Mae 70% o’r rhai wnaeth ymateb i bôl piniwn Lingo360 yn credu y dylai’r Eisteddfod newid enw cystadleuaeth ‘Dysgwr y Flwyddyn’.

Fe fu trafodaeth ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru ynghylch y defnydd o’r termau ‘dysgwr/dysgwyr’ a ‘siaradwr/siaradwyr newydd’.

Dywedodd y cyflwynydd ei fod yn teimlo y byddai’n well galw pobol sydd wedi dysgu’r iaith Gymraeg yn ‘siaradwr neu siaradwyr newydd’ yn lle ‘dysgwr/dysgwyr’.

Wrth ymateb, dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, fod trafodaethau ar y gweill i benderfynu beth yw’r term gorau, wrth i Gwenllian Carr, Swyddog Cyfathrebu’r Eisteddfod, ategu ei fod e “i fyny i ddysgwyr” i benderfynu.

‘Maen nhw’n siaradwyr, full stop’

Yn ôl Cyril Jones, beirniad yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni, yr “hufen” sy’n cystadlu yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, ac mae’r rheiny’n sicr yn siaradwyr newydd.

“Dw i’n cytuno bod eisiau newid, dyn nhw ddim yn ddysgwyr,” meddai wrth golwg360.

“Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg i Oedolion am hanner can mlynedd, dosbarthiadau nos, ac ar hyn o bryd yn y dosbarthiadau sydd gen i, nid dysgwyr ydyn nhw. Maen nhw’n siaradwyr.

“Achos maen nhw wedi bod trwy’r felin ac maen nhw fwy neu lai yn arbenigo nawr mewn gwahanol bynciau ac agweddau o’r iaith fel llenyddiaeth neu beth bynnag.

“Felly dw i yn meddwl bod angen edrych ar hwnna hefyd, ydw.

“Wi ddim yn siŵr am ‘siaradwyr newydd’ – siaradwyr? Maen nhw’n siaradwyr, full stop.”

I’r gwrthwyneb, serch hynny, mae’n dadlau y gall y gair ‘dysgwr’ helpu rhai pobol sy’n dysgu’r iaith.

“Gallai helpu rhai sy’n dweud, ‘Dysgwr ydw i’,” meddai.

“Gallen nhw ddal i ddweud hynny, ond bydd yna ryw fan yn dod lle maen nhw’n gallu sgwrsio, felly maen nhw’n siaradwyr.

“Dw i’n credu bod e’n dod oherwydd mae’r gyfundrefn dysgu Cymraeg yn rhoi pwys mawr ar y gair llafar a’r siarad.

“Felly mae’n dod pan maen nhw’n cyrraedd Canolradd, rywle ffor’na.”

Cyril Jones

Beirniad Dysgwr y Flwyddyn yn galw am ddynodi dydd Mercher yr Eisteddfod yn ddiwrnod i siaradwyr newydd

Alun Rhys Chivers

“Mae’r Eisteddfod wedi bod yn cefnogi gyda’r gystadleuaeth, ond yr hyn dw i eisiau’u gweld nhw’n gwneud ydy ehangu’r diwrnod,” meddai Cyril Jones
Joe Healy

Eisteddfod yn ystyried newid enw ‘Dysgwr y Flwyddyn’

Non Tudur

Mae rhai o’r farn y dylid cyfeirio at y rhai sydd wedi mynd ati i ddysgu’r iaith fel ‘siaradwyr newydd’