Mae ymgyrch sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru wedi helpu dros 100 o bobol i gael gwaith yn sector bwyd a diod Cymru yn ystod tri mis peilot yr ymgyrch.

Cafodd yr ymgyrch Gweithlu Bwyd Cymru ei lansio yn gynharach eleni, i annog pobol i ystyried gyrfa yn niwydiant bwyd a diod Cymru, ac i ddangos y cyfleoedd cyffrous ac amrywiol mae’r diwydiant yn eu cynnig.

Yn sgil llwyddiant yr ymgyrch i helpu pobol i gael hyd i waith, mae hi wedi cael ei hymestyn tan ddiwedd mis Tachwedd.

Gan gydweithio’n agos â busnesau, cafodd amrywiaeth o dalentau eu targedu, gan gynnwys y rheini oedd newydd adael yr ysgol, graddedigion o golegau a phrifysgolion a phobol oedd am weld newid byd.

Cafodd hysbysfwrdd swyddi ar-lein ei lansio, gan restru llu o swyddi oedd ar gael yn y diwydiant.

Gyda chyfnod newydd ar ddechrau yn dilyn ei lwyddiant dechreuol, y prosiect sydd yn gyfrifol am Hyb Gyrfaoedd Bwyd a Diod 2022 yn y Sioe Frenhinol.

Bydd yr hyb yn denu llu o bartneriaid ac yn fan cynnal trafodaethau i’ch ysbrydoli, ac yn helpu pobol o bob grŵp oed i ddewis a chynllunio ar gyfer cyfleoedd yn y diwydiant a chystadlu amdanynt.

Mae Llywodraeth Cymru bellach am adeiladu ar lwyddiant y peilot tri mis a helpu mwy o bobol i gael gwaith yn y diwydiant bwyd a diod.

‘Rolau a chyfleoedd amrywiol, cyffrous a deniadol’

Bydd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd yn Llywodraeth Cymru, yn ymweld â’r Hyb Gyrfaoedd Bwyd a Diod heddiw.

“Rwy’n falch iawn bod ymgyrch Gweithlu Bwyd Cymru wedi helpu mwy na 100 o bobol i gael gwaith yn y diwydiant bwyd a diod – dyna o leiaf un person bob dydd yn ystod peilot tri mis yr ymgyrch,” meddai.

“Rydyn ni’n estyn y cynllun gan obeithio y daw mwy o bobl i ymuno â’r sector.

“Mae’n wych clywed busnesau’n siarad â sut angerdd am y gyrfaoedd maen nhw’n eu cynnig ac mae’r hyb yn y Sioe Fawr yn allweddol i helpu pobol i ddysgu mwy am y rolau a’r cyfleoedd amrywiol, cyffrous a deniadol sydd ar gael.”

  • Peter’s Food

O ddechrau bach, mae Peter’s Food wedi tyfu i fod yn un o gyflogwyr mwyaf Cymru, ac yn un o’r dosbarthwyr cigoedd oer mwyaf yn y Deyrnas Unedig.

Fel un o’r busnesau sy’n cymryd rhan yn y prosiect, dywed Deborah Jones, y Swyddog Hyfforddi, fod “llawer o gyfleoedd gwaith yn Peter’s Food, fel swyddi cynhyrchu a swyddi yn y stafell gig ac yn ein swyddfeydd”.

“Felly mae buddsoddi yn ein gweithwyr yn bwysig iawn i ni,” meddai.

“Mae’n eu gwneud yn fwy hyderus yn eu swyddi ac maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu trysori gan eu bod yn gallu mynd yn eu blaenau ac ennill mwy o wybodaeth.”

  • Avara Foods

Yn y cyfamser, mae Avara Foods yn un o nifer o gwmnïau bwyd a diod yng Nghymru sy’n cynnig prentisiaethau.

Mae un ohonyn nhw, Andrew, prentis peirianneg blwyddyn gyntaf, yn dweud bod Avara wedi ei helpu’n fawr.

“Mae Avara wedi bod yn wych am drefnu i ‘nghael i i fynd yn ôl i’r coleg ac ailhyfforddi a meithrin y sgiliau sydd eu hangen i fod yn beiriannydd amrywiol ei sgiliau,” meddai.

“Cefais fy nenu i’r diwydiant bwyd am fod yr hyfforddiant sgiliau heb ei ail.

“Rwy’n hoffi’r amrywiaeth o beiriannau rydyn ni’n cael gweithio arnyn nhw ac yn wir, maen nhw wrthi’n cael eu huwchraddio.

“Felly mae cyfleoedd i weithio gyda roboteg, trydaneg a pheirianneg mecanyddol.”

Diwydiant sy’n ffynnu

Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn ffynnu ar hyn o bryd.

Yn ogystal â rhoi bwyd ar fyrddau’r genedl, mae’r diwydiant hefyd yn rhoi cynnyrch ardderchog Cymru ar lwyfan y byd.

Cynyddodd allforion bwyd a diod Cymru i £641m yn 2021, yr uchaf erioed.

A Chymru welodd y cynnydd canrannol mwyaf yng ngwerth ei hallforion bwyd a diod o blith pedair gwlad y Deyrnas Unedig rhwng 2020 a 2021, gyda chynnydd o £89m, sy’n dwf o 16.1%.

Am ragor o wybodaeth am Weithlu Bwyd Cymru a’r swyddi gwag yn y diwydiant, ewch i Swyddi Bwyd & Diod – Gweithlu Bwyd Cymru.