Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r awdur a’r darlunydd Raymond Briggs, sydd wedi marw’n 88 oed.

Ei waith fwyaf adnabyddus yw The Snowman, a gafodd ei droi’n animeiddiad ar gyfer Channel 4 yn yr 80au ac sydd wedi cael ei dangos ar y teledu bob Nadolig ers hynny.

Mae’r gân ‘Walking in the Air’, a gafodd ei hysgrifennu ar gyfer yr animeiddiad, yn cael ei chysylltu ag Aled Jones, ar ôl iddo berfformio fersiwn ohoni ychydig flynyddoedd ar ôl i’r animeiddiad ddod allan.

Cafodd Raymond Briggs ei eni yn Llundain, ac ar ôl astudio celf a phaentio, daeth yn arlunydd proffesiynol.

Mae 5.5m o gopïau o The Snowman wedi cael eu gwerthu dros y byd, ac mae ei weithiau eraill yn cynnwys When the Wind Blows, Father Christmas, a Fungus the Bogeyman.

‘Dyled o ddiolch’

“Am etifeddiaeth y mae’n ei gadael ar ei ôl,” meddai Aled Jones wrth roi teyrnged iddo ar ei raglen ar Classic FM heddiw (dydd Mercher, Awst 10).

“Mae ei lyfrau wedi cyffwrdd miliynau o bobol o amgylch y byd, ac am ddyled o ddiolch sydd gen i i’w greadigaeth orau un.

“Diolch, Raymond.”

‘Anrheg i ddynoliaeth’

Cafodd ei nofel graffeg, When the Wind Blows, ei throi yn ffilm hefyd, gan ystyried ymosodiad niwclear ar Brydain gan yr Undeb Sofietaidd o safbwynt cwpwl wedi ymddeol.

“Trist clywed am farwolaeth Raymond Briggs,” meddai Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, ar Twitter.

“Fe wnaeth ysgrifennu a darlunio un o’r llyfrau a gafodd yr effaith ddyfnaf arna i, When the Wind Blows.

“Syml, byr, ond torcalonnus o effeithiol.

“Mae’n nofel graffeg sydd wir yn anrheg i ddynoliaeth.

“Diolch, Raymond. Heddwch.”

Yn ôl ei deulu, bu Raymond Briggs farw ddoe (dydd Mawrth, Awst 9), ac mewn datganiad a gafodd ei ryddhau drwy ei gyhoeddwyr, Penguin Random House, dywedon nhw eu bod nhw’n “gwybod bod llyfrau Raymond yn cael eu caru ac wedi cyffwrdd miliynau o bobol o amgylch y byd, a fydd yn drist o glywed y newyddion hyn”.