Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi y bydd myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn gymwys i gael mwy o gymorth ariannol o fis Medi ymlaen, fel rhan o becyn cymorth ychwanegol gwerth £3.5m.

Bydd y cymorth ariannol ychwanegol ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yng Nghymru drwy’r Fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol, a fydd yn darparu bron i £10m dros y tair blynedd nesaf i helpu gweithwyr cymdeithasol y dyfodol.

Bydd israddedigion cymwys sy’n astudio am radd mewn gwaith cymdeithasol yn gallu cael hyd at £3,750 y flwyddyn dros gyfnod y cwrs tair blynedd, yn ogystal â’r cyllid sydd ar gael iddyn nhw drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Bydd myfyrwyr ôl-raddedig yn gallu cael £12,715 y flwyddyn dros gyfnod eu cwrs dwy flynedd.

Bydd hyn y lleihau’r benthyciad y bydd angen i fyfyrwyr ei ad-dalu ar ôl gorffen astudio.

Mae hwn yn gynnydd o fwy na 50% o gymharu â’r fwrsariaeth bresennol ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion.

Mae gwaith cymdeithasol yn newid, mae anghenion pobol yn newid, ac mae achosion yn dod yn fwy cymhleth.

Mae’r pandemig wedi rhoi pwysau ychwanegol ar waith cymdeithasol ac mae heriau recriwtio a chadw staff yn cynyddu.

Mae’r Fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol yn ysgogi pobol i ddilyn hyfforddiant gwaith cymdeithasol, gyda’r nod o feithrin gweithlu gwaith cymdeithasol cynaliadwy yng Nghymru.

Y cynnydd yn y fwrsariaeth yw’r cam cyntaf mewn cynlluniau i gynyddu’r nifer sy’n cael eu recriwtio i’r sector gwaith cymdeithasol, ac mae disgwyl i Gofal Cymdeithasol Cymru gyhoeddi cynllun ar gyfer y gweithlu gwaith cymdeithasol yr haf hwn.

‘Rôl hollbwysig’

“Bydd yr hyn rydym yn ei gyhoeddi yn darparu’r cymorth ariannol ychwanegol y mae mawr ei angen ar fyfyrwyr gwaith cymdeithasol,” meddai Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

“Bydd yn helpu mwy o bobol i hyfforddi fel gweithwyr cymdeithasol, eu helpu i aros ac i gwblhau eu cwrs ac yn meithrin capasiti o fewn y system.

“Drwy gefnogi gweithwyr cymdeithasol y dyfodol wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf i mewn i’r sector, gallwn recriwtio a chadw mwy o staff yn y sector.

“Ein prif nod ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yw bod y proffesiynau i gyd yn cael yr un parch.

“Mae gweithwyr cymdeithasol yn chwarae rôl hollbwysig yn ein cymunedau, yn cefnogi pobol i gael rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.

“Maen nhw’n ganolog i’n system gofal cymdeithasol ac yn allweddol i ddarparu gofal effeithiol, sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion ac i’r cymunedau lle maen nhw’n byw”

‘Gwerthfawrogi’r gwaith gwerthfawr’

“Rwy’n hynod o falch gweld bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth pellach i’r sector gofal cymdeithasol ac yn benodol, i weithwyr cymdeithasol yng Nghymru,” meddai Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru.

“Cyflwynodd Gofal Cymdeithasol Cymru’r dystiolaeth i alluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu’r fwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr gwaith cymdeithasol.

“Rydyn ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r gwaith gwerthfawr y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud ar draws Cymru, ac yn edrych ymlaen at weld mwy o fyfyrwyr yn ymuno â’r proffesiwn.

“Byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithlu ar gyfer gwaith cymdeithasol yn fuan sy’n nodi’r ystod o gamau y mae angen inni eu cymryd gyda phartneriaid i ddatblygu a chefnogi gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru sy’n gweithio ym mhob cymuned yn ein gwlad.

“Mae gwella’r fwrsariaeth yn elfen allweddol o’r cynllun hwn.”