Gallai hen gapel ger Treffynnon gael ei droi’n llety gwyliau pe bai’r cynlluniau’n cael eu cymeradwyo.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi derbyn cais i droi Capel Presbyteraidd Nant Y Fflint (Bethel) yn uned wyliau â dwy ystafell wely.

O fewn y cynlluniau sydd wedi’u cyflwyno i’r Cyngor, mae sôn am y bwriad i ddefnyddio’r adeilad fel gofod therapi un-i-un, ac ar gyfer therapïau lleferydd, iaith, celf, cerddoriaeth neu therapïau unigol eraill fel rhan o’r busnes.

Cafodd yr adeilad, sydd ar Heol y Nant ym Mhentre Helygain, ei ddefnyddio fel capel tan oddeutu 2018.

Hyrwyddo hanes yr adeilad

“O ganlyniad i niferoedd yn gostwng, fe werthodd yr eglwys y capel yn 2021, yn dilyn cyfnod o beidio â chael ei ddefnyddio a bod yn wag am gyfnod o dair blynedd,” meddai datganiad dylunio a mynediad a gafodd ei gyflwyno gan y sawl sy’n gwneud y cais.

“Mae’r capel oddeutu 150 mlwydd oed. Dydy e ddim wedi’i restru. Ni fu unrhyw gladdedigaethau.

“Mae’n adeilad syml un ystafell ynghyd ag adeilad allanol bach a gafodd ei adeiladu’n fwy diweddar oedd yn arfer cael ei ddefnyddio fel storfa lo / cwpwrdd cyfarpar.

“Mae’r adeilad mewn cyflwr eithaf da, ond yn dioddef yn sgil lleithder, lloriau wedi pydru neu wedi dymchwel a rhai ffenestri a gwaith plastr wedi cracio a’i niweidio, a fframiau ffenestri a drysau wedi pydru.

“Bydd y dyluniad arfaethedig yn cadw cynifer o’r nodweddion â phosib, gydag ychydig iawn o newid i’r tu allan ac ailddefnyddio nodweddion tu fewn.

“Rydym mewn cyswllt â chyn-weinidog y capel ac yn dymuno cadw a hyrwyddo cymaint o hanes yr adeilad â phosib.

“Bydd hyn yn cynnwys ailddefnyddio’r gwaith pren mewnol, ffenestri a gosodiadau fel rhan o’r gwaith o’i drosi.

“Lle bo’n bosib, bydd y gwaith celf yn cynnwys hen ffotograffau o’r capel, a bydd gwybodaeth am hanes y capel a’i gynulleidfa ar gael i ymwelwyr â’r adeilad a’r sawl sy’n mynd heibio (ar ffurf hysbysfwrdd bach).”

Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Sir y Fflint yn gwneud penderfyniad ar y cais yn y dyfodol.