Mae Cadeirydd Plaid Cymru wedi ymddiswyddo yn sgil anfodlonrwydd â’r ffordd mae’r blaid wedi delio ag achos yr Aelod Seneddol Jonathan Edwards.
Mae Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin wedi cael ei ail-dderbyn fel aelod o Blaid Cymru ar ôl iddo gael ei wahardd am 12 mis yn 2020 ar ôl cael rhybudd gan yr heddlu am ymosod.
Ers hynny, mae’n eistedd fel Aelod Annibynnol yn San Steffan, ac mae’r broses i benderfynu a fydd yn cael eistedd dros Blaid Cymru yno eto yn parhau.
Yn ôl Panel Aelodaeth, Disgyblaeth a Safonau Plaid Cymru, mae Jonathan Edwards wedi cwrdd â’r amodau a gafodd eu gosod pan gafodd ei wahardd, a chytunodd y panel yn unfrydol i’w dderbyn fel aelod eto.
“Fe wnaeth y gwaharddiad ym mis Gorffennaf 2020 adlewyrchu difrifoldeb y panel wrth ddelio gyda’r mater, ac fe wnaeth atgyfnerthu ei safbwynt diwyro bod pob ffurf ar aflonyddu, camdriniaeth a thrais yn annerbyniol,” meddai’r panel mewn datganiad.
“Mae’r penderfyniad yn cydnabod edifarhad diffuant Mr Edwards, a’r cyfnod estynedig o hunanadlewyrchu a dysgu.”
“Dydy’r broses fewnol i benderfynu ar aelodaeth Mr Edwards yng ngrŵp San Steffan heb ddod i ben.”
‘Ffyddlondeb a gwasanaeth hael’
Yn sgil ymddiswyddiad Alun Ffred Jones, y dirprwy-gadeirydd Beca Brown, sy’n gynghorydd yn Llanrug yng Ngwynedd, yw’r cadeirydd dros dro.
Bydd etholiad arall yn cael ei gynnal yng Nghynhadledd Flynyddol y blaid ym mis hydref i ddewis cadeirydd newydd.
“Mae Plaid Cymru eisiau diolch i Alun Ffred Jones am ei flynyddoedd lawer o ffyddlondeb a gwasanaeth hael i’r blaid,” meddai llefarydd ar ran y blaid.
“Mae Alun Ffred wedi cadeirio’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid gydag ymroddiad a phroffesiynoldeb drwy’r holl amser.”
“Anfaddeuol”
Fodd bynnag, mae’r ffaith fod Jonathan Edwards wedi cael ei ail-dderbyn yn aelod o’r Blaid wedi cynddeiriogi rhai.
Wrth ymateb ar Twitter, dywedodd Sara Huws, un o golofnwyr Golwg y “dylai pawb gael ail-gyfle i fod yn rhan o fywyd sifil ar ôl troseddu”.
“Ond mae natur y drosedd, y grym fydd e’n ei adennill a’r tanwydd y bydd yn rhoi i wrthwynebwyr y Blaid yn gwneud hyn mor annoeth.
“Yn bennaf mae’n effeithio gallu’r Blaid i lunio a gweithredu polisïau sy’n cefnogi dioddefwyr trais domestig.
“Mae’r ffaith iddyn nhw roi dyheadau gyrfa Jonathan o flaen gofynion y grŵp yma o bobol – grŵp sydd angen cymaint mwy o gefnogaeth yn wleidyddol – yn anfaddeuol.”