Mae nyrs a ffisiotherapydd sy’n gweithio yn Ysbyty Singleton yn Abertawe wedi cael eu canmol a’u cydnabod am eu gwaith wrth herio agweddau hiliol yn y gweithle.
Mae Omobola Akinade yn nyrs a Manessa Faal yn ffisiotherapydd sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac maen nhw wedi bod yn defnyddio’u profiadau eu hunain o hiliaeth i hyrwyddo cydraddoldeb.
Daeth Omobola Akinade i Gymru o Nigeria bron i ugain mlynedd yn ôl ac ers iddi symud i Abertawe yn 2005, mae hi wedi gweithio ar sawl ward, gan helpu cleifion ym meysydd clefyd y siwgr, strôc a phroblemau anadlu, cyn symud i’r wardiau gastroenteroleg a strôc yn fwy diweddar.
Ond y llynedd, cafodd ei sarhau’n hiliol wrth ei gwaith a phenderfynodd hi mai digon yw digon.
“Roedd claf wedi fy sarhau i’n hiliol yn fwriadol, ac fe ddywedodd y peth eto y diwrnod canlynol,” meddai.
“Pan ddigwyddodd e i fi y tro cyntaf, ro’n i’n meddwl efallai mai rhywbeth un tro oedd e, ond fe ddigwyddodd e eto’r diwrnod wedyn.
“Pan ddaw i gamdriniaeth, oherwydd ein bod ni i gyd o dan bwysau, rydyn ni jyst yn dueddol o gario ymlaen.
“Ond pan ddigwyddodd e i fi yr ail ddiwrnod, ro’n i’n meddwl, ‘Dw i ddim yn mynd i gymryd hyn rhagor’.
“Es i adref a meddwl, a meddwl nad oedd unrhyw beth yn mynd i ddigwydd yn ei gylch e, ac fe wnes i feddwl fod angen i fi siarad allan a siarad am y peth.”
Siaradodd hi ag un o’i phenaethiaid, ac fe arweiniodd at hyfforddi staff ynghylch sut i adrodd am ddigwyddiadau o’r fath.
Mae swyddogion plismona cymunedol bellach ar y safle yn Ysbyty Singleton hefyd, a gall staff a chleifion droi atyn nhw os oes ganddyn nhw bryderon neu os bydd digwyddiadau.
“Mae Omobola wedi helpu’n fawr iawn yn y ffordd mae’r bwrdd iechyd yn edrych ar y digwyddiadau hyn,” meddai Helen Eynon, rheolwr Ward 6 yn Ysbyty Singleton.
“Rydyn ni wedi canfod ers hynny nad yw’r gamdriniaeth hon yn newydd, ac nad yw staff yn codi llais am y peth.
“Roedd Omobola i ffwrdd o’r gwaith am amser hir o’i herwydd e, a doedd hi ddim eisiau dod ’nôl.
“Mae hi’n ran greiddiol o fy nhîm ac fe welson ni ei heisiau hi’n fawr.”
‘Dywedwch Na wrth hiliaeth’
“Fe wnes i feddwl sut allen ni ei helpu hi’n ôl i’r gwaith, ac fe wnes i ofyn a oedd yna lun neu boster yr hoffai ei gael ar y wal,” meddai Helen Eynon wedyn.
Canlyniad hynny oedd arddangos nifer o bosteri ‘Dywedwch Na wrth hiliaeth’ o amgylch yr ysbyty yn y gobaith o atal rhagor o ddigwyddiadau tebyg.
“Dw i ddim eisiau i’r hyn ddigwyddodd i Omobola ddigwydd i neb arall nac iddi hi eto.
“Rydyn ni wedi rhoi’r posteri o amgylch yr ysbyty fel bod un ar bob un ward, ger y mynedfeydd, y lifftiau, yn y ffreutur a’r siop goffi.”
Mae ei phrofiadau wedi arwain at gynnig lle i Omobola Akinade ar Raglen Arweinyddiaeth Nyrsys a Bydwragedd Windrush Sefydliad Florence Nightingale.
Nod y sefydliad yw gwella iechyd, deilliannau clinigol a phrofiadau cleifion drwy hybu arweinyddiaeth ymhlith nyrsys a bydwragedd, a chan gynnig datblygiad arweinyddol arbennig i nyrsys a bydwragedd o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.
Mae hefyd yn cofio ac yn dathlu cyfraniad y rhai a gyrhaeddodd wledydd Prydain ar long Windrush yn 1948, gyda nifer ohonyn nhw a’u teuluoedd wedi cyfrannu at y Gwasanaeth Iechyd ar hyd y blynyddoedd.
‘Erioed wedi difaru dod yma’
Dywed Omobola Akinade ei bod hi’n teimlo’n unig pan ddaeth hi yma ac nad oedd hi’n adnabod neb pan ddaeth hi i Abertawe o Nigeria.
Mae’n dweud bod ei theulu’n ei hannog i aros yn Nigeria, ond ei bod hi wedi bod yn “ddewr erioed” ac “eisiau bod y cyntaf i wneud pethau”, ac mae hi wedi aros yn Abertawe ers blynyddoedd bellach.
“Dw i wedi aros yn Abertawe oherwydd dw i wrth fy modd, a dw i erioed wedi difaru dod yma,” meddai.
Mae hi eisiau annog aelodau eraill o staff i rannu eu profiadau nhw hefyd.
“Dw i’n teimlo’n hapus iawn fy mod i’n mynd i fod yn symud pethau yn eu blaenau,” meddai.
“Os nad ydych chi’n siarad am bethau, does dim byd yn mynd i gael ei wneud, a fydd dim byd yn newid.
“Dw i eisiau i’r staff wybod fod rhywle iddyn nhw fynd fel bod modd iddyn nhw godi llais am y peth.”
Manessa Faal a’i phrofiadau personol sy’n ysgogi newid
Mae Manessa Faal, sy’n gweithio yn adran cleifion allanol gyhyrysgerbydol yr ysbyty, hefyd wedi defnyddio profiad personol i ysgogi newidiadau.
O ganlyniad, mae hi wedi derbyn gwobr cyfraniad rhagorol Cymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig am ei chyfraniad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle.
Trefnodd hi hyfforddiant ar Herio Hiliaeth yn y gweithle fel rhan o hyfforddiant ffisiotherapyddion yn y bwrdd iechyd, ar ôl iddi hithau gwblhau’r hyfforddiant.
Cafodd ei hysbrydoli gan ddigwyddiad yn y gweithle yn ymwneud â rhagfarn a chydraddoldeb, wrth iddi herio diffyg dealltwriaeth rhai ynghylch y pwnc o fewn yr adran a’r Gwasanaeth Iechyd.
“Roeddwn i’n teimlo’n bryderus iawn ynghylch y digwyddiad,” meddai.
“Os oedd e’n gallu digwydd i fi, stiward [undebol] sy’n deall polisïau a gweithdrefnau a sut ddylid ymdrin â’r sefyllfaoedd hyn, yna beth sy’n digwydd i eraill sy’n codi pryderon tebyg ond sydd heb lais neu ddim yn gwybod beth yw’r prosesau priodol?
“Roeddwn i jyst yn teimlo bellach nad oedd hyn amdanaf fi, ond ei fod e’n broblem wirioneddol oedd yn mynd i effeithio ar nifer o bobol yn y bwrdd iechyd.”
Ers 2020, mae hi wedi bod yn cydweithio ag aelodau, stiwardiaid, cynrychiolwyr diogelwch, staff ac arweinwyr i geisio gwella’r sefyllfa ar draws y Gwasanaeth Iechyd ac mewn cymunedau.
Mae’n dweud ei bod hi’n “bwysig iawn” fod staff y Gwasanaeth Iechyd yn hybu gwrth-hiliaeth ac i gymryd cam pellach na chefnogi ymdrechion pobol eraill.
Mae hi wedi helpu i greu fideo ar gyfer stiwardiaid undebol i annog aelodau undebau o bob math o gefndiroedd i sicrhau amrywiaeth o fewn swyddi undebol ac arweinyddol.
“Rydyn ni wedi bod yn gwneud gwaith gyda’r prifysgolion er mwyn gwella nifer y bobol o gefndiroedd amrywiol sy’n cofrestru ar gyrsiau gradd ffisiotherapi, a hefyd yn edrych ar rai o’r rhaglenni arweinyddiaeth er mwyn cael mwy o gynrychiolaeth drwy gynyddu nifer y bobol o gefndiroedd amrywiol sy’n cael swyddi rheoli,” meddai.
“Mae rhwydweithiau amrywiaeth Bae Abertawe hefyd wedi bod yn cydweithio â’n prif weithredwr, Mark Hackett, i weld sut allwn ni gael mwy o bobol o gefndiroedd amrywiol i mewn i’r swyddi uwch hynny.”