Bydd Wizz Air yn cwtogi eu hamserlen hedfan ym Maes Awyr Caerdydd dros fisoedd y gaeaf oherwydd “pwysau macro-economaidd cynyddol”.

Er bod y newyddion yn “siom” i Faes Awyr Caerdydd, newid dros dro yn unig fydd hwn, meddai’r cwmni wrth Fwrdd y Maes Awyr.

Bydd yr amserlen yn cael ei chwtogi o Fedi 19, ac mae’r cwmni wedi ymrwymo i ailddechrau eu hamserlen haf o Faes Awyr Caerdydd o fis Ebrill 2023.

Cafodd gwasanaethau Wizz Air eu lansio ym Maes Awyr Caerdydd fis Ebrill eleni.

‘Penderfyniad anodd’

Bydd staff y cwmni’n cael cynnig cyfle i adleoli dros y gaeaf er mwyn gallu dychwelyd yn gyflym i Gymru ym mis Ebrill 2023, yn ôl Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd.

“Er gwaethaf y penderfyniad masnachol anodd hwn, rwy’n croesawu’r newyddion y bydd Wizz Air yn parhau i gynnig gwasanaethau o Gaerdydd dros dymor y gaeaf i Milan a Bucharest, ac i gryfhau ei ymrwymiad i Gymru; mae tocynnau ar gyfer teithio o Faes Awyr Caerdydd yn ystod haf 2023 ar gael eisoes drwy wizzair.com,” meddai.

“Penderfyniad masnachol rhwng y cwmni hedfan a bwrdd y Maes Awyr oedd y cytundeb i weithredu o Faes Awyr Caerdydd.

“Dylai teithwyr a archebodd yn uniongyrchol drwy Wizz Air gysylltu â’r cwmni hedfan; dylai’r rheini a archebodd drwy asiant teithio gysylltu â’u hasiant teithio.

“Er bod yr amseru’n anffodus, mae Bwrdd y Maes Awyr yn parhau’n bositif am ei adferiad ar ôl y pandemig gan fod cryn alw o hyd am deithio eleni.

“Bydd fy swyddogion yn parhau i gynnal deialog agos ac agored gyda Bwrdd y Maes Awyr ac er gwaethaf y cyhoeddiad hwn, rwy’n parhau’n bositif am adferiad y maes awyr ac am ei dwf yn y pen draw.”

‘Hynod siomedig’

“Mae hyn yn newyddion hynod siomedig i Faes Awyr Caerdydd, sydd eisoes wedi gweld nifer y teithwyr yn gostwng ac sy’n parhau i wneud colled,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae angen maes awyr ar Gymru fydd yn denu cwmnïau awyr i roi hwb i’r economi ac i ddangos Cymru i’r byd.

“Mae angen i weinidogion Llafur fonitro’r sefyllfa a rhoi eglurder brys ynghylch pryd fydd gwasanaethau’n ailddechrau a pha lwybrau amgen sy’n cael eu cynllunio gan gwmnïau awyr eraill.”