“Achubwch ein Hambiwlans Awyr” yw’r alwad gan Blaid Cymru yn dilyn y newyddion am y bwriad i gau’r cyfleuster yn y Trallwng.

Mae’r elusen yn dweud bod y penderfyniad yn dod yn dilyn adolygiad o’u gwasanaethau, gyda’r bwriad o alluogi 583 o deithiau ychwanegol ledled Cymru bob blwyddyn.

Ond mae’n golygu y byddai Powys yn cael ei gwasanaethu gan orsafoedd yn y gogledd a’r de, gyda staff presennol y Trallwng yn cael eu cydleoli gyda thîm gogledd Cymru mewn lleoliad sydd i’w benderfynu.

Gwasanaeth hanfodol i’r ardal

“Mae’n hollbwysig fod y gwasanaeth hwn yn parhau, mae wedi darparu cefnogaeth hanfodol i’n cymunedau a gwasanaethau brys eraill ac mae’n hanfodol ei fod yn parhau yn y dyfodol,” meddai’r Cynghorydd Elwyn Vaughan.

“Rydym yn gweithio fel tîm ar hyn.

“Mae’r Cynghorydd Gary Mitchell yn pwyso ar Gyngor Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ofyn cwestiynau am y bygythiad hwn ac mae am i’r cyngor wahodd penaethiaid Ambiwlans Awyr i’r awdurdod i egluro eu penderfyniad.

Dywed y Cynghorydd Gary Mitchell ei fod e am i “Gyngor Powys ei gwneud hi’n glir pa mor hanfodol yw’r gwasanaeth hwn i’n trigolion”.

“Mae ein natur wledig yn ffactor pwysig ac mae’r ambiwlans awyr yn darparu gwasanaeth wrth gefn hanfodol i’r gwasanaethau brys eraill,” meddai.

“Rydym yn ymwybodol iawn o’r amseroedd aros hir sy’n bodoli ar gyfer ambiwlansys a’r pellteroedd hir i ysbytai mawr; mae angen y sicrwydd hwn a’r ambiwlans awyr arnom felly i leddfu pryderon gwirioneddol ein trigolion.”

‘Cryfder mewn undod’

“Rydym eisoes wedi gofyn i Aelod Seneddol rhanbarthol Plaid Cymru, Cefin Campbell, godi’r mater gyda’r Gweinidog Iechyd a rydym ni heno, gan weithio gyda’r Cynghorydd Joy Jones o’r Drenewydd, ymgyrchydd iechyd o fri, wedi lansio deiseb ar-lein i’r holl drigolion gefnogi’r alwad am gadw’r gwasanaeth hwn,” meddai Elwyn Vaughan.

“Cryfder mewn undod i’n cymunedau.”

“Pryderu’n arw”

Wrth ymateb i bryderon i’r pryderon, dywedodd Cefin Campbell, Aelod Senedd Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru: “Rwy’n pryderu’n arw am y cynnig i adleoli’r gwasanaeth Ambiwlans Awyr o’i chanolfan yn y Trallwng.

“Mae’r Ambiwlans Awyr yn wasanaeth amhrisiadwy sy’n rhoi sicrwydd i drigolion ar draws y Canolbarth – a gwyddwn am nifer o achosion pan fo ymateb cyflym ac effeithlonrwydd yr Ambiwlans Awyr wedi achub bywydau.

“Mae trigolion lleol yn naturiol bryderus am yr effaith y gallai colli’r gwasanaeth yma ei gael – yn gynharach y mis hwn yn unig, gwelsom astudiaeth yn nodi fod ffyrdd mwyaf peryglus Prydain gyfan ym Mhowys – tra bod llai na hanner o alwadau ambiwlans “coch” ledled y sir yn cael eu hateb o fewn y targed 8 munud.

“Byddaf yn pwyso ar awdurdodau a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau yn y Trallwng, fel nad yw trigolion ledled Sir Drefaldwyn, y Canolbarth, a thu hwnt, yn cael eu rhoi mewn perygl gan unrhyw ddiwygiad i’r drefn.”