Dylai Cymru gael ei llywodraethu er mwyn blaenoriaethu pobol a’r amgylchedd, nid elw, yn ôl y grŵp Llafur dros Annibyniaeth Cymru.
Mae’r mudiad wedi creu templed i’w cefnogwyr ei ddefnyddio er mwyn ymateb i’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.
Bydd y Comisiwn yn derbyn ymatebion agored hyd nes ddiwedd y mis, ac mae awgrymiadau Llafur dros Annibyniaeth Cymru yn nodi mai’r hyn sy’n bwysig yw sicrhau systemau cyfansoddiadol, amgylcheddol, cyfreithiol a chymdeithasol “ar gyfer gwlad deg a chynaliadwy”.
“Mae hyn yn golygu creu trefniant cyfansoddiadol a chyfansoddiad sy’n gwarantu hawliau amgylcheddol, dynol a chyfreithiol sy’n mynd ymhell y tu hwnt i’r hyn sydd gan y Deyrnas Unedig i’w gynnig,” meddai’r grŵp.
“Mae cryfderau’r system bresennol yn cael eu tanseilio’n barhaus gan ei gwendidau. Y cryfder yw bod Cymru’n gallu penderfynu pethau drosti’i hun ond pan na all ariannu’r penderfyniadau hynny gan ei Banc Canolog ei hun, yna San Steffan sydd â rheolaeth yn y pen draw.
“Rydym yn dymuno amddiffyn pwerau presennol Llywodraeth Cymru ond yn gwybod bod angen mwy arni ac, fel y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i brofi’n ddiweddar drwy danseilio Deddf Undebau Llafur (Cymru) 2017, rydym yn gwybod y gall unrhyw gyfraith a wneir gan Lywodraeth Cymru gael ei dileu gan y Deyrnas Unedig.”
Brenhiniaeth ‘annemocrataidd’
Ychwanega’r mudiad fod pwerau brenhiniaeth y Deyrnas Unedig yn “annemocrataidd ac yn anatebol”.
“Gellir dadlau bod y system hon o nawdd brenhinol yn tanseilio egwyddor lles cyffredin Cymru,” meddai.
“Nid oes lle i system hynafol o fraint yng nghenedl fodern Cymru a dylid ei dinistrio yn ei chyfanrwydd a’i disodli.
“Dylai Aelodau’r Senedd a’r rhai sy’n gwasanaethu’r cyhoedd fod yn tyngu llw o deyrngarwch a gwasanaeth, nid i’r frenhines ond i’r bobl y maent yn eu cynrychioli.
“Dylid trosglwyddo’r pwerau hyn i gynrychiolwyr pobol Cymru. Dylai’r tiroedd a’r daliadau a elwir yn stadau’r goron gael eu gwladoli a’u dal gan lywodraeth Cymru ar ran y Cymry.
“Yr hyn sy’n bwysicaf yw y dylai Cymru gael ei llywodraethu er mwyn rhoi pobl a’r amgylchedd yn gyntaf, nid elw – dylid gosod hyn mewn cyfansoddiad sy’n creu diwylliant cynaliadwy o weriniaeth sosialaidd ddemocrataidd mewn Cymru annibynnol.”
Mae’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn gwahodd unryw un i ymuno â’r sgwrs genedlaethol ynglŷn â’r ffordd y caiff Cymru ei rhedeg.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor nes Awst 31.