Mae Geraint Lloyd yn dweud ei fod yn teimlo “sioc ac yn siomedig” ynghylch penderfyniad Radio Cymru i ddod â’i raglen i ben.
Wrth siarad gyda golwg360, mae’r cyflwynydd, sydd wedi bod yn darlledu ar Radio Cymru ers 25 mlynedd, wedi dweud y bydd y rhaglen yn dod i ben ddechrau mis Hydref.
Fe wnaeth sawl un fynegi eu siom ar ôl i’r si fynd ar led yn yr Eisteddfod yr wythnos ddiwethaf fod y rhaglen yn dod i ben.
Geraint Lloyd sydd wedi bod ar y Shifft Hwyr ers 2012, a chyn hynny bu’n cyflwyno yn y prynhawniau a chyda’r nos.
‘Anodd credu’
“Mae’n sioc ac yn siomedig. Does yna ddim byd arall fedra i ddweud,” meddai.
“Doeddwn i ddim yn disgwyl e, doedd dim sôn dim wedi bod, dim trafod, dim ond dweud ‘Dyna ni, bydd y rhaglen yn gorffen dechrau Hydref’.
“Mae’n anodd credu ar ôl yr holl flynydde, ynde. Wedi bod yn ychydig bach o bob man yna, ond no more. Mae e yn siom, yndi.
“Wythnos cyn Eisteddfod cefais i gyfarfod Zoom, wedyn ddes i a Dafydd Meredydd [Golygydd Radio Cymru] wyneb yn wyneb yn Eisteddfod a’r un oedd y stori.
“Mae lot o bobol wedi bod yn ffonio a hala negeseuon ddim yn hapus iawn efo’r penderfyniad.
“Sioc llwyr, a siom eu bod nhw’n amddifad y gynulleidfa, dw i’n meddwl. Mae gen i gynulleidfa dda yn y nos.
“Roedd pob math o oedran yn cysylltu gyda ni ar y rhaglen, o bob cefndir ac o bob man yng Nghymru efo’r posau bach ac ati, ac roedd hi’n ddwy awr brysur bob nos.”
Hyd yn hyn, dydy Radio Cymru heb ddweud beth fydd yn dod yn lle’r rhaglen.
‘Newidiadau o bryd i’w gilydd’
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru, bod gorsafoedd radio yn gwneud newidiadau o bryd i’w gilydd.
“O bryd i’w gilydd mae gorsafoedd radio yn gwneud newidiadau i’r amserlen ac o fis Hydref ymlaen bydd elfennau o amserlen hwyrol Radio Cymru yn newid.
“Bydd mwy o fanylion am yr amserlen ar ei newydd wedd yn cael ei gyhoeddi maes o law.
“Mae’n diolch ni’n fawr i Geraint Lloyd am ei gwmnïaeth gyson gyda’r nos dros y blynyddoedd.”