Roedd Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yn “llwyddiant o’r funud gyntaf i’r funud olaf”, yn ôl Ifan Davies, cynghorydd Tregaron.

Ac mae’r gŵr sydd wedi cynrychioli’r dref fel aelod annibynnol ers mis Mai eleni yn hynod falch o’r croeso gafodd Eisteddfodwyr o bob cwr o Gymru gan drigolion y sir.

“Roedd hi’n llwyddiant o’r funud gyntaf i’r funud olaf,” meddai wrth golwg360.

“Roedd sawl buddugoliaeth bersonol i mi fel Cadeirydd y Cyngor Sir a’r cynghorydd lleol.

“Un uchafbwynt i ni yma yn Nhregaron oedd bod Cyngor y Dref wedi mynd ati i godi cerrig cofio ein hunain.

“Fe gawson ni’n Archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn rhoi sêl bendith ar y cerrig a chynnal seremoni fach.

“Ac er gwaethaf y cyfryngau a phob peth roedd y traffig yn hwylus.

“Roedd hi hefyd yn braf clywed pawb yn brolio’r croeso a gafwyd gan drigolion Ceredigion, gweld pobol wedi addurno eu cartrefi wrth ddreifio drwy bentrefi.

“Soniodd sawl un am hynny ar sawl llwyfan dw i’n credu, pa mor lliwgar oedd Ceredigion a pha mor groesawgar oedden nhw.

“Fel Cadeirydd a chynghorydd dyna oedd yr uchafbwyntiau i mi.

“A hefyd pa mor hwylus oedd y Maes, roedd yr Eisteddfod ei hun wedi dod yn rhan o Dregaron, yn rhan o’r dref.

“Roedd e fel un pentref mawr.”

‘Talcen caled’

Pwnc trafod sydd wedi bod yn amlwg ymhob Eisteddfod ers rhai blynyddoedd ydi a yw’r Brifwyl yn dod â budd economaidd digonol i’r dref neu ardal lle mae’n cael ei chynnal.

Doedd hi ddim gwahanol yn Nhregaron, gydag ambell un yn dweud bod y ffaith fod cymaint i bobol ei wneud ar Faes yr Eisteddfod yn golygu nad oedd ymwelwyr yn mynd i wario eu harian yn y dref ei hun.

Mae Ifan Davies yn credu bod y mater yn “dalcen caled ymhob Eisteddfod”, er mae’n mynnu bod busnesau Tregaron “i gyd yn hapus erbyn diwedd yr wythnos”.

“Dw i’n credu bod hynny wedi mynd yn ychydig o dalcen caled ymhob Eisteddfod nawr,” meddai.

“Mae yna gymaint ar y Maes i deuluoedd bellach.

“Efallai y bod e’n rhywbeth y bydd yn rhaid i siroedd eraill ddysgu ohono.

“Ond wedi dweud hynny, dw i’n credu o ddydd Iau ymlaen yn bendant bod pob un am fynd i Dregaron ac o siarad gyda busnesau Tregaron roedd pob un yn hapus iawn o ddydd Iau ymlaen.

“Doedd neb yn achwyn a dw i’n credu bod y Talbot a’r Banc a rheini i gyd yn hapus erbyn diwedd yr wythnos.

“Ond mae hwnna yn dalcen caled ac mae e’n mynd i fod yn dalcen caled ymhob Eisteddfod.

“Efallai ei fod e’n rhywbeth y mae’n rhaid i’r Eisteddfod a’r ardaloedd lle mae’n cael ei gynnal edrych arno fe a dysgu rhai gwersi o’r hyn sydd wedi digwydd yn Llanrwst a Thregaron.”

‘Llwyddiant ysgubol’

Ar y cyfan, dywed Ifan Davies fod yr Eisteddfod wedi bod yn “llwyddiant ysgubol”.

“Dw i’n meddwl fod y ffaith bod y Cyngor Tref wedi rhoi sgrîn fawr lan ar sgwâr y Talbot wedi gweithio’n dda iawn i gadw pobol lawr yna,” meddai wedyn.

“A chwarae teg, y Cyngor Tref a’r Cyngor Sir wnaeth ariannu hwnna felly efallai y dylai’r Eisteddfod feddwl am ariannu rhywbeth fel yna.

“Dw i’n credu bod angen i ni weithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr bod ardaloedd yn elwa achos maen nhw’n cyfrannu lot yn ariannol tuag at yr Eisteddfod ac mae’n rhaid iddo weithio’r ddwy ffordd.

“Mae’n rhaid i chi ganmol yr Eisteddfod hefyd, doedd dim munud lle nad oedd dim byd ymlaen.

“Roeddwn i’n meddwl ei fod e wedi bod yn llwyddiant ysgubol a galla i ddim ond ei chanmol hi.

“Ac mae eisiau diolch i Dregaron ac i’r ardal am gefnogi’r Eisteddfod mor dda.”