Mae landlord Clwb Rygbi Tregaron, lle cafodd gigs Cymdeithas yr Iaith eu cynnal yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol, yn dweud bod yr heddlu oedd yn plismona’r digwyddiadau ddechrau’r wythnos “yn disgwyl fel tasen nhw’n delio â thyrfa bêl-droed”.
Roedd plismyn i’w gweld y tu allan i’r clwb bob nos, naill ai mewn faniau neu’n cerdded ar y safle y tu fewn a thu allan i’r babell lle’r oedd y bandiau ac artistiaid yn perfformio.
Ond yn ôl Arwyn Morgan, sydd wedi bod yn siarad â golwg360, roedd gwahaniaeth mawr rhwng y rhai oedd yn deall natur digwyddiadau’r Eisteddfod a’r rheiny oedd yn plismona’r gigs fel pe baen nhw fel unrhyw ddigwyddiad arall.
“Beth oedd yn dod yn groes gynta’ oedd fod llawer o’r heddlu ddim yn siarad Cymraeg, ac ro’n nhw wedi bod yn llawdrwm a dweud y gwir,” meddai.
“Pan oedd dyn yn canu yn y dafarn, ro’n nhw’n disgwyl fel tasen nhw’n delio â phêl-droed a bod yna ymladd yn mynd i fod.
“Ro’n i’n deall fod rhaid iddyn nhw wneud yn siŵr bo ni’n sefyll gyda’r gyfraith, bo nhw eisiau bariau lan tu allan i stopio dyn [rhag] mynd ar yr heol, a sefyll i beidio torri’r limit o faint ro’n ni fod i gael yn y marquee, a’r amser ro’n ni fod i gau.
“Ro’n ni’n deall hynna, ac fe wnaethon ni’n siŵr bo ni’n cau bob nos yn ôl y premises licence.
“Roedd popeth gyda ni yn ôl y llyfr, ond ro’n ni’n teimlo, fel oedd dyn yn dod allan o’r gigs, fod yna ddeg plismon yn sefyll tu allan fel tasen nhw’n disgwyl tyrfa bêl-droed.
“Roedd rhai yn dweud bo nhw’n teimlo’n intimidating.
“Gafon ni ddim trwbwl o gwbwl, dim ymladd, dim byd.”
“Gwahaniaeth ofnadwy” pan ddaeth Cymry Cymraeg i blismona
Ddiwedd yr wythnos, meddai Arwyn Morgan, roedd gwahaniaeth mawr yn y ffordd roedd y gigs yn cael eu plismona, gyda’r rhan fwyaf o’r plismyn ar ddyletswydd yn siarad Cymraeg.
“Yng nghanol yr wythnos, fe newidiodd e,” meddai.
“Fe ddaeth heddlu oedd yn siarad Cymraeg tu allan y clwb, ac fe welais i wahaniaeth ofnadwy yn y ffordd ro’n nhw’n delio gyda phethau.
“Y broblem fwya’, fydden i’n dweud, yw bo nhw heb edrych ar beth yw’r Steddfod, ac efallai y dylen nhw fod wedi edrych ar gael mwy o Gymry Cymraeg yn yr ardal oedd yn deall beth oedd y Steddfod.
“Yn niwedd yr wythnos, roedd hynny wedi digwydd ac fe welais i wahaniaeth ofnadwy yn fel oedden nhw, roedden ni wedi cael siarad gyda nhw, ac fel roedden nhw’n delio gyda chi.
“Gawson ni’r un heddlu nôl bob nos yn y diwedd, ac ro’n i’n gweld gwahaniaeth yn y ffordd roedden nhw’n delio gyda chi.
“Cymry Cymraeg oedden nhw ac roeddech chi’n gallu eistedd lawr a chael chat gyda nhw.
“Yn y clwb rygbi, ges i lot o fois oedd yn gantorion proffesiynol yn y dafarn yn dechrau canu a phawb yn ymuno mewn.
“I fi, cyn gynted ag oedd hynny’n digwydd, ro’n i’n hapus ac yn gwybod bod hi’n mynd i fod yn noswaith a hanner, bod pawb yn mynd i ymuno mewn a chael canu ac yfed.
“Ond roedd yr heddwas Seisnig tu fa’s yn edrych fel tase fe’n delio gyda thyrfa bêl-droed a ddim gyda thyrfa eisteddfodol.
“A fi’n credu taw dyna’r neges aeth yn groes i’r heddlu, bo nhw’n delio gyda phethau’n rhy heavy-handed.”
‘Lleoliadau eraill ddim yn cael eu plismona i’r un raddfa’
“Roedd y trefniadau priodol gan y clwb a ninnau mewn lle o’r dechrau ac fe wnaethon ni gydweithio ac ateb gofynion pellach yr heddlu yn llawn yn ystod yr wythnos,” meddai Mabli Siriol Jones, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
“Mae trefnu gigs a digwyddiadau tebyg wedi newid dipyn dros y blynyddoedd ond dydy ni ddim wedi gorfod rhoi camau tebyg i eleni mewn lle yn y gorffennol.
“Roedd y clwb rygbi yn lleoliad delfrydol i ni, gan mai pobol leol oedd yn gweithio yno, bod cyfle i glybiau lleol elwa o’r wythnos trwy gael cyfran o arian y bar a gan ei fod yn agos iawn at ganol y dref.
“Hyd y gwyddon ni doedd lleoliadau eraill ddim yn cael eu plismona i’r un raddfa ond mae rhoi unrhyw rwystrau ychwanegol yn ei gwneud yn anodd iawn i drefnu digwyddiadau.
“Hoffen ni ddiolch eto i staff y clwb rygbi a diogelwch, a’n holl stiwardiaid gwirfoddol ni am wneud y gigs yn llwyddiant, er gwaetha’r rhwystrau.
“Byddwn yn annog Heddlu Dyfed Powys i ailystyried y ffordd maent yn plismona digwyddiadau cymunedol fel hyn yn y dyfodol.”
Mae golwg360 wedi cysylltu â Heddlu Dyfed-Powys am ymateb.