Mae hi’n “grêt” bod sioeau amaethyddol Cymru’n trefnu mwy o adloniant cerddorol yn ystod y dydd, yn ôl Welsh Whisperer.

Dyna’r patrwm yn sioeau amaethyddol Iwerddon, meddai’r cerddor, ac mae sioeau Cymru’n dechrau efelychu hynny a rhoi llwyfan i artistiaid drwy gydol y dydd, yn ogystal â’r nos.

Roedd y Welsh Whisperer yn canu deirgwaith yn Sioe Môn ddoe (dydd Mawrth, Awst 9), a dywed ei bod hi’n ymddangos bod y sioe wedi gwneud “mwy o ymdrech tro yma” i sicrhau adloniant.

Sesiwn Drymio Affricanaidd yn Sioe Môn (Llun: Manon Wyn)

Dyma’r tro cyntaf i Sioe Môn ddychwelyd wyneb yn wyneb ers 2019, ac fel rhan o’r arlwy ar lwyfan newydd Y Cowt ddoe, roedd perfformiadau gan Mei Gwynedd, Elin Fflur, Fleur de Lys a Candelas hefyd.

Bydd artistiaid fel Dylan Morris a’r Moniars yn chwarae yno heddiw (dydd Mercher, Awst 10) cyn i’r sioe ddod i ben.

“Maen nhw wedi cael llwyfan a set up gwahanol ers y tro diwethaf fues i’n Sioe Môn,” eglura’r Welsh Whisperer wrth golwg360, gan ddweud bod ei berfformiadau wedi mynd yn “grêt” ddoe.

“Maen nhw wedi gwneud y lle tipyn yn fwy nawr, felly mae ganddyn nhw le o’r enw Llwyfan y Cowt, sydd tipyn bach fel Llwyfan y Maes yn yr Eisteddfod ond ar scale llai. Mae o’n debyg i’r bandstand yn Builth hefyd.

“Mae yna lwyfan a sgrîn fawr, maen nhw’n ffilmio’r artistiaid hefyd, llwyth o lefydd bwyd, a bar. Roedd o’n grêt achos mae’n rhywle i ymgynnull a phobol gael eistedd lawr a chyfarfod, roedd y torfeydd dipyn mwy na thro diwethaf lle roedden ni jyst wrth stondin.

“Dw i wedi gwneud llond llaw o flynyddoedd nawr cyn Covid, dw i wedi gweld y Moniars ac ambell un arall lleol yno, ond maen nhw wedi gwneud mwy o ymdrech tro yma. Maen nhw wedi rhoi tipyn o bethau ymlaen dros y ddau ddiwrnod.”

Welsh Whisperer (Llun: Manon Wyn)

‘Siop ffenest i’r byd amaeth, ond hefyd yn ddiwrnod allan’

Mae’n ymddangos bod mwy o sioeau amaethyddol Cymru yn bwcio artistiaid ar gyfer y dydd nawr, meddai’r Welsh Whisperer.

“Mae canu yn y show dances yn y nos wastad wedi bod yn beth, ond maen nhw wedi gweld bod ffordd, efallai, o ddenu mwy o bobol sydd ddim yn ffermwyr, ac sydd ddim, efallai, mewn i amaeth ond bod hyn yn rhywbeth i’w denu nhw mewn i’r sioe,” meddai.

“Diwrnod allan yw’r sioe i bob un, mae lot o deuluoedd yn mynd i’r sioeau ac maen nhw eisiau rhywbeth i’w wneud. Maen siop ffenest i’r byd amaeth, ond hefyd mae’n ddiwrnod allan – pob math o stondinau.

“Mae hynna wedi bod yn grêt dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Sioe Nefyn wedi dechrau gwneud hynny, dw i wedi bod yna efo’r band, fe wnaethon ni’r un peth yn Aberystwyth, Aberteifi… Felly, maen nhw’n dechrau dod.

“Dyna ydy’r model yn Iwerddon, lle mae’r sioeau amaethyddol dipyn mwy na’r rhai Cymraeg ond mae adloniant ymlaen drwy’r dydd, mae o’n rhan o’r peth so mae cerddoriaeth ym mhob man.”

‘Heriol’ dal hi’n bob man

Bydd Welsh Whisperer yn chwarae yn sioe amaethyddol Sir Ddinbych a sioe Dinbych a Fflint, ac mae sawl gig gyda’r band dros yr wythnosau nesaf – gan gynnwys un yn Llanfihangel Glyn Myfyr yn Sir Ddinbych nos Wener (Awst 12), Parc Gwledig Pen-bre (Awst 16), a thafarn y Drovers yng Nghas-mael yn Sir Benfro (Awst 20).

“Mae lot yn mynd ymlaen dros yr haf. Roedd pob un yn poeni, efallai, bod pethau’n mynd i fod yn araf yn dod yn ôl. Ac mi roedden nhw reit ar y dechrau, yn enwedig yng nghefn gwlad gyda threfnwyr sioeau, efallai, ychydig bach yn fwy traddodiadol,” meddai.

“I fod yn onest, mae’r ffôn wedi bod yn canu a dw i wedi bod yn troi lawr gwaith achos mae cymaint o bethau’n mynd ymlaen yr un pryd.

“Mae hynny ychydig bach yn heriol, â dweud y gwir, pan ti’n mynd i bentref bach ac fel arfer does dim lot yn digwydd, ond nawr mae tri neu bedwar peth yn digwydd o fewn pum milltir ac mae’n job weithiau oherwydd mae’r dorf yn cael ei rhannu.

“Ond, rydyn ni’n falch bod pethau’n ôl ac ein bod ni’n ôl ar yr hewl.”