Mae Plaid Cymru’n galw am lai o bwyslais ar arholiadau yn y dyfodol.

Daw hyn wrth i filoedd o ddisgyblion dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch ar draws Cymru heddiw (dydd Iau, Awst 18).

Mae disgwyl i’r graddau yn gyffredinol fod yn is nag yn ystod y pandemig ond yn uwch na 2019.

Y bwriad ydi adlewyrchu pwynt hanner ffordd rhwng 2021 – pan gafodd disgyblion eu hasesu gan eu hathrawon – a 2019.

Ond dywed Heledd Fychan, llefarydd plant a phobol Ifanc Plaid Cymru, ei bod hi’n credu bod ffyrdd gwell o fesur gallu myfyrwyr nag arholiadau.

“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi derbyn eu canlyniadau Lefel A heddiw,” meddai.

“Mae’n deg dweud fod pob disgybl wedi wynebu pob math o heriau oherwydd Covid, ac wedi gwneud eu gorau dan amgylchiadau anodd.

“Mae Plaid Cymru yn parhau i gwestiynu ai sefyll arholiadau yw’r ffordd orau o fesur galluoedd a chyraeddiadau pobol ifanc.

“Rydyn ni o’r farn ei bod hi’n bryd rhoi mwy o bwyslais ar asesu cyson yn hytrach nag arholiadau.”