Mae 98% o fyfyrwyr Cymru wedi ennill graddau A*-E yn eu harholiadau Safon Uwch, gyda 17.1% yn ennill gradd A*.
Daw hyn wrth i fyfyrwyr ledled y wlad gael gwybod eu canlyniadau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol, Lefel 3, Bagloriaeth Cymru Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau Uwch heddiw (dydd Iau, Awst 18).
92.7% o fyfyrwyr sydd wedi ennill graddau A-E ar lefel Uwch Gyfrannol, gyda 30.7% yn ennill gradd A.
Mae 96.7% wedi ennill y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch, ond roedd gostyngiad o 8.1 pwynt canrannol yn nifer y myfyrwyr oedd yn dilyn y Dystysgrif eleni o gymharu â 2021.
Llwyddodd 79.4% i ennill Bagloriaeth Cymru Uwch.
‘Ymdrech a dyfalbarhad’
“Ar ran CBAC, hoffwn longyfarch y myfyrwyr sy’n casglu eu canlyniadau heddiw,” meddai Ian Morgan, Prif Weithredwr Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru.
“Deallwn yr heriau mae’r myfyrwyr hyn wedi’u hwynebu wrth i ni fynd yn ôl i’r drefn o asesiadau allanol; ond, mae’r canlyniadau hyn heddiw yn dangos yr holl ymdrech a dyfalbarhad a ddangoswyd ganddynt drwy gydol eu hastudiaethau.
‘Hoffwn ddiolch hefyd i’r holl athrawon, darlithwyr a thimau sy’n gweithio yn yr ysgolion a’r colegau ledled y wlad am eu holl waith caled a phroffesiynoldeb unwaith eto eleni; mae eu hymrwymiad a’u cefnogaeth i’r myfyrwyr wedi bod heb eu hail ar hyd eu taith.
‘Dymunaf y gorau i bawb ohonoch at y dyfodol; p’un a fyddwch chi’n parhau i astudio neu’n cychwyn ar gam cyntaf eich gyrfa.”
‘Gall myfyrwyr fod yn falch’
Mae Prifysgolion Cymru hefyd wedi llongyfarch myfyrwyr ar eu canlyniadau.
“Gall myfyrwyr fod yn falch o’u gwaith caled dros yr hyn sydd wedi bod yn ddwy flynedd heriol, a gallant nawr edrych ymlaen at y cam nesaf ar eu taith, a fydd, i lawer, yn cynnwys astudio yn y brifysgol,” meddai Kieron Rees, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Prifysgolion Cymru.
“Mae’n wych gweld bod cymaint o bobol ifanc yng Nghymru yn parhau i osod gwerth ar fanteision mynd i’r brifysgol, a rydym wrth ein bodd bod myfyrwyr yn parhau i gydnabod y cyfleoedd unigryw y mae prifysgolion yng Nghymru’n eu cynnig.
“I’r rhai na chawsant y canlyniadau yr oeddent wedi gobeithio amdanynt, neu sydd heb benderfynu eto, mae yna lawer o opsiynau yng Nghymru ar gael i fyfyrwyr trwy’r system glirio.
“Mae prifysgolion ledled Cymru yn darparu lleoedd trwy glirio, ac mae ganddyn nhw ymgynghorwyr yn aros i gynghori myfyrwyr ar yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw.
“Mae ein myfyrwyr yn rhan bwysig a gwerthfawr o’n cymunedau ledled Cymru, a gall y rhai sy’n ymuno â ni yn yr hydref edrych ymlaen at groeso cynnes, cyrsiau gwerth chweil o ansawdd uchel a phrofiad rhagorol i fyfyrwyr.”