Mae pobol ifanc yng Nghymru yn gwylio pum gwaith yn llai o deledu traddodiadol na phobol 55 oed a throsodd, medd adroddiad newydd.
O gymharu â’r genhedlaeth hŷn, mae defnyddwyr ifanc yn fwy tebygol o ddefnyddio platfformau ffrydio fel Netflix, Amazon Prime Video a Disney+, yn ôl ymchwil gan Ofcom.
Yn ôl adroddiad Cyfryngau’r Genedl diweddaraf Ofcom, mae pobol rhwng 16 a 24 oed yng Nghymru yn treulio awr a chwe munud o flaen teledu a ddarlledir mewn diwrnod, pum gwaith yn llai na’r rhai 55 oed a throsodd sy’n dal i dreulio bron i hanner eu diwrnod deffro yn gwylio teledu traddodiadol – sef bron i chwe awr.
Yn 2022, mae 70% o aelwydydd yng Nghymru yn tanysgrifio i o leiaf un o’r tri chawr ffrydio, sy’n gynnydd o’r 64% yn 2021.
Dangosa’r ymchwil bod gan wasanaethau ar-alw darlledwyr lefelau tebyg o ran cyrhaeddiad i lwyfannau ffrydio eraill.
BBC iPlayer oedd y gwasanaeth ar-alw mwyaf poblogaidd yng Nghymru, ac roedd yn cael ei ddefnyddio gan 77% o oedolion a phobol ifanc sydd ar-lein.
Cyfryngau cymdeithasol
Mae llwyfannau fideos cymdeithasol hefyd yn cystadlu am amser gwylio, ac yn ôl yr ymchwil maen nhw’n arbennig o boblogaidd ymysg grwpiau oedran iau.
Yn ôl yr adroddiad, fe wnaeth defnyddwyr y rhyngrwyd yng Nghymru sydd dros 15 oed dreulio 34 munud y dydd ar TikTok ar gyfartaledd, a 39 munud y dydd ar Facebook a Messenger, ym mis Mawrth 2022.
Mae’r nifer sy’n gwylio teledu a fideo yng Nghymru wedi gostwng ers cyfnod prysuraf y pandemig, medd yr ymchwil.
Ar gyfartaledd, fe wnaeth pobol yng Nghymru dreulio 4 awr a 33 munud y dydd yn gwylio cynnwys teledu a fideo ar draws pob dyfais yn 2021, sydd 33 munud yn llai nag yn 2020.
‘Ymestyn y bwlch’
Wrth ymateb i’r canfyddiadau, dywedodd Eleanor Marks, Cyfarwyddwr Ofcom ar gyfer Cymru, bod y chwyldro ffrydio yn ymestyn y bwlch teledu rhwng y cenedlaethau, “gan greu gagendor amlwg yn arferion gwylio pobol iau a hŷn”.
“Mae darlledwyr traddodiadol yn wynebu cystadleuaeth galed, ac maen nhw wedi ateb yr her yn rhannol drwy boblogrwydd eu hapiau chwaraewr ar-alw eu hunain.
“Mae gwylio cyfunol o’r prif 5 sianel darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i gyfrif am fwy na hanner y teledu darlledu sy’n cael ei wylio yng Nghymru.”