Mae Heddlu Dyfed-Powys yn mynnu eu bod nhw wedi rhoi “cynllun plismona cymesur ar waith er mwyn darparu ar gyfer y cynnydd ym mhoblogaeth Tregaron yn ystod wythnos yr Eisteddfod”.
Daw hyn ar ôl i landlord Clwb Rygbi Tregaron, lle cafodd gigs Cymdeithas yr Iaith eu cynnal yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol, ddweud bod yr heddlu oedd yn plismona’r digwyddiadau ddechrau’r wythnos “yn disgwyl fel tasen nhw’n delio â thyrfa bêl-droed”.
Roedd plismyn i’w gweld y tu allan i’r clwb bob nos, naill ai mewn faniau neu’n cerdded ar y safle y tu fewn a thu allan i’r babell lle’r oedd y bandiau ac artistiaid yn perfformio.
Ond yn ôl Arwyn Morgan, fu’n siarad â golwg360, roedd gwahaniaeth mawr rhwng y rhai oedd yn deall natur digwyddiadau’r Eisteddfod a’r rheiny oedd yn plismona’r gigs fel pe baen nhw fel unrhyw ddigwyddiad arall.
“Beth oedd yn dod yn groes gynta’ oedd fod llawer o’r heddlu ddim yn siarad Cymraeg, ac ro’n nhw wedi bod yn llawdrwm a dweud y gwir,” meddai.
“Pan oedd dyn yn canu yn y dafarn, ro’n nhw’n disgwyl fel tasen nhw’n delio â phêl-droed a bod yna ymladd yn mynd i fod.
“Ro’n i’n deall fod rhaid iddyn nhw wneud yn siŵr bo ni’n sefyll gyda’r gyfraith, bo nhw eisiau bariau lan tu allan i stopio dyn [rhag] mynd ar yr heol, a sefyll i beidio torri’r limit o faint ro’n ni fod i gael yn y marquee, a’r amser ro’n ni fod i gau.
“Ro’n ni’n deall hynna, ac fe wnaethon ni’n siŵr bo ni’n cau bob nos yn ôl y premises licence.
“Roedd popeth gyda ni yn ôl y llyfr, ond ro’n ni’n teimlo, fel oedd dyn yn dod allan o’r gigs, fod yna ddeg plismon yn sefyll tu allan fel tasen nhw’n disgwyl tyrfa bêl-droed.
“Roedd rhai yn dweud bo nhw’n teimlo’n intimidating.
“Gafon ni ddim trwbwl o gwbwl, dim ymladd, dim byd.”
Gwahaniaeth mawr rhwng siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg
Ychwanegodd fod gwahaniaeth mawr yn y ffordd roedd y gigs yn cael eu plismona tua diwedd yr wythnos, gyda’r rhan fwyaf o’r plismyn ar ddyletswydd yn siarad Cymraeg.
“Fe ddaeth heddlu oedd yn siarad Cymraeg tu allan y clwb, ac fe welais i wahaniaeth ofnadwy yn y ffordd ro’n nhw’n delio gyda phethau,” meddai.
“Y broblem fwya’, fydden i’n dweud, yw bo nhw heb edrych ar beth yw’r Steddfod, ac efallai y dylen nhw fod wedi edrych ar gael mwy o Gymry Cymraeg yn yr ardal oedd yn deall beth oedd y Steddfod.
“Yn niwedd yr wythnos, roedd hynny wedi digwydd ac fe welais i wahaniaeth ofnadwy yn fel oedden nhw, roedden ni wedi cael siarad gyda nhw, ac fel roedden nhw’n delio gyda chi.
“Gawson ni’r un heddlu nôl bob nos yn y diwedd, ac ro’n i’n gweld gwahaniaeth yn y ffordd roedden nhw’n delio gyda chi.
“Cymry Cymraeg oedden nhw ac roeddech chi’n gallu eistedd lawr a chael chat gyda nhw.
“Yn y clwb rygbi, ges i lot o fois oedd yn gantorion proffesiynol yn y dafarn yn dechrau canu a phawb yn ymuno mewn.
“I fi, cyn gynted ag oedd hynny’n digwydd, ro’n i’n hapus ac yn gwybod bod hi’n mynd i fod yn noswaith a hanner, bod pawb yn mynd i ymuno mewn a chael canu ac yfed.
“Ond roedd yr heddwas Seisnig tu fa’s yn edrych fel tase fe’n delio gyda thyrfa bêl-droed a ddim gyda thyrfa eisteddfodol.
“A fi’n credu taw dyna’r neges aeth yn groes i’r heddlu, bo nhw’n delio gyda phethau’n rhy heavy-handed.”
“Trefniadau priodol gan y clwb a ninnau” – Cymdeithas yr Iaith
“Roedd y trefniadau priodol gan y clwb a ninnau mewn lle o’r dechrau ac fe wnaethon ni gydweithio ac ateb gofynion pellach yr heddlu yn llawn yn ystod yr wythnos,” meddai Mabli Siriol Jones, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
“Mae trefnu gigs a digwyddiadau tebyg wedi newid dipyn dros y blynyddoedd ond dydy ni ddim wedi gorfod rhoi camau tebyg i eleni mewn lle yn y gorffennol.
“Roedd y clwb rygbi yn lleoliad delfrydol i ni, gan mai pobol leol oedd yn gweithio yno, bod cyfle i glybiau lleol elwa o’r wythnos trwy gael cyfran o arian y bar a gan ei fod yn agos iawn at ganol y dref.
“Hyd y gwyddon ni doedd lleoliadau eraill ddim yn cael eu plismona i’r un raddfa ond mae rhoi unrhyw rwystrau ychwanegol yn ei gwneud yn anodd iawn i drefnu digwyddiadau.
“Hoffen ni ddiolch eto i staff y clwb rygbi a diogelwch, a’n holl stiwardiaid gwirfoddol ni am wneud y gigs yn llwyddiant, er gwaetha’r rhwystrau.
“Byddwn yn annog Heddlu Dyfed Powys i ailystyried y ffordd maent yn plismona digwyddiadau cymunedol fel hyn yn y dyfodol.”
‘Ymgysylltodd pawb yn broffesiynol â’r cyhoedd’
Yn ôl yr Arolygydd Matthew Howells, “ymgysylltodd pawb yn broffesiynol â’r cyhoedd.
“Rhoddwyd cynllun plismona cymesur ar waith er mwyn darparu ar gyfer y cynnydd ym mhoblogaeth Tregaron yn ystod wythnos yr Eisteddfod,” meddai.
“Tynnwyd swyddogion o rannau eraill o’r ardal heddlu er mwyn cynorthwyo â’r economi nos yn arbennig.
“Er bod rhai ddim yn siarad Cymraeg, ymgysylltodd pawb yn broffesiynol â’r cyhoedd.
“Croesawodd preswylwyr Heol yr Orsaf a’r strydoedd cyfagos ein presenoldeb.
“Derbyniwyd dau adroddiad am ddifrod i eiddo ar nosweithiau gwahanol, ac arestiwyd un unigolyn.
“Er na dderbyniwyd unrhyw adroddiadau am drais, ymdriniodd swyddogion â sawl un a gafodd eu dal yn piso ar y stryd, taflu conau traffig i’r ffordd, a symud rhwystrau.
“Dychwelwyd sawl unigolyn meddw i’w gwersyll er eu diogelwch eu hunain gan swyddogion, ac fe’u gadawyd yng ngofal unigolyn cyfrifol.
“Bu’r wythnos yn llwyddiant mawr ar gyfer yr Eisteddfod, Tregaron a Cheredigion.
“Bu hyn yn bosibl oherwydd cydweithrediad pawb a oedd yn gysylltiedig â’r ŵyl, o drwyddedigion i gwmnïoedd diogelwch, swyddogion rheoli traffig, adrannau’r awdurdod lleol, y gwasanaethau brys, a chymuned Tregaron.”