Wedi’i eni yn Llanelli, un o gadarnleoedd rygbi Cymru, mae Syr Robert Buckland, Aelod Seneddol De Swindon, yn fwy cyfarwydd â’r bêl hirgron, ond mae Ysgrifennydd newydd Cymru wedi bod ym man geni pêl-droed Cymru dros yr wythnos ddiwethaf.

Ond nid pawb oedd yn hapus.

Fe gymerodd Syr Robert Buckland ran mewn digwyddiad a gafodd ei gynnal gan Gyngor Wrecsam ar y Cae Ras, cartref tîm pêl-droed y ddinas newydd sy’n chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol.

Roedd e yno ochr yn ochr â Jacob Rees-Mogg, y Gweinidog Cyfleoedd Brexit ac Effeithlonrwydd y Llywodraeth, a Sarah Atherton, Aelod Seneddol Ceidwadol Wrecsam.

Yn ôl Swyddfa Cymru, roedd Syr Robert Buckland yno gyda’i gyd-weinidog a’r Aelod Seneddol “i drafod y cyfleoedd y gallai rhaglen Places for Growth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddod â nhw i ddinas fwyaf newydd Cymru”.

Bwriad y rhaglen Places for Growth yw cynyddu nifer y gweision sifil sy’n gweithio y tu allan i Lundain, gyda’r nod o hybu twf mewn ardaloedd eraill, a gwneud swyddi yn y gwasanaeth sifil yn fwy deniadol heb y costau uchel o fyw yn Llundain neu gymudo yno.

‘Dim diddordeb yn y clwb’

Ond nid pawb, yn enwedig ymhlith cefnogwyr Wrecsam, oedd yn hapus yn sgil y newyddion.

“AS Torïaidd lleol neu beidio… pwy ddiawl yn y clwb sy’n meddwl ei fod o’n syniad da cymeradwyo’r math yma o gyfle am lun? Does gan y bobol hyn ddim diddordeb yn y clwb… dim ond porthi eu balchder eu hunain. Mae dod â Jacob Rees-Mogg i mewn ond yn ei wneud o’n waeth,” meddai @alarchwen1968 ar Twitter.