Mae ffermwyr Cymru’n cael eu gadael ar eu pennau eu hunain i frwydro yn erbyn chwyddiant wrth aros misoedd am daliadau gan y llywodraeth sydd eisoes wedi’u cyflwyno yn Lloegr, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Y Cynllun Taliad Sylfaenol yw’r arian mae ffermwyr yn ei dderbyn gan y wladwriaeth i gefnogi eu busnesau wrth iddyn nhw sicrhau bod bwyd yn cyrraedd y bwrdd cinio.
Yn Lloegr, daeth cadarnhad eisoes y bydd 50% o’r taliad hwn yn cael ei roi chwe mis yn gynt na’r disgwyl er mwyn cefnogi’r sector amaeth yn sgil yr argyfwng costau byw, chwyddiant ac effaith rhyfel Wcráin ar y gadwyn gyflenwi.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chyflwyno’r taliad yn gynnar yn golygu bod ffermwyr Cymru ar ei hôl hi o’u cymharu â ffermwyr Lloegr gan y bydd yn rhaid iddyn nhw aros am eu taliad llawn o fis Rhagfyr, pan fydd gweddill y taliad yn cael ei wneud yn Lloegr.
Maen nhw’n cyhuddo gweinidogion Llafur o beidio â deall na gwerthfawrogi pwysigrwydd dichonolrwydd ffermydd, gan gynnwys eu gwerth i’r economi leol, y diwylliant a’r Gymraeg.
Galw am ymrwymiad
Fis Mai eleni, fe wnaeth Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, alw ar y Prif Weinidog Mark Drakeford i gyflwyno’r taliadau’n gynnar ym mis Gorffennaf, yn yr un modd â Llywodraeth San Steffan yn Lloegr, o bosib oherwydd Brexit.
Er nad oedd e wedi ymrwymo, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod Mark Drakeford wedi dweud bryd hynny y byddai’r sefyllfa’n cael ei hystyried, ond na fu cynnydd ers i’r Ysgrifennydd Materion Gwledig benderfynu peidio â chyflwyno’r taliad yn gynnar.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn tynnu sylw at sylwadau Mark Drakeford yr un pryd nad oedd yna “argyfwng yn y sector bwyd”, ar ôl i Lywodraethwr Banc Lloegr rybuddio am gynnydd sylweddol mewn prisiau bwyd.
“Fel plaid sy’n gyflym iawn wrth bwysleisio’u Cymreictod, mae hi fel pe bai gan Lafur fan dall enfawr pan ddaw i un o’i diwydiannau pwysicaf – ffermio,” meddai Andrew RT Davies.
“Mae costau byw yn brathu’r sector yma sy’n dibynnu’n sylweddol ar arian y wladwriaeth, felly mae hi ond yn iawn i archwilio ffyrdd y gallwn ni leddfu’r pwysau hynny.
“Un ffordd o wneud hyn yw cyflwyno rhan o’r taliad sylfaenol a fyddai’n galluogi ffermwyr i fuddsoddi yn eu busnesau yr haf yma.
“Mae hyn eisoes yn digwydd o dan y Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr ond, am ryw reswm, all Llafur ddim gorfodi eu hunain i wneud hynny yng Nghymru a dw i ddim yn siŵr pam.
“Dw i wir yn gobeithio eu bod nhw’n gwerthfawrogi’r niwedd allai gael ei achosi drwy beidio â gwneud ymdrech i gynnal dichonolrwydd ffermydd er lles cymunedau lleol.
“Dw i’n annog gweinidogion ym Mae Caerdydd i newid eu meddyliau.”