Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ymosodiad rhyw honedig a ddigwyddodd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yr wythnos ddiwethaf.

Mewn datganiad, dywed yr heddlu eu bod nhw wedi derbyn adroddiad o ymosodiad rhyw “yn ardal y prif lwyfan” am oddeutu 8:50yh nos Fercher (Awst 3).

Cafodd bachgen 17 oed ei arestio, cyn cael ei ryddhau dan ymchwiliad.

Ychwanega’r heddlu nad oes awgrym fod diod unrhyw un wedi cael ei sbeicio.

Yn wreiddiol, roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi mai dyn 18 oed oedd wedi’i arestio, cyn egluro mai llanc 17 oed yw e.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n parhau i ymchwilio i’r digwyddiad, ac mae golwg360 wedi gofyn i’r Eisteddfod am ymateb.