Mae un o feirniaid cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn dweud y dylid dynodi dydd Mercher yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiwrnod i ddysgwyr Cymraeg a siaradwyr newydd.
Fe fu Cyril Jones yn siarad â golwg360 ac yn ymateb i’r drafodaeth ynghylch y termau ‘dysgwr/dysgwyr’ a ‘siaradwr/siaradwyr newydd’, gan ddadlau bod y rheiny fu’n cystadlu yn y gystadleuaeth eleni’n sicr yn siaradwyr newydd ac nid yn ddysgwyr o hyd.
Yn ddiweddar, mae trafodaeth wedi bod yn mynd rhagddi am hyn ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru, gyda’r cyflwynydd ei hun o’r farn y byddai’n well cyfeirio at y bobol hynny sydd wedi dysgu’r Gymraeg fel ‘Siaradwr Newydd’ yn hytrach na ‘Dysgwr’.
Gofynnodd golwg360 i Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, a fyddai’r brifwyl yn ystyried newid enw’r gystadleuaeth i adlewyrchu’r galw, a dywedodd fod enw ‘Maes D’ ar un adeg wedi’i newid i gornel ‘Shwmai Sumai’ cyn cael ei newid yn ôl.
“Rydyn ni’n cydweithio hefyd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg ac yn edrych ar beth yw’r derminoleg bwrpasol ar gyfer y defnydd,” meddai.
“Gawn ni sgwrs gyda’n partneriaid ac mi wnawn ni ei fwydo i’r pwyllgorau canolog.”
Ategodd Gwenllian Carr, Swyddog Cyfathrebu’r Eisteddfod, wedyn ei fod “i fyny i ddysgwyr.”
‘Siaradwyr, full stop‘
Yn ôl Cyril Jones, yr “hufen” sy’n cystadlu yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, ac mae’r rheiny’n sicr yn siaradwyr newydd.
“Dw i’n cytuno bod eisiau newid, dyn nhw ddim yn ddysgwyr,” meddai.
“Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg i Oedolion am hanner can mlynedd, dosbarthiadau nos, ac ar hyn o bryd yn y dosbarthiadau sydd gen i, nid dysgwyr ydyn nhw. Maen nhw’n siaradwyr.
“Achos maen nhw wedi bod trwy’r felin ac maen nhw fwy neu lai yn arbenigo nawr mewn gwahanol bynciau ac agweddau o’r iaith fel llenyddiaeth neu beth bynnag.
“Felly dw i yn meddwl bod angen edrych ar hwnna hefyd, ydw.
“Wi ddim yn siŵr am ‘siaradwyr newydd’ – siaradwyr? Maen nhw’n siaradwyr, full stop.”
I’r gwrthwyneb, serch hynny, mae’n dadlau y gall y gair ‘dysgwr’ helpu rhai pobol sy’n dysgu’r iaith.
“Gallai helpu rhai sy’n dweud, ‘Dysgwr ydw i’,” meddai.
“Gallen nhw ddal i ddweud hynny, ond bydd yna ryw fan yn dod lle maen nhw’n gallu sgwrsio, felly maen nhw’n siaradwyr.
“Dw i’n credu bod e’n dod oherwydd mae’r gyfundrefn dysgu Cymraeg yn rhoi pwys mawr ar y gair llafar a’r siarad.
“Felly mae’n dod pan maen nhw’n cyrraedd Canolradd, rywle ffor’na.”
“Carfan bwysig iawn” wrth anelu am Filiwn o Siaradwyr
Un sydd wedi “gwneud y switsh” hwnnw, meddai, yw Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn eleni, ac mae Cyril Jones yn teimlo bod dysgwyr a siaradwyr newydd am fod yn allweddol wrth anelu i gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.
“Mae gyda nhw gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn ers blynyddoedd, a dim ond y pedwar sy’n dod i’r brig sy’n dod i’r Eisteddfod,” meddai wedyn am y posibiliadau wrth geisio denu mwy o ddysgwyr a siaradwyr newydd i’r brifwyl.
“Wi’n gwybod fod pabell dysgwyr i gael, ond fyswn i yn hoffi gweld dydd Mercher, gan bod e’n ddiwrnod Dysgwr y Flwyddyn, yn cael ei ehangu a bod yna groeso i ddysgwyr, efallai gostyngiad pris iddyn nhw, achos maen nhw’n sôn am y Miliwn o Siaradwyr, wel, wi’n credu bo nhw’n garfan bwysig iawn.
“Byddai’n gyfnod yr Eisteddfod, le mae dosbarthiadau wedi gorffen ac y bydden nhw’n gallu dod i’r Maes, a nid yn unig cael cyfle i siarad Cymraeg ym mhabell y dysgwyr ond beth oedd gen i mewn golwg oedd y dylai’r Eisteddfod fod yn sicrhau bod yna bobol yn siarad Cymraeg ar bob stondin.
“Bydde fe’n fodd i Gymreigio’r Eisteddfod, a bod y dysgwyr hyn yn gallu mynd o gwmpas ac ymarfer yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu drwy’r flwyddyn, trwy siarad â Chymry Cymraeg mewn sefyllfa go iawn.
“Mae’n gyfle gwych, yn hytrach na’u cadw nhw mewn corlan fach yng nghornel pabell y dysgwyr.”
‘Dylai’r Eisteddfod fod yn gwneud mwy’
Ond beth sydd ar gael ar hyn o bryd i ddysgwyr tu hwnt i gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn ac adnoddau a chyfleusterau Maes D?
Mae angen edrych y tu hwnt i hynny, yn ôl Cyril Jones, nid dim ond er lles dysgwyr a siaradwyr newydd, ond i bawb sy’n mynd i’r Eisteddfod.
“Wi’n meddwl y dylai’r Eisteddfod yn bendant fod yn gwneud mwy i gael Cymry Cymraeg i weithio ar y stondinau,” meddai.
“Wi’n siŵr bod digon wedi bod trwy’r gyfundrefn addysg ddwyieithog yng Nghymru allai gael eu cyflogi gan y cwmnïau yma i weithio yn y Steddfod.
“Dyna dw i’n meddwl, a byddai hynny’n rhoi cyfle wedyn i’r dysgwyr siarad Cymraeg ym mhob cwr o’r Maes.”
Mae’n teimlo, serch hynny, fod yr Eisteddfod yn rhoi digon o gefnogaeth i ddysgwyr a siaradwyr newydd, er y gellid ehangu ar y cyfleoedd i siaradwyr rhugl, siaradwyr newydd a dysgwyr gymysgu mwy.
“Dw i ddim yn dadlau nad yw’r Eisteddfod… ydyn, mae’r Eisteddfod a Cymraeg i Oedolion yn rhoi cefnogaeth. Dw i ddim yn siŵr a oes swyddog ar gyfer dysgwyr ar hyn o bryd. Mi roedd yna, ond dw i ddim yn siŵr iawn am hynny bellach.
“Mae’r Eisteddfod wedi bod yn cefnogi gyda’r gystadleuaeth, ond yr hyn dw i eisiau’u gweld nhw’n gwneud ydy ehangu’r diwrnod.
“A hefyd, gwneud Cymry Cymraeg – ac mae hyn yn bwysig – yn ymwybodol o bobol sydd yn dysgu Cymraeg fel bod cyfle iddyn nhw siarad gyda nhw ar y Maes, nid jyst pobol y stondinau ond pawb ar y Maes, bod e’n ymarfer iddyn nhw rhwng dau gyfnod dysgu achos mae’r dosbarthiadau wedi dod i ben a dyw dosbarthiadau mis Medi ddim wedi dechrau.
“Felly, bydde fe’n gyfle gwych i ddysgwyr gael ymarfer eu Cymraeg mewn sefyllfa Cymraeg go iawn, yr unig efallai sydd gyda ni yng Nghymru gydol y flwyddyn.
“Ond beth dw i eisiau gweld, y pwynt pwysig gen i ydy bod yna groeso i ragor o ddysgwyr ddod a bod Cymry Cymraeg yn ymwybodol o wahanol lwybrau mae’r dysgwyr yn eu troedio er mwyn dod yn siaradwyr.
“Mae e’r un mor bwysig i’r Cymry Cymraeg i siarad â nhw, dyna beth sy’n bwysig, a byddai’r Eisteddfod yn gyfle gwych i wneud hynny.
“Dyna’r prif bwynt gen i, defnyddio’r Eisteddfod fel modd i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ym mha fodd bynnag.
“Byddai eisiau trafod y peth, a dw i’n siŵr bod yna bobol yng Nghymraeg i Oedolion ac yn y Steddfod allai drafod ffyrdd o wneud hynny fel bod y dysgwyr hyn yn teimlo’n gyfforddus ym mhob cornel o’r Maes, a bo nhw hefyd yn cael, os ydyn nhw’n dymuno hynny, mynd i’r llwyfan.
“Ac efallai bod siaradwyr sydd wedi mynd trwy’r felin yn cael dweud pwt ar y llwyfan am eu llwybr nhw. Wi’n credu bod e’n bwysig er mwyn eu cymhathu nhw.”
Clywed gan siaradwyr rhugl
Ymhlith y rhai fu’n trafod eu taith iaith yn ystod yr Eisteddfod roedd y prif weinidog Mark Drakeford a’r cyflwynydd teledu Sean Fletcher.
Yn ôl Cyril Jones, mae’n “bwysig iawn, iawn” i ddysgwyr a siaradwyr newydd glywed gan bobol fel hyn.
“Yn y gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn, rydych chi’n cael yr hufen,” meddai.
“Mae llawer ohonyn nhw wedi dod trwy’r felin, efallai, oherwydd bo nhw’n dda am ddysgu ieithoedd.
“Mae yna bobol eraill hefyd sydd efallai ddim mor gyflym yn dysgu iaith, ac efallai ddim cystal am ddysgu iaith mewn byr amser. Mae eisiau clywed profiadau rheiny hefyd, achos mae sawl llwybr i gael tuag at fod yn siaradwyr.
“Dyna beth dw i eisiau, ehangu, nid jyst ei bod hi’n gystadleuaeth. Dyna fy syniad i ar gyfer diwrnod y dysgwyr.
“Dw i’n gwybod fod yr Eisteddfod wedi ymateb i’r syniad o roi mynediad am ddim, ond rhowch ostyngiad iddyn nhw.
“Ehangu’r ddarpariaeth, dyna oedd gen i mewn golwg.”
Ymateb
“Byddwn yn bwydo’r sylwadau hyn i mewn i’n proses gwerthuso eleni ac yn eu trafod dros y misoedd nesaf,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod wrth ymateb i golwg360.
Eisteddfod yn ystyried newid enw ‘Dysgwr y Flwyddyn’
Pôl: Dych chi’n meddwl dylai’r Eisteddfod newid enw ‘Dysgwr y Flwyddyn’?