Mae Gŵyl Ryng-geltaidd An Orient yn Llydaw yn gyfle i Gymru “arddangos ein diwylliant i gynulleidfa eang iawn”, yn ôl un cerddor sydd wedi bod yn perfformio yno eleni.

Roedd Gwilym Bowen Rhys yn un o lond llaw o artistiaid o Gymru fuodd draw yn canu yn yr ŵyl.

Yn ogystal â chanu ar ei ben ei hun, bu’n cyd-ganu â chantores o Lydaw fel rhan o brosiect a oedd yn golygu bod tri artist o Gymru’n cael eu paru â thri artist o Lydaw.

Y gobaith yw y bydd y trefniant yn arwain at fwy o bartneriaethau cerddorol a diwylliannol rhwng Cymru a Llydaw yn y dyfodol, meddai.

“Fues i’n cyd-ganu â chantores o’r enw Nolwenn Korbell, sydd efo cysylltiad efo Cymru eisoes – roedd hi’n arfer canu efo Bob Delyn a’r Ebillion ac mae hi wedi treulio deng mlynedd yng Nghymru,” eglura Gwilym Bowen Rhys wrth golwg360.

“Mae hi’n gantores sy’n sgrifennu caneuon yn Llydaweg, prosiect oedd yn cael ei arwain gan Trac Cymru oedd yn dod â pharau o gerddorion Cymreig a Llydewig at ei gilydd – sef fi a Nolween, roedd Cerys Hafana efo cantores o’r enw Léa, ac roedd Sam Humphreys neu Shamoniks yn cael ei baru efo Krismenn, sef artist hip hop sy’n rapio’n Llydaweg.

“Felly tri deuawd, ac fe wnaethon ni ganu yn Tafwyl a chanu eto yn Lorient. Roedd hi’n hyfryd gallu cael parhau efo hynny.”

‘Arddangos ein diwylliant’

Roedd Only Boys Aloud, NoGood Boyo, Alffa, Vrï, Lily Beau ac Avanc o Gymru yn perfformio yn yr ŵyl hefyd eleni, wrth iddi ddychwelyd am y tro cyntaf ers 2019.

“Mae hi wastad yn bleser cael mynd yn ôl yno,” meddai Gwilym Bowen Rhys.

“Fel arfer, mae’r ŵyl yn digwydd yr un pryd â’r Eisteddfod felly dim bob blwyddyn dw i’n teimlo fel fy mod i’n gallu mynd ond digwydd bod eleni roedd hi wythnos ar ôl. Mae’n neis gallu dal y ddau.

“Mae hi’n ŵyl sydd wedi bod yn mynd ers hanner can mlynedd bellach, ac mae hi i gyd yn ymwneud â’r gwledydd Celtaidd a cherddoriaeth y gwledydd Celtaidd.

“Wedyn, wrth gwrs, mae Cymru’n rhan annatod o hynny a bob blwyddyn ers ei sefydliad mae yna o leiaf un grŵp wedi mynd o Gymru a chanu a chynrychioli’r wlad.

“Mae yna, yn llythrennol, gannoedd ar filoedd o bobol yn mynd felly mae o’n gyfle i ni arddangos ein diwylliant i gynulleidfa eang iawn.

“Mae o’n beth da cynnal cysylltiad efo unrhyw genedl neu genhedloedd, ond mae yna bethau yn gyffredin rhwng y gwledydd, fel dw i’n licio dweud, sy’n cael eu cysidro yn Geltaidd.

“Os ti’n gofyn i fi, yr unig beth sy’n gallu cael ei ystyried yn Geltaidd tu hwnt i unrhyw amheuaeth yw ei fod o’n deulu ieithyddol.

“Mae’r ŵyl yn ystyried Galisia ac Asturias yn wledydd Celtaidd hefyd, sy’n genhedloedd yng ngogledd Iberia sy’n bendant efo cysylltiadau hanesyddol efo’r gwledydd Celtaidd, ymysg gwledydd eraill, ond ydyn nhw’n wledydd Celtaidd? Mae honno’n drafodaeth yn ei hun.

“Dydyn nhw’n bendant ddim yn ieithoedd Celtaidd.

“Ond maen nhw’n gynwysedig yn yr ŵyl, a pam ddim, the more the merrier!”

Cymraeg v Llydaweg

Mae fideo o Gwilym Bowen Rhys a’r Lydawes Azenor Kallag yn cymharu geiriau ac ymadroddion Llydaweg a Chymraeg wedi derbyn cryn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gwilym Bowen Rhys ac Azenor Kallag. Llun gan Anna Jen Huws

“Fydd yna raglen ar S4C fis nesaf am yr ŵyl, ac roeddwn i ac Azenor Kallag, sef Llydawes sy’n siarad Cymraeg hefyd, ynghyd â Cerys Hafana cyflwyno rhaglen.”

Syniad Anna Jen Huws, newyddiadurwraig gyda Lŵp oedd draw yn yr ŵyl, oedd creu’r fideo.

“Fe wnaeth hi sylwi wrth gerdded o gwmpas, fe wnaeth hi basio siop fara ac enw’r siop oedd ‘Bara’… a daeth y fideo o fan honno,” meddai Gwilym Bowen Rhys.

“Wnaethon ni ddim, o reidrwydd, ddewis y pethau mwyaf amlwg na fwyaf tebyg. Roedden ni jyst yn dweud be’ oedden ni’n ei weld a rhan fwyaf o’r amser roedd o’r un peth.

“Os fysa ni wedi ar ôl yr holl bethau fysa’n swnio’r un peth neu’n debyg fysa ni wedi gallu cael pethau lot gwell!

“Ond o be’ dw i’n weld mae pobol yn hoff iawn ohono fo.

“Dw i’n edrych ymlaen i bobol yng Nghymru gael gweld Azenor ar S4C achos mae hi’n gorwynt o hogan, mae hi’n ffantastig. Mae hi’n gwneud gwaith gwych ym myd y Llydaweg, mae hi’n cyflwyno teledu yn Llydaweg i blant, ond hefyd mae hi’n gymeriad.”