Mae bardd a pherfformwraig a gafodd ei geni yng Nghymru yn dweud bod ei Chymreictod wedi bod yng nghysgod ei chefndir fel aelod o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar hyd ei hoes.

Cafodd Raine Geoghegan ei geni yn Nhredegar a’i magu yn Aberbargod cyn iddi symud gyda’i mam, oedd yn feichiog ar y pryd, i Middlesex yn blentyn, ar ôl i’w thad farw pan oedd hi’n 19 mis oed.

“Dw i’n tynnu ar fy mhrofiadau’n blentyn oedd yn byw gyda fy nheulu Romani ar yr aelwyd honno gyda’r holl gymeriadau lliwgar, rhai yn siarad yr iaith Romani, ac ro’n i’n arfer dychwelyd i Gymru ar wyliau ac ar gyfer y Nadolig,” meddai wrth golwg360.

Roedd hi’n un o nifer o siaradwyr yn lansiad arddangosfa Gypsy Maker 5 yn y Porth yng Nghwm Rhondda fis diwethaf, a bydd yr arddangosfa yn adeilad y Ffatri Bop tan Awst 26, yn gymysgedd o gelf a gwybodaeth am fywydau pobol o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Yn ystod y lansiad, bu Raine Geoghegan yn darllen rhai o’i cherddi am ei magwraeth ac yn canu ambell gân draddodiadol y byddai’n eu clywed ar yr aelwyd.

Darganfod Romani, ond colli’r Gymraeg

Ond mae hi’n teimlo’r awydd bellach i ailddarganfod ei Chymreictod, a hithau’n dal i fyw yn Lloegr ddegawdau’n ddiweddarach.

“Dw i’n teimlo fel bod yr ochr Gymreig yn fy mywyd wedi bod yng nghysgod yr ochr arall,” meddai.

“Rhan o’r hyn dw i eisiau ei wneud dros y flwyddyn nesaf yw dod yn ôl i Gymru i weld tipyn mwy o’m mamwlad a’m teulu yma, ac edrych ar yr iaith hefyd.

“Mae’n ddiddorol fy mod i wedi siarad Saesneg yn blentyn, ond hefyd wedi clywed Cymraeg a Romani, sy’n iaith dw i wedi dod i arfer â hi bellach ac yn gwybod tipyn amdani.

“Dw i’n ei siarad hi’n eitha’ da ond nid yn rhugl, ond dw i’n cael y Gymraeg yn anodd. Mae’r Gymraeg yn gysylltiedig â’m hysbrydolrwydd, felly hoffwn i ymchwilio iddi ymhellach.”

Ydy hi’n teimlo, felly, y byddai hi wedi teimlo mor agos at ei chefndir yn y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr pe bai hi wedi aros yng Nghymru?

“Na, dw i ddim yn meddwl,” meddai.

“Byddwn i’n dal wedi teimlo agosatrwydd a diddordeb yn y peth, oherwydd roedd fy mam-gu ac fy nhad-cu bob amser yn bresennol yn ein bywydau ni, ond dw i ddim yn meddwl y byddai wedi bod mor flaenllaw.

“O ran yr ochr yna ynof fi – a dw i wedi cwestiynu fy hun am hyn o’r blaen – pe bawn i wedi bod yng Nghymru, byddwn i wedi cysylltu mwy â’r diwylliant Cymreig, y chwedlau a’r straeon, a byddai mwy o gydbwysedd wedi bod.

“Ond nawr, yr ochr Romani yw’r peth mwyaf. Ond dw i’n ymwybodol fy mod i eisiau dod â’r Cymreictod yn ôl er mwyn cael mwy o gydbwysedd.”

Y celfyddydau’n arf i godi ymwybyddiaeth

Yn ôl Raine Geoghegan, roedd ganddi ddiddordeb yn y celfyddydau erioed, a hithau’n actores lwyfan, yn ddawnswraig ac yn rheolwr cwmni theatr.

“Dw i wedi bod yn ymwneud â’r celfyddydau erioed rywsut neu’i gilydd,” meddai.

“Hyd yn oed yn yr ysgol, roeddwn i bob amser mewn dramâu a fi oedd y cyntaf bob tro i wirfoddoli i wneud rhywbeth – dawnsio, canu neu actio – a dw i’n credu, o ran y gymuned hon, mae’n ffordd o ddod ymlaen a mynegi ein hunain mewn ffordd wahanol a cheisio bod yn rhan o’r brif ffrwd.

“Dyna’r nod, nid dim ond dawnsio gyda’r teulu. Ond dyna oedd y traddodiad, byddech chi’n gwneud ychydig o ddawns stepio i’r teulu neu byddech chi’n codi ar eich traed ac yn canu a byddai’r teulu’n rhoi arian i chi wedyn.

“Roedd e’n rhan o’r fagwraeth, felly bydd hi bod amser yno ond mae wedi cael ei gau i ffwrdd rywfaint hefyd. Dw i’n credu ei bod hi’n bwysig dod â hynny allan i’r gymuned ac yn rhan o ymwybyddiaeth y cyhoedd.”

Troi at ysgrifennu

Ond yn 40 oed, cafodd hi ddamwain a bu’n rhaid iddi roi’r gorau i actio a pherfformio, gan droi at ysgrifennu a dechrau ymchwilio i hanes ei theulu a’i chefndir yn y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

“Dw i’n ysgrifennu oherwydd mae’n ffordd o fynegi fy nghreadigrwydd,” meddai.

“Yn 40 oed ac wedi cael y ddamwain, treuliais i dipyn o amser yn y gwely yn wael iawn ac yn anabl, felly un o’r pethau ro’n i’n gallu gwneud oedd ysgrifennu.

“Dechreuais i ysgrifennu barddoniaeth a myfyrdodau a straeon byrion bach ac yn ddiweddarach, penderfynais i fynd yn ôl i’r brifysgol a gwneud gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol.

“O’r fan honno, dechreuais i ymchwilio fy nhreftadaeth yn y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a darganfod cyfoeth o ddeunydd y gallwn ni wneud defnydd ohono fe.

“Er enghraifft, straeon fy mam-gu pan oedd rhaid iddi adael y wagen a symud i mewn i dŷ, a dyna pryd ddechreuodd hi werthu blodau ar ôl symud yn ôl at ei mam a’i thad.

“Roedd hi’n un o 21 o blant, ac roedden nhw’n gwneud pob math o bethau gyda’i gilydd wrth symud o amgylch y wlad, a’r un peth o ran teulu fy nhad-cu hefyd.

“Roedd cyfoeth o ddeunydd ac fe wnes i ddechrau bwrw iddi.

“Mae hi jyst yn teimlo’n bwysicach fyth nawr fy mod i wedi dod yn aelod o lawer o gymunedau sy’n edrych ar draddodiadau Sipsiwn a Roma ein bod ni’n taflu goleuni ar y straeon hyn ac agweddau ar ein diwylliant a’n harferion ni a allai fod wedi cael eu colli.

“Mae’n bwysig iawn i fi ac artistiaid ac awduron creadigol o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, felly, ein bod ni’n gwneud hyn.

“Mae hi mor bwysig dod â chelf allan i ofodau fel y gofod arbennig hwn [yn y Porth], i ddangos i bobol beth rydyn ni’n ei wneud ac mae arddangos rhywfaint o’n taith ni’n bwysig dros ben, yn union fel mae unrhyw thema neu bwnc arall yn bwysig, i gael dangos pwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud, dyma ein diwylliant ni, dyma ein harferion ni, dyna beth rydyn ni eisiau ei fynegi, ei ddatblygu a’i hyrwyddo.”

Dyma Raine Geoghegan i egluro, yn Saesneg, beth yw cefndir ac ystyr un o’r caneuon traddodiadol mae’n ei chanu:

 

Romani

“Mae’n frawychus fel person o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar hyn o bryd”

Alun Rhys Chivers

Isaac Blake o gwmni Romani sy’n ymateb i ddeddfwriaeth a allai gynyddu’r stigma yn erbyn y gymuned, gan gynnig ffyrdd o frwydro’n ôl
Romani

Buddsoddiad Llafur yng nghymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr Cymru wedi bod yn fach iawn yn y gorffennol

Isaac Blake

Isaac Blake, cyfarwyddwr Cwmni Diwylliant a’r Celfyddydau Romani, sy’n dadlau bod y gymuned wedi’i thangyllido o’i chymharu â chymunedau eraill Cymru