Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi bod y cyn-Aelod o’r Senedd Suzy Davies wedi’i phenodi i fwrdd S4C.

Bydd hi’n eistedd ar y bwrdd am dymor o bedair blynedd tan 2026.

Roedd hi’n Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Orllewin De Cymru am ddeng mlynedd cyn etholiad 2021.

Hi hefyd yw cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru.

Yn ystod ei chyfnod yn Aelod o’r Senedd, treuliodd gyfnod hefyd yn llefarydd diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae Bwrdd S4C yn cynnwys y Cadeirydd a hyd at wyth aelod arall, sy’n cael eu penodi gan Ysgrifennydd Gwladol Technoleg Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon y Deyrnas Unedig.

Mae aelodau Bwrdd S4C yn derbyn £9,650 y flwyddyn.

Yn ôl S4C, mae’r bwrdd ar hyn o bryd yn cynnwys pedwar aelod anweithredol: y cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Guto Bebb; cyn-Brif Weithredwr Dŵr Cymru, Chris Jones; yr arbenigwr ar faterion corfforaethol, Denise Lewis Poulton; a “swyddog gweithredol profiadol ar lefel bwrdd”, Adele Gritten.