Bydd y ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei dangos mewn sinemâu ers tair blynedd yn cael ei rhyddhau ddydd Gwener (Awst 19).

Ffilm arswyd iasol wedi’i gosod yn y canolbarth yw Gwledd, sy’n cynnwys actorion fel Nia Roberts, Annes Elwy, Julian Lewis Jones, a Steffan Cennydd.

Annes Elwy sy’n actio cymeriad Cadi – menyw ifanc sydd yn derbyn swydd fel gweinydd i deulu cyfoethog yng nghefn gwlad Cymru, ar drothwy parti pwysig.

Wrth i’r noson fynd rhagddi mae’n dechrau herio credoau’r teulu gan ddatgelu’r twyll y maen nhw wedi ei greu gyda chanlyniadau brawychus.

Mae’r ffilm wedi cael ei hysgrifennu gan Roger Williams a’i chyfarwyddo gan Lee Haven-Jones, a bydd hi’n cael ei dangos mewn tua 20 o sinemâu ledled Cymru drwy Picturehouse Entertainment.

“Pe byddem yn eofn ynghylch adrodd ein straeon ar y sgrin fawr, fawr yma, gallem ddechrau adeiladu’r math o ddiwylliant lle nad ydy hi’n anarferol gweld ffilm Gymraeg yn y sinema,” meddai Roger Williams.

Yn ôl y cynhyrchwyr, mae’r ffilm yn “arwyddocaol iawn i Gymru”, ac yn cyflwyno’r Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd yn fyd-eang, tra hefyd yn ateb y galw gan Gymry i wylio straeon yn eu mamiaith.

‘Cyrhaeddiad byd-eang’

Mae Gwledd wedi cael ei chreu yn Gymraeg yn unig, ac mae’n cael ei chefnogi i gael ei rhyddhau gan Gwnaethpwyd yng Nghymru yng Nghanolfan Ffilm Cymru – llinyn sy’n dathlu ffilmiau gyda chysylltiadau Cymreig drwy godi ymwybyddiaeth o straeon o gymunedau Cymreig.

Dywed Radha Patel, Swyddog Gwnaethpwyd yng Nghymru, fod ffilmiau Cymreig yn helpu i ffurfio diwylliant Cymru.

“Mae gan y straeon rydym yn eu hadrodd ar y sgrin gyrhaeddiad byd-eang – gan newid y ffordd y mae’r byd yn gweld ein gwlad,” meddai Radha Patel.

“Mae’n gyffrous cael ffilm Gymraeg yn dod i sinemâu lleol a chymunedol unwaith eto ond ni ddylai hyn fod yn eithriad.

“Mae Cymru yn gartref i genedl amrywiol o adroddwyr straeon ac mae cynulleidfaoedd Cymru’n haeddu gweld rhagor o ffilmiau sydd yn cynrychioli eu hiaith, gwlad a diwylliant.

“Gwyddom y gall Gwledd ysbrydoli talent newydd i wneud y ffilmiau maen nhw eisiau eu gweld.”

‘Gorau po fwyaf’

“Fi’n meddwl y gorau po fwyaf o ffilmiau sy’n cael eu creu yn gyffredinol fel bod yna le i wneud pethau sydd yn Gymreig ac am bynciau Cymreig, ond hefyd am bynciau gwladol,” meddai Annes Elwy, wrth drafod ffilmiau Cymraeg gyda Nia Morais mewn cyfweliad wedi’i drefnu gan Gwnaethpwyd yng Nghymru, ac wrth ystyried a ddylid cadw at themâu Cymreig neu ehangu’r ystod.

“Dydy e ddim yn benodol yn gorfod bod am yr iaith Gymraeg achos mae ots gennym ni i gyd am bethau sy’n digwydd yng Nghymru, ond hefyd am bethau sy’n digwydd dros y byd i gyd.

“Dw i jyst yn meddwl y bysa hi’n neis cael mwy a mwy o ffilm achos mae cael gweithio yn y maes yna mor gyffrous, ac roedd Lee [Haven-Jones] yn ffeindio fe’n faes eithaf cyffrous i weithio ynddo fo ar ôl gwneud cyfresi fel Doctor Who.

“Y rhyddid yna mae’n ei gael o gael gwneud ffilm, dw i’n meddwl ei fod e’n rhoi cyfle i bobol fod yn fwy creadigol.

“Fel Cymry, rydyn ni’n bobol greadigol felly mae’n neis cael y cyfle i wneud hynny.”