Mae trefnydd gŵyl gelfyddydol ‘Metaboliaeth’ wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi wedi rhoi “galwad agored i bobol oedd eisiau cyfrannu” i wneud hynny.

Bydd Gŵyl Metaboliaeth – sy’n cael ei chynnal rhwng Awst 19 a 21 – yn cynnwys mwy na deg ar hugain o artistiaid a pherfformwyr.

Bydd 15 o ddigwyddiadau neu sefyllfaoedd byw yn cael eu cynnal yn ninas Bangor a’r cyffiniau fel rhan o’r ŵyl.

Dyma’r ail ŵyl fel rhan o brosiect ymchwil AHRC, ‘Ailddyfeisio’r Digwyddiad Byw’, o dan arweiniad Dr Sarah Pogoda, sy’n gweithio yn Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith Prifysgol Bangor.

Bydd mynediad i holl ddigwyddiadau’r ŵyl yn rhad ac am ddim.

‘Ailddyfeisio digwyddiadau byw’

“Mae’r holl ŵyl yn rhan o brosiect ymchwil sy’n ymwneud ag ailddyfeisio digwyddiadau byw,” eglura Dr Sarah Pogoda.

“Dyma oedd yr achos gyda’r Ŵyl Metamorffosis y llynedd hefyd.

“Y llynedd, roeddwn yn edrych fwy ar sut yr oedd artistiaid a chynulleidfaoedd yn delio gyda chyfyngiadau Covid-19 oherwydd doedd dim hawl gyda ni gael mwy na 30 o bobol mewn cynulleidfa a doedd dim gwir fodd i artistiaid gydweithio.

“Ond eleni, gan fod y cyfyngiadau wedi cael eu codi, mae gen i ddiddordeb gweld os yw artistiaid a chynulleidfaoedd wedi dychwelyd i weithredu fel yr oedden nhw cyn y pandemig neu beidio.

“Ydy artistiaid yn dal i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio gyda’i gilydd? Oes well gan gynulleidfaoedd ddigwyddiadau bychan?

“Ta ydyn nhw eisiau mynd yn ôl i sut yr oedd pethau cyn y pandemig?”

‘Galwad agored’

Roedd yna wahoddiad i unrhyw un oedd eisiau cyfrannu i’r ŵyl gymryd rhan, meddai Dr Sarah Pogoda.

Mae’r arlwy yn cynnwys perfformiadau gan Hap a Damwain, y bardd Rhys Trimble, caneuon gan y gyfansoddwraig Jodie Mamatung, a darlleniadau barddoniaeth gan Anna Powell, Elaine Marianne Hughes a Karen Ankers.

“Roedd yna alwad agored i unrhyw un oedd gan amser, neu unrhyw un oedd wedi bod yn gweithio ar rywbeth,” meddai.

“Doedd dim angen iddo fod yn ddarn gorffenedig, fe allai fod yn rhywbeth yr oedd rhywun yn y broses o’i greu.

“Fel y dywedais, parhad o’r Ŵyl Metamorffosis yw hwn felly roedden ni’n gobeithio parhau i weithio gyda’r bobol wnaeth gyfrannu’r llynedd.

“Ond mae yna artistiaid wnaeth ddim cyflwyno eu gwaith y llynedd sy’n cyfrannu eleni.

“Fel y dywedais, roedd yna alwad agored i bobol oedd eisiau cyfrannu, i bob pwrpas chafodd yr ŵyl ddim ei churadu.”