Mae oriel gelf gyfoes yng Nghaerffili wedi bod yn helpu’r gwasanaeth cyngor a chyfieithu Helo Blod i gyrraedd miliwn o eiriau, ar ôl defnyddio cymorth cyfieithu am ddim y gwasanaeth i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned ac yn eu gwaith celf.
Gofod arddangos yw’r Galeri, sy’n rhan o Ganolfan Groeso Caerffili.
Mae’n arddangos celf a chrefft, gemwaith, serameg, gwydr, pren a thecstilau wedi’u gwneud â llaw gan amryw o wneuthurwyr dawnus o Gymru.
Mae’r gofod, sy’n boblogaidd gyda thrigolion lleol a thwristiaid, wedi cofrestru gyda Helo Blod, gwasanaeth cynghori a chyfieithu cyflym, cyfeillgar a rhad ac am ddim gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau bach i elwa drwy ddefnyddio rhagor o Gymraeg.
Mae’r Galeri, sy’n cael ei rhedeg gan yr artist lleol Karen Evans, yn cynnig disgrifiadau dwyieithog ar gyfer eu holl ddarnau celf, lle mae Karen yn elwa o ddefnyddio’r gwasanaeth cyfieithu a gwirio ar-lein.
Mae Helo Blod yn dathlu cyfieithu miliwn o eiriau fis yma ar ôl cyflwyno mwy na 1,000 o fusnesau ledled Cymru i fanteision defnyddio rhagor o Gymraeg, a hynny fel rhan o ymdrech i helpu i ddyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050.
Mae Helo Blod, a gafodd ei lansio ym mis Mawrth 2020 i gefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, yn cynnig cyfieithu hyd at 500 gair y mis am ddim i fusnesau ac elusennau.
Mae’r gwasanaeth cyflym a chyfeillgar hefyd yn cynnig gwasanaeth gwirio testun hyd at 1,000 o eiriau yn ogystal â chyngor ymarferol, arweiniad a chymorth i helpu busnesau i ddefnyddio rhagor o Gymraeg, gan gynnwys darparu arwyddion dwyieithog.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae 1,121 o fusnesau ledled Cymru wedi dweud helo wrth Blod naill ai ar-lein neu dros y ffôn, gyda’r gwasanaeth yn profi’n boblogaidd ymhlith caffis, siopau, gwasanaethau proffesiynol a chynhyrchwyr bwyd a diod sydd am ddefnyddio rhagor o Gymraeg ar eu gwefan, ar arwyddion, ar y cyfryngau cymdeithasol neu i hysbysebu.
‘Amhrisiadwy’
Mae Karen Evans yn siarad Cymraeg yn hyderus ond mae’n dweud bod gwasanaeth Helo Blod wedi bod yn amhrisiadwy yn ei helpu i sicrhau bod pob darn o destun Cymraeg yn ei siop wedi’i sillafu’n gywir ac wedi’i brawfddarllen.
Yn ogystal â’r gwasanaeth ar-lein, mae’r Galeri wedi elwa o becynnau adnoddau Cymraeg Helo Blod hefyd, gan gynnwys arwyddion Ar Agor/Ar Gau, bathodynnau Iaith Gwaith a llyfrynnau Cymraeg, er mwyn helpu i amlygu’r defnydd o’r Gymraeg yn y busnes ac annog cwsmeriaid i siarad Cymraeg ac ymgysylltu â’r iaith wrth ymweld.
Mae Karen Evans hefyd yn defnyddio gwasanaeth cymorth ar-lein Helo Blod i gael cymorth ar adegau prysur o’r flwyddyn, gan gynnwys Dydd Santes Dwynwen a Dydd Gŵyl Dewi, pan mae’n defnyddio ffyrdd creadigol o ymgysylltu â chynulleidfa’r Galeri drwy ei chyfrifon cyfryngau cymdeithasol a’i gwefan sy’n gwbl ddwyieithog.
Wrth siarad am fanteision defnyddio’r Gymraeg mewn busnes lle gallai cwsmeriaid fod yn lleol neu’n dwristiaid, dywed Karen Evans ei bod hi’n “siaradwr Cymraeg angerddol” a’i bod hi’n “bwysig i fi ymgorffori’r Gymraeg yn y gwaith bob dydd o redeg y Galeri”.
“Mae wedi bod yn bleser cael gweld y Gymraeg yn tyfu yn y busnes ac yn y gymuned ehangach ac mae’n braf iawn clywed cwsmeriaid yn dweud, ar ôl bod yn y Galeri a chael cyfle i ymarfer eu Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol, eu bod wedi ailddarganfod eu cariad at yr iaith ar ôl bod heb ei defnyddio ers tro a’u bod yn edrych ymlaen at gael defnyddio mwy arni,” meddai.
“Drwy gyflwyno pobol i’r Gymraeg drwy fy nghelf a fy musnes, dw i’n gwneud fy rhan i ledaenu grym y Gymraeg i’r gymuned ehangach ac i bobol sy’n ymweld â Chaerffili a Chymru.
“Yn ogystal ag annog y Gymraeg yn y Galeri, mae’n wych meddwl bod cwsmeriaid wedyn yn mynd â darn o’r iaith adre’ gyda nhw, p’un a ydyn nhw’n ei siarad ai peidio.”
Manteision Helo Blod
“Er fy mod i’n siarad Cymraeg fy hunan, dw i wastad yn gwerthfawrogi pâr proffesiynol o lygaid i wirio fy nghyfieithiadau, a dyna pam mae’n braf gwybod bod Helo Blod ar ben arall y ffôn neu ddim ond clic i ffwrdd,” meddai Karen Evans, wrth drafod manteision gwasanaeth Helo Blod.
Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, hefyd wedi bod yn canu clodydd y gwasanaeth.
“Mae Helo Blod, ein gwasanaeth cynghori a chyfieithu rhad ac am ddim i fusnesau ac elusennau wedi helpu miloedd o bobol i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu bywyd bob dydd,” meddai.
“Gall defnyddio’r iaith eich helpu i ledaenu eich negeseuon ymhellach, troi cwsmeriaid yn ffyddloniaid a dod â chymunedau at ei gilydd.
“Os ydych chi’n fusnes, yn elusen neu’n fenter gymunedol, rhowch gynnig ar ein gwasanaeth heddiw i gynyddu faint o Gymraeg rydych chi’n ei defnyddio.
“Gyda’n gilydd gallwn ddyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050.”
Gall busnesau gysylltu â Helo Blod drwy ffonio 03000 25 88 88 neu drwy chwilio am ‘Helo Blod’ heddiw i gael cymorth i ddefnyddio rhagor o Gymraeg yn eu busnes.