Mae teulu merch ddeng wythnos oed sydd wedi cael trafferth cael gafael ar foddion i drin adlif (reflux) gwael yn dweud bod y sefyllfa yn un “bryderus”.
Ers iddi gael ei geni, mae merch Catrin Davis o Ffynnon Taf ger Caerdydd wedi bod yn dioddef gydag adlif gwael ac wedi bod yn cael powdwr ar bresgripsiwn er mwyn ei helpu.
Ond yn ddiweddar, dydyn nhw heb allu cael gafael ar y moddion, ac yn ôl y meddyg a’r fferyllwyr, mae’r diffyg cyflenwad yn gysylltiedig â Brexit, meddai Catrin Davis.
Mae’r trydydd ffisig a gafodd ei roi ar bresgripsiwn iddyn nhw mewn stoc, ond mae Catrin Davis yn poeni beth fyddai’n digwydd petai hwnnw’n mynd allan o stoc hefyd.
Brexit ar fai
Heb y ffisig, mae ei merch yn fwy tebygol o fod yn sâl ac mae hynny’n golygu bod ei llwnc yn llosgi, fel digwyddodd ychydig o ddiwrnodau yn ôl.
“Mae hi wedi dioddef ers y cafodd hi ei geni gyda reflux gwael, felly, fe gaethon ni bresgripsiwn gan y doctor i roi Gaviscon Infant Powder i roi yn ei llaeth hi er mwyn helpu gyda’r reflux,” esbonia Catrin Davis wrth golwg360.
“Ond yn ddiweddar rydyn ni wedi cael problem fawr cael gafael ar y powdwr yma.
“Fi wedi mynd at ryw 20 pharmacy gwahanol, a phob un yn dweud eu bod nhw ffaelu cael gafael arno fe a dydyn nhw ddim yn gwybod pryd mae’n mynd i ddod yn ôl mewn.
“Roedden nhw’n dweud bod y sefyllfa’n debyg dros y lle i gyd. Roeddwn i’n poeni, ac roedden nhw’n rhoi cyngor i fynd yn ôl at y doctor.
“Felly, fe aethon ni’n ôl at y doctor i gael presgripsiwn gwahanol ar gyfer rhywbeth sy’n gwneud rhywbeth tebyg.
“Es i i’r fferyllfa gyda hwnna, ac roedd e’r union yr un sefyllfa. Doedd hwnna ddim ar gael yn unman chwaith, ond doedd y doctor ddim yn ymwybodol o hynny – doedd y cysylltiad heb gael ei wneud.
“Gorfes i fynd yn ôl at y doctor ar y trydydd gwaith, ac erbyn y pwynt yma roeddwn i wedi rhedeg ma’s o bopeth oedd gyda ni, felly roedd y ferch yn mynd yn fwy sâl.
“Gaethon ni’r trydydd presgripsiwn yn y diwedd, ac mae hwnna in stock ond dw i yn poeni be sy’n digwydd os mae hwnna’n mynd mas o stoc hefyd.
“Roedd y fferyllydd a’r doctor wnes i siarad â nhw yn dweud bod y sefyllfa yn linked i Brexit, maen nhw’n cael trafferth gyda nifer o gyffuriau gwahanol i gael gafael arnyn nhw ar hyn o bryd.”
‘Wir yn dioddef’
Mae hi’n sefyllfa bryderus, meddai Catrin Davis, gan egluro beth yw goblygiadau peidio â chael y moddion.
“Mae ei reflux hi’n gwaethygu a fydd hi’n sâl fwy, ond y peth gwaethaf yw ei fod e’n dechrau llosgi hi wedyn ac mae peswch gyda hi ar hyn o bryd, sy’n gwneud pethau’n waeth,” meddai.
“Rydych chi’n gallu gweld ei bod hi mewn distress wedyn achos bod ei llwnc hi’n llosgi.
“Dyna’r sefyllfa roeddwn i ynddi echdoe, ble doedd dim byd gyda ni ac roedd hi wir yn dioddef ar y pwynt hynny.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg am ymateb.