Mae deiseb wedi’i sefydlu i gefnogi dyn o’r Congo sy’n wynebu pryderon o’r newydd y gallai gael ei alltudio’n ôl i’w famwlad o Gymru.

Cafodd Richard Nomba, sy’n byw yn Abertawe, ei ddwyn i’r ddalfa ddydd Llun (Awst 8), a hynny am yr eildro mewn llai na deufis.

Mae’n cael ei gadw mewn canolfan gadw ger maes awyr Heathrow ar hyn o bryd.

Cafodd ei ddwyn i’r ddalfa ym mis Mehefin, a’i ryddhau dridiau’n ddiweddarach.

Cefndir

Daw Richard Nomba o’r Congo, gwlad sy’n parhau i fod yn anniogel ac yn wleidyddol gythryblus o ganlyniad i’r rhyfel yno.

Mae gwrthwynebwyr y llywodraeth bresennol mewn perygl gwirioneddol.

Fe ddaeth e i Abertawe i geisio lloches yn 2018, gan ddod yn aelod brwd a gweithgar o’r gymuned yn Abertawe, lle mae’n gwirfoddoli gydag elusen Oxfam ac yn rhoi cymorth i fewnfudwyr eraill o’r Congo.

Ar ddechrau’r cyfnod clo, aeth e ati i becynnu bwyd a nwyddau hanfodol a’u dosbarthu nhw i bobol fregus oedd yn hunanynysu, ac fe gafodd ei waith ei gydnabod gan y Loteri Genedlaethol, fu’n dathlu ei waith ar eu gwefan wrth iddyn nhw dynnu sylw at gyfraniadau gwirfoddol nifer o bobol.

Yn ôl y ddeiseb, bydd e mewn perygl pe bai’n rhaid iddo fe ddychwelyd i’r Congo ac mae hynny’n “enghraifft greulon o’r amgylchfyd atgas sy’n achosi oedi biwrocrataidd i geiswyr lloches gyda’r bygythiad y gallen nhw gael eu cymryd a’u halltudio ar unrhyw adeg”.

Mae’r ddeiseb wedi denu bron i 700 o lofnodion erbyn hyn.