. Cafodd y lein ei chau i deithwyr ym mis Chwefror 1965, ac er 2013 mae Traws Link Cymru wedi bod yn ymgyrchu’n frwd dros ei adfer.

“Mae’n drasiedi nad oes darpariaeth i deithwyr rheilffordd ar gael gan y byddai hyn wedi bod yn hanfodol ar gyfer cludo pobl i Eisteddfod Tregaron.”

‘Ysgogiad economaidd’

Mae’r grŵp wedi cael eu calonogi gan y Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Cenedlaethol, meddai wedyn.

“Yn wir, mae Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yn amlygu y tu hwnt i unrhyw amheuaeth resymol yr angen i adfer y coridor rheilffordd gogledd-de strategol hwn.

“Byddai adfer y rheilffordd yn ysgogiad mawr i ddatblygiad economaidd rhanbarth Gorllewin Cymru.

“Byddai’n darparu mathau newydd o gyflogaeth ac felly yn annog cadw pobl ifanc yn yr ardal, a thrwy hynny yn cryfhau ein hiaith a’n diwylliant Cymreig cyfoethog a adlewyrchir mor gryf yn yr Eisteddfod Genedlaethol.”