Dim ond 10% o drenau Cymru sy’n rhedeg heddiw (dydd Iau, Awst 18) wrth i undebau RMT a TSSA gynnal streiciau.
Mae’r undebau hefyd yn bwriadu cynnal streiciau ddydd Sadwrn (Awst 20).
Dydy Trafnidiaeth Cymru ddim yn rhan o’r naill anghydfod na’r llall, ond fe fydd eu gwasanaethau yn cael eu heffeithio, gan eu bod nhw’n dibynnu ar staff Network Rail.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhedeg gwasanaeth bob awr rhwng Caerdydd a Chasnewydd, tra bydd gwasanaethau bob awr hefyd yn rhedeg ar Reilffyrdd y Cymoedd rhwng Canol Caerdydd a Rhymni, Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful.
Bydd Great Western Railway yn rhedeg llai o drenau rhwng Caerdydd a Paddington ar ddyddiau’r streic.
Ond fydd gwasanaethau Great Western Railway ddim yn gallu gweithredu i’r gorllewin o Gaerdydd.
Yn y gogledd, fydd Trafnidiaeth Cymru ddim yn rhedeg gwasanaethau rhwng Caergybi a Chaer, a does dim trenau wedi’u trefnu ar hyd arfordir y gogledd, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu gweithredu gan Drafnidiaeth Cymru ac Arfordir Gorllewin Avanti.
Mae teithwyr hefyd yn cael gwybod ei bod hi’n debygol y bydd rhywfaint o amhariad ar y diwrnodau wedi pob streic – Gwener (Awst 19) a Sul (Awst 21) – wrth i weithwyr ddychwelyd i’r gwaith.
‘Swyddi’
Mae’r RMT yn honni bod Network Rail yn ceisio gosod diswyddiadau gorfodol a thoriadau i waith cynnal a chadw.
Maen nhw hefyd yn cyhuddo penaethiaid rheilffyrdd o beryglu diogelwch y cyhoedd.
“Mae’r anghydfod yr ydym ynddo yn anghydfod dan arweiniad ein haelodau, ac ni fydd yn cael ei ddatrys nes i’n haelodau benderfynu ei fod ar ben,” meddai Mick Lynch, ysgrifennydd cyffredinol yr RMT.
“Nid yw’n ymwneud â thâl, er bod cyflog yn rhan ohono, ond mae’n ymwneud yn bennaf â’n swyddi.
“Os nad oes gennych chi swydd, dydych chi ddim yn mynd i gael codiad cyflog.
“Ydyn nhw byth eisiau siarad am hynny? Nac ydyn, maen nhw eisiau siarad am ‘weithwyr rheilffordd barus’, a ‘chyflogau gyrwyr trenau’.
“Ond os ydych chi’n gweithio ar y giât yn Glasgow Central, dydych chi ddim ar gyflog gyrrwr trên. Dydych chi’n ennill dim mwy nag unrhyw weithiwr yn y sector cyhoeddus.”
“Cynlluniwch ymlaen llaw”
Yn y cyfamser, mae Network Rail yn cynghori pobol i gynllunio’u teithiau ymlaen llaw.
“Mae’n fy nhristáu ein bod unwaith eto yn gorfod gofyn i deithwyr gadw draw o’r rheilffordd am ddau ddiwrnod yr wythnos hon oherwydd streic ddiangen, pan ddylem fod yn eu helpu i fwynhau’r haf,” meddai’r prif weithredwr Andrew Haines.
“Byddwn yn rhedeg cymaint o wasanaethau ag y gallwn ddydd Iau a dydd Sadwrn, ond dim ond tua un rhan o bump o’r amserlen arferol fydd hi, felly peidiwch â theithio oni bai bod yn rhaid i chi, cynlluniwch ymlaen llaw a gwiriwch pryd fydd eich trên olaf.”