“Comedi stand-yp cynnes, cyfeillgar o Gymru – jest y peth ar gyfer gŵyl ôl-bandemig” yw’r disgrifiad o sioe ddiweddara’r digrifwr Steffan Alun ar wefan Gŵyl Gomedi Ffrinj Caeredin, ac yntau wedi glanio yn yr ŵyl gomedi fwyaf yn y byd eleni am y pumed tro.

Mae’r “optimist o Gymro… yn meddwl am y dyfodol”, meddai’r wefan am y digrifwr o Abertawe, sy’n cael cwmni digrifwyr mae e ei hun wedi’u dewis i’w gefnogi yn Canons’ Gate Cellar Bar rhwng Awst 6-28.

Mae ei sioe yn rhan o gangen PBH o’r ŵyl sy’n rhad ac am ddim, egwyddor sy’n hollbwysig i’r digrifwr ei hun ac mae hynny wedi’i adlewyrchu yn enw swyddogol y sioe, ‘The Future of Free Stand-up’, rhywbeth sy’n bwysig i ddigrifwyr drwyddi draw wrth iddyn nhw geisio denu cynulleidfaoedd.

Bydd hi’n newid ei henw i ‘The Bubble’ erbyn iddi fynd ar daith ar ôl yr ŵyl ac mae hynny, yn ôl Steffan Alun, yn adlewyrchu natur y blynyddoedd diwethaf dan gysgod Covid-19 a’r cyfnodau clo.

Ond mae e’n mynnu nad yw hi’n sioe am y pandemig ond yn hytrach “y profiadau fi wedi’u cael, y pethau sydd wedi digwydd i fi” yn ystod cyfnod Covid-19.

‘Mae’n amhosib peidio siarad am y pandemig’

“Mae e’n amhosib peidio siarad am y pandemig,” meddai wrth golwg360 cyn ei sioe gyntaf, ac yntau’n perfformio yn yr ŵyl ym mhrifddinas yr Alban am y tro cyntaf ers y pandemig.

“Byddai hwnna, i fi, yn teimlo’n artiffisial.

“Mae yna bach o ddadl, lle mae rhai digrifwyr yn meddwl, ‘Ni gyd yn fed-up nawr, ni gyd wedi symud ymlaen, dyn ni ddim eisiau clywed mwy am y pandemig’.

“Does dim llwyth o stwff am y pandemig ynddo fe ond hwnna sydd yn y cefndir.

“Fi’n sôn am ddigwyddiadau ddigwyddodd pan o’n i’n styc yn y tŷ, yn methu gweithio.

“I fi, mae wastad lot o wirionedd yn y sioeau fi’n gwneud felly y gwirionedd yw, dyna sut mae ’mywyd i wedi edrych am lot o’r blynyddoedd ers i fi fynd i Gaeredin ddiwetha’.”

Dyw e ddim chwaith, meddai, yn ceisio troi cyfnod llwm yn ddoniol.

“Sa i’n credu bo fi’n meddwl fel’na,” meddai.

“Fi’n credu bo fi’n dechrau gyda pha syniadau sy’n apelio at gynulleidfa ac os oes apêl, bydd y jôcs yn dod wedyn. Felly, dwi byth wedi eistedd lawr a dweud, ‘Reit, dwi’n mynd i sgwennu am y pandemig’.

“Ond bydd rhyw gnewyllyn, bydd rhywbeth yn digwydd a bydda i’n meddwl, ‘O! Mae yna ryw syniad fynna sy’n brofiad mae pobol yn ei nabod’.

“Mae yna lot o stwff yn fy sioe i eleni am y ffaith bo fi wedi cyrraedd oedran lle mae’n ffrindiau i gyd yn cael plant. Ac mae pawb yn y gynulleidfa, roedden nhw’n blentyn ar un tro.

“Bydd lot ohonyn nhw’r un oedran â fi yn mynd drwy’r un peth, lot bach yn hŷn wedi cael plant eu hunain… Mae hwnna yn rywbeth sy’n cysylltu, ac unwaith rwyt ti wedi cael y linc yna, y ffordd mewn, wedyn ti’n dechrau edrych mewn i ‘Beth yw’n safbwynt i ar y peth?’

“Mae pawb yn gweld y byd mewn ffordd bach yn wahanol, dyna i gyd yw gwneud comedi, dw i’n credu, yw egluro’r ffordd ti’n gweld pethau, mor fanwl â phosib.

“Erbyn diwedd y sioe, hoffen i fod y gynulleidfa wedi treulio awr yn y stafell yn gwrando ar fy safbwynt i ac yn meddwl bo nhw’n uniaethu gyda rhai o’r pethau fi’n dweud, ac os dyn nhw ddim yn uniaethu, gobeithio byddan nhw’n ffeindio fe’n ddoniol bod rhywun yn meddwl y fath beth!”

‘Alli di ddim cyfaddawdu ar safon’

Bob blwyddyn cyn yr ŵyl, mae digrifwyr yn treulio wythnosau os nad misoedd yn mireinio’u sioeau gerbron gwahanol gynulleidfaoedd, gan benderfynu pa rannau sy’n llwyddo ac yn cael ymateb da, a pha rannau i’w hepgor os nad ydyn nhw’n gweithio cystal.

Ac yntau’n perfformio ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt ers blynyddoedd bellach, mae Steffan Alun yn gwybod yn reddfol sut i ennyn ymateb cadarnhaol.

“Ond wedyn mae yna ambell beth, mae e’n gallu dy synnu di pa rannau sy’n codi ac yn annog cwynion!” meddai, wrth fynd i gyfeiriad pwnc llosg dros flynyddoedd y pandemig, ond sydd ond yn cael ychydig o sylw yn ei sioe.

“Mae yna ran o’r sioe, dim ond rhan fer yw hon, yn sôn am y cynnydd yn y drafodaeth yn y cyfryngau am bobol draws. Fi’n dweud e fel’na ac mae’n swnio’n hollol sych, ond mae e’n ddoniol, mae ysgafnder iddo fe ac wrth gwrs, yn y bôn, ffordd o siarad am y cyfryngau Cymraeg yw e. Mae hwnna’n lens.”

Oes perygl, felly, y gallai gael ei dynnu i ganol y ffrae danllyd sydd i’w chael yn ddyddiol ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yntau heb fod yn ddigrifwr sydd yn ceisio corddi.

“Does dim lot o bethau am bobol draws yn y sioe o gwbl ond dyna’r man cychwyn i sôn am sut mae’r cyfryngau Cymraeg yn ymateb i sgyrsiau cenedlaethol,” eglura, gan dynnu’r drafodaeth yn ôl i’w pherthnasedd i Gymru a chynulleidfaoedd comedi Cymraeg a Chymreig.

“Os yw pob cwmni radio yn trefnu trafodaethau am bobol draws, mae yna bwysau ar Radio Cymru, efallai, i wneud yr un peth felly mae hwnna’n bwnc diddorol i fi.

“Ond dyna’r unig ran o’r sioe sydd wedi cael unrhyw gwynion o gwbl. Ges i rywun yn dod ata’i ar ddiwedd gig yn dweud, ‘Na’, ddylen i ddim bod yn siarad am bobol draws achos bo fi’n normaleiddio fe.

“Roedd hwn yn rywun yn siarad Cymraeg, trawsffobig. Dyma berson sy’n ffyrnig yn erbyn pobol draws sydd jyst ddim eisiau clywed am y peth o gwbl.

“Mae’r syniad bod fy sioe i yn codi gwrychyn fel’na, i fi, yn hurt. Dwi ddim yn mynd ar ôl gwleidyddiaeth o gwbl. Mae’r syniad bod hwnna wedi pechu neb… weithiau, mae rhaid i ti jyst dweud, ‘Ocê’, ond mae e’n aros yn y sioe achos jyst achos bod un person ddim yn hoffi’r cynnwys…

“Mae hawl gyda phobol i beidio hoffi’r cynnwys, does dim rhaid i bawb hoffi pob elfen o’r sioe.

“Dyna’r peth neis am wneud sioe Caeredin yw, fy sioe i yw hi. Gweddill y flwyddyn, ti’n cael dy dalu am fynd ac mae rhaid i ti wasanaethu’r gynulleidfa sydd o dy flaen di. Ond yng Nghaeredin, ti’n gwneud sioe ‘Fy sioe i yw hon, dyma’n safbwynt i’, felly efallai bo ti ddim yn cyfaddawdu cymaint.

“Ar y llaw arall, mae rhaid bod y sioe yn ddoniol. Alli di ddim cyfaddawdu ar safon.”

“Obsesiwn” am y pynciau llosg ac emosiynol

Ac yntau’n ceisio creu sioeau sy’n para, nid ymateb i bynciau llosg a phynciau trafod y dydd yw ei arddull fel digrifwr. Yn wir, mae’n dueddol o geisio cadw draw o’r pynciau mwyaf dadleuol, meddai.

Mae hynny, meddai, yn gwbl groes i natur y cyfryngau yng Nghymru.

“Ry’n ni’n byw mewn byd lle mae yna lot o weithwyr yn y cyfryngau yn dibynnu ar y pynciau llosg yma.

“Mae lot ohono fe’n dod lawr i arian. Os wyt ti eisiau gwerthu dy gylchgrawn neu dy bapur newydd, os wyt ti eisiau i bobol wrando ar dy raglen radio neu i wylio dy sioe deledu, mae angen i ti gynnig rhywbeth mae pobol yn mynd i wylio.

“Fi yn credu bod bach o obsesiwn gyda ni yn y cyfryngau am fynd ar ôl pynciau emosiynol sy’n cydio’r darllenwyr, y gwrandawyr, y gwylwyr.

“Fy nghwestiwn i yw, oes angen i ni drafod yr holl bethau yma?

“Un o’r pethau fi’n dweud yn y sioe, canran y bobol yn y Deyrnas Unedig sy’n draws yw tua 0.6% ond mae astudiaethau gwahanol yn dweud pethau gwahanol. Ond tua 0.6% o’r Deyrnas Unedig gyfa sy’n siarad Cymraeg, yn dibynnu ar sut wyt ti’n cyfri siaradwyr Cymraeg.

“Felly, mae’r syniad bo ni byth a beunydd yn trafod pobol draws – ac yn aml, nid pobol draws sy’n arwain y sgwrs – pan mae’r boblogaeth mor fach, ti’n cwestiynu oes angen cymaint o bobol yn bod yn ffyrnig yn gwrthwynebu criw mor fach?

“Dychmyga tasai JK Rowling yn sydyn yn cymryd yn ffyrnig yn erbyn siaradwyr Cymraeg. Mae e’n beth eitha’ rhyfedd, a fi’n credu mai dyna sut mae’r cyfryngau’n gweithio bellach yw, os yw pawb yn trafod yr un pwnc ar Twitter y diwrnod cynt, mae angen trafodaeth ar hyn, mae hyn yn amlwg yn apelio at bobol.

“Sai’n gwybod beth yw’r dewis arall, ond mae yna deimlad fi’n credu bod yr elfen hysbysebu, trio cael rhywun i brynu papur newydd, yn arwain y cynnwys yn y papur newydd.

“Fi’n trio mynd yn groes i hynny. Fi’n trio peidio trafod pwnc llosg jyst er mwyn trafod pwnc llosg.

“Does dim lot o stwff fel’na yn fy sioeau fi yn y gorffennol, a does dim lot ohono fe eleni chwaith. Sgwennu sioeau personol ’yf fi.

“Weithiau, fi’n dod â hen sioeau ’nôl, mae lot o fy sioeau wedi bod yn ddigon poblogaidd, mae yna alw i’w gweld nhw.

“Tasai’r sioe yn llawn pynciau llosg y flwyddyn pan sgwennwyd y sioe, fyddai dim diddordeb yn y peth bellach.

“I fi, fi’n trio sgwennu rhywbeth dyfnach na hynny a mynd ar ôl profiadau bywyd sy’n fwy na jyst beth sy’n boblogaidd ar Twitter ar hyn o bryd.”

Cynulleidfa wahanol bob blwyddyn

Tra ei fod e’n hyderus y bydd y gynulleidfa’n mwynhau’r sioe, mae’n dweud ei fod yn edrych ymlaen at weld pwy fydd yn uniaethu â hi.

“Fi’n aros i weld beth fydd yr ymateb yn yr ŵyl, pa routines fydd fwya’ o ddiddordeb i bobol, a fydd pobol yn cymryd at y syniadau yn y sioe,” meddai.

“Mae’n llawn jôcs, mae pobol yn bownd o fwynhau ond beth sy’n ddiddorol nesa’ yw gweld pwy fydd yn uniaethu gyda’r sioe.

“Ti’n gweld hyn yn digwydd yng Nghaeredin. Bydd y bobol sy’n dod i weld y sioe yn ei hargymell i bobol maen nhw’n credu fydd yn mwynhau’r sioe, ac yn araf bach dros yr ŵyl, bydda i’n dechrau denu mwy a mwy o’r bobol fydd wir yn mwynhau, a sa i’n siwr pwy yw rheiny eto.

“Pobol fy oedran i sy’n gallu uniaethu â’r stwff am blant?

“Efallai pobol ifancach sy’n gallu uniaethu â lot o syniadau am y dyfodol yn y sioe?

“Neu bobol hŷn efallai? Sa i’n gwybod.

“Mae e mor ddiddorol, bob blwyddyn fi’n teimlo bod y gynulleidfa sy’n ffeindio’r sioe bach yn wahanol ac mae hwnna’n rywbeth diddorol i fi.”

Un o’r tair ‘A’

Ar wahân i’w sioe ei hun, fe fydd Steffan Alun yn ymuno â swigen dau ddigrifwr arall, Alex Kitson a Vitaly Volkov ar gyfer y sioe ‘AAA’, wrth i’r “optimist o Gymro fyrlymu ag egni, gan roi’r byd yn ei le fel gall dim ond person cyfunrywiol dwyieithog ei wneud”.

“Mae e’n mynd ers blynyddoedd, yn un o’r arddangosfeydd (showcases) sy’n golygu bydda i’n gwneud 20 munud gyda dau act arall yn gwneud yr un peth dros awr bob nos,” meddai.

“Sa i wedi gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen, lle mae’r diwydiant yn talu sylw a, bron, rwyt ti’n rhoi dy ben dros y parapet ac yn dweud ‘Dyma fi’.

“Mae’n neis iawn cael gwahoddiad i wneud rhywbeth fel’na.”

  • Steffan Alun: The Future of Free Stand-Up, PBH Free Fringe @ Canons’ Gait, bob dydd am 2 o’r gloch (ac eithrio dydd Mercher) rhwng Awst 6-28.
  • AAA Stand-Up, Pleasance Courtyard: The Cellar, bob nos am 7.20 rhwng Awst 9-29.