Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, wedi llongyfarch dysgwyr ledled Cymru, wrth i ddysgwyr cymwysterau Safon Uwch, Safon Uwch Gyfrannol, Bagloriaeth Cymru a chymwysterau galwedigaethol dderbyn eu canlyniadau fore heddiw (dydd Iau, Awst 18).

Am y tro cyntaf ers 2019, dychwelodd dysgwyr at arholiadau ac asesiadau ffurfiol eleni ar gyfer Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol.

Mae llawer o ddysgwyr galwedigaethol yn derbyn eu canlyniadau Lefel 3 heddiw hefyd.

Caiff canlyniadau TGAU eleni eu cyhoeddi ddydd Iau nesaf (Awst 25).

Ymwelodd Jeremy Miles â Choleg Sir Gâr yn Llanelli fore heddiw, a chyfarfod â myfyrwyr fu’n casglu eu canlyniadau.

‘Diwrnod mawr’

“Hoffwn i longyfarch pawb sy’n derbyn eu canlyniadau heddiw,” meddai.

“Mae’n ddiwrnod mawr i chi i gyd, ac yn benllanw blynyddoedd o waith caled.

“Gobeithio i chi gael y graddau yr oeddech wedi gobeithio amdanynt.

“Rydyn ni’n gwybod yn iawn bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn i fyfyrwyr ac i staff, felly i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o sicrhau y gallai arholiadau eleni gael eu cynnal, mae heddiw’n haeddiant am yr holl waith caled yr ydych chi wedi’i wneud.

“Bydd y nifer uchaf erioed o bobol ifanc o Gymru’n mynd i’r brifysgol eleni, ac mae amser cyffrous o’u blaenau.

“Os nad ydych chi wedi cael y canlyniadau yr oeddech chi wedi gobeithio amdanynt, neu os nad ydych chi’n siŵr am eich camau nesaf, fy neges allweddol yw – peidiwch â bod yn rhy siomedig a pheidiwch â bod yn rhy galed ar eich hunain.

“Mae llawer o opsiynau ar gael i chi, gan gynnwys system glirio prifysgolion, prentisiaethau, a dechrau eich busnes eich hun hyd yn oed.

“Mae Gyrfa Cymru yn lle gwych i gael cyngor yn y lle cyntaf, a bydd eich ysgol neu eich coleg yno i’ch cefnogi chi hefyd.

“Mae ein Gwarant i Bobl Ifanc yn rhoi cyfle i bawb o dan 25 oed i ddilyn rhaglen addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu fynd yn hunangyflogedig, felly’n sicr mae llawer o opsiynau ar gael i chi allu dilyn yr yrfa yr ydych chi’n ei dymuno.

“Rwy’n gobeithio y bydd pob un ohonoch sy’n derbyn eich canlyniadau heddiw yn cymryd amser i ganmol eich hunain, mwynhau gweddill yr haf ac edrych ymlaen at y cyfleoedd cyffrous sydd o’ch blaenau.”