Mae perchennog y caeau a gafodd eu defnyddio ar gyfer Eisteddfod Tregaron yn “fwy na blin” na chafodd ei blant fynediad am ddim i’r Maes.

Yn ôl Aled Lewis, Fferm Penybont, gofynnodd i’r Eisteddfod bedair gwaith am docynnau am ddim i’w ddau fab, ond cafodd ei wrthod bob tro.

Dywed fod Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, wedi dweud eu bod nhw wedi “talu digon am y caeau” ac felly yn methu â thalu mwy.

Byddai Aled Lewis wedi hoffi gweld holl blant yr ardal yn cael mynediad am ddim i’r Eisteddfod ar hyd yr wythnos, meddai.

Roedd mynediad am ddim i blant dan 12 o Geredigion i’r Maes cyn 11 o’r gloch ar y dydd Sadwrn a dydd Sul cyntaf.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw wedi ymateb yn ddigonol i sylwadau Aled Lewis am yr Eisteddfod cyn yr ŵyl.

‘Mwy na blin’

“Wedes i wrth [Betsan Moses], dw i wedi rhoi mwy na chaeau, dw i’n gwybod eich bod chi’n talu amdanyn nhw, ond roedden ni wedi cadw’n prisiau ni ar rai 2020, roedd pawb arall wedi codi prisiau,” meddai Aled Lewis, a agorodd faes pebyll a charafanau ger Maes yr Eisteddfod hefyd.

“Dw i’n fwy na blin. Maen nhw wedi rhoi £1,000 i gronfa’r ysgol, ond gan eu bod nhw yn yr ardal fysan nhw wedi gallu troi rownd a rhoi tocynnau am ddim i blant Ysgol Henry Richard i gyd. Dyna licien i wedi’i weld.

“Yr unig eglurhad rydyn ni wedi’i gael gan Betsan [Moses] ydy eu bod nhw’n talu digon am y caeau. Dros 100 acer rydyn ni wedi’i roi i’r Eisteddfod, a dim byd, dim hyd yn oed llythyr o ddiolch.”

Y caeau a’r cyfleusterau

Ychwanega Aled Lewis ei fod yn flin am “sawl peth” arall hefyd, gan gynnwys diffyg biniau ar y caeau.

“Ar ôl mynd lawr nos Sul i weld cyflwr y caeau, mae’n edrych fel eu bod nhw ddim yn fodlon rhoi digon o fins lawr ym Maes B i bobol roi rybish ynddyn nhw,” meddai.

“Roedd hi mor wael, doeddwn i ffaelu dreifio drwy’r cae achos roedd shwt gymaint o glass. Roeddwn i’n meddwl fod e fod yn glass-free area. Ond roedd rybish yn bob man, oedd pob un yn achwyn bod dim digon o bins i gael, ac roedd y toiledau yn warthus, i ddweud y gwir.

“Licien i fod ar banel yr Eisteddfod ar eu debrief nhw i ddweud sut allen nhw wella ar gyfer flwyddyn nesaf.”

Bu cwynion am y toiledau ddechrau’r wythnos ac, ar y pryd, dywedodd Betsan Moses fod y cyfleusterau “yn ddigonol” ac fe gafodd ei drefnu eu bod nhw’n cael eu glanhau’n amlach wedi hynny.

‘Cymuned wedi colli mas’

Aeth Aled Lewis yn ei flaen i ddweud eu bod nhw wedi cael “siom” yng Ngheredigion, ac er ei fod yn cyfaddef fod pawb yn gwneud camgymeriadau, mae’n teimlo y gallai’r Eisteddfod fod wedi ymddiheuro am sefyllfa’r toiledau yn hytrach na “dweud bod pob dim yn iawn”.

“Y siom arall rydyn ni wedi’i gael ydy eu bod nhw ond yn bwrw punt off i bensiynwyr,” meddai wedyn.

“I fi, roedd hwnna’n kick in the teeth i’r rhain sydd wedi bod yn supportio’r Eisteddfod dros y blynyddoedd.

“Efallai i rywun fel Betsan, pethau bach ydyn nhw. I fi, mae’r gymuned wedi colli ma’s a dydyn nhw ddim yn trio helpu’r gymuned.

“Mae pob un oedd eisiau gwneud complaint, dydyn nhw ddim wedi teimlo eu bod nhw wedi gwrando arnyn nhw.”

Wrth ymateb, dywed yr Eisteddfod eu bod nhw wrthi’n cysylltu â’r holl gyflenwyr i ddiolch iddyn nhw, a’u bod nhw’n teimlo eu bod nhw wedi ymateb i’w sylwadau yn barod fel arall.