Gallai’r Eisteddfod fynd ati i drafod newid enw ei chystadleuaeth flynyddol i’r rheiny sydd wedi llwyddo i ddysgu’r Gymraeg, ‘Dysgwr y Flwyddyn’.

Yn ddiweddar mae trafodaeth wedi bod yn mynd rhagddi am hyn ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru, gyda’r cyflwynydd ei hun o’r farn y byddai’n well cyfeirio at y bobol hynny sydd wedi dysgu’r Gymraeg fel ‘Siaradwr Newydd’ yn hytrach na ‘Dysgwr’.

Gofynnodd golwg360 i Brif Weithredwr yr Eisteddfod p’un a fyddai’r brifwyl yn ystyried newid enw’r gystadleuaeth i adlewyrchu’r galw.

“Mi fuodd yna drafodaeth eleni am be’ ni’n galw ‘Maes D’,” meddai Betsan Moses.

“Mae e wedi newid yn ôl i ‘Maes D’ – mi fuodd e’n gornel ‘Shwmai Sumai’.

“Mi allai hynny gael ei fwydo … Bydd y pwyllgorau canolog yn trafod ac yn edrych ar y peth.

“Rydyn ni’n cydweithio hefyd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg ac yn edrych ar beth yw’r derminoleg bwrpasol ar gyfer y defnydd.

“Gawn ni sgwrs gyda’n partneriaid ac mi wnawn ni ei fwydo i’r pwyllgorau canolog.”

Ategodd Gwenllian Carr, Swyddog Cyfathrebu’r Eisteddfod, wedyn ei fod “i fyny i ddysgwyr.”

Galw am Ddydd Mercher y Dysgwyr

Cyn rhoi ei feirniadaeth ar gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn y seremoni brynhawn Mercher, awgrymodd Cyril Jones y dylid dynodi dydd Mercher yr Eisteddfod yn ‘ddiwrnod y dysgwyr a siaradwyr newydd’.

“Roeddwn i’n falch clywed bod y drafodaeth am ddysgu Cymraeg i oedolion yn fyw ar y maes,” meddai.

“Ro’n i’n gwrando’r bore ’ma – p’un ai ‘dysgwyr’ neu ‘siaradwyr newydd’ (ddylen ni ei ddefnyddio) ac yn y blaen.

“Gaf i ychwanegu un peth arall at y drafodaeth yna, drwy awgrymu y dylai’r Eisteddfod a Chymraeg i Oedolion sefydlu ddydd Mercher yn ddiwrnod y dysgwyr, a siaradwyr newydd.

“Rhowch docyn mynediad am ddim ddydd Mercher i bawb ledled Cymru sy’n mynd ati i ddysgu’r Gymraeg.”

Joe Healy o Gaerdydd, sy’n enedigol o Wimbledon yn ne Llundain, oedd enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2022. Dechreuodd ddysgu’r Gymraeg yn 2018.