Bydd S4C yn darlledu sioe gomedi lle mae pob act yn perthyn i’r gymuned LHDTC+ am y tro cyntaf fel rhan o ddathliadau Pride Cymru.

“Noson o ddathlu comedi Cymraeg, cwiar” fydd y noson, sy’n cael ei ffilmio o flaen cynulleidfa fyw yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd fel rhan o ŵyl cwiar ffrinj y brifddinas.

Alun Parrington, neu Al Parr, fydd yn cyflwyno’r noson, a sêr y sioe yw Priya Hall, Ellis Lloyd Jones, Leila Navabi, Chris Rio, a Siânny Thomas.

Bydd perfformiad arbennig gan y Gymuned Ddawnsfa Gymreig hefyd.

“Fydd hwn yn rhan o Pride Cymru, mae hi’n Pride Cymru yng Nghaerdydd penwythnos yma ac roedd S4C eisiau gwneud rhywbeth i ddathlu ac wedyn fe wnaeth [comisiynwyr S4C] ddod ata i a gofyn, ‘Be ti’n feddwl o’r syniad o ryw fath o Live at the Apollo ond fysa ni hefyd yn licio pob act yn Gymry Cymraeg ond hefyd pawb yn rhan o’r gymuned LHDTC+. Fysa gen ti ddiddordeb hostio fo?’,” eglura Alun Parrington, sy’n dod o Garmel ger Caernarfon, wrth golwg360.

“Dw i erioed wedi hostio o’r blaen, ond I’ll give it a go.

“Noson o ddathlu comedi Cymraeg, cwiar yng Nghaerdydd ydy hi.”

‘Cymryd ein hunaniaeth yn ôl’

Yn tyfu fyny, doedd yna neb i genhedlaeth Alun Parrington uniaethu â nhw o ran cymeriadau neu gynrychiolaeth LHDTC+, meddai.

“Roeddwn i’n siarad efo Guto Rhun [Comisiynydd Cynorthwyol Ar-lein S4C] a’r cynhyrchwyr a doedd yna ddim o hyn yn tyfu fyny i fi,” esbonia.

“Roeddwn i’n teimlo, a dw i ddim eisiau rhoi geiriau yng ngheg neb, ond o siarad efo lot o’n ffrindiau sydd ddim hyd yn oed yn y byd celfyddydau, bob tro roeddet ti’n gweld pobol gay ar y teledu, nhw oedd y butt of the joke.

“Roedd gen ti gymeriad traws ar Coronation Street – dw i’n huge Corrie geek – cymeriad traws fel Hayley Cropper ac fe wnaethon nhw ddod â hi mewn fel ychydig bach o jôc, ac fel bod Roy yn mynd allan efo cymeriad oedd yn arfer bod yn ddyn. Yr un fath efo cymeriadau hoyw eraill ar y teledu ac yn gyffredinol.

“I fi, y rheswm mae’n bwysig cael ein gweld, ydy i’r hogyn bach ifanc yna fel fi i sylwi ‘Dydyn ni ddim y butt of the joke, rydyn ni’n bobol’. Rydyn ni’n cymryd ein hunaniaeth ni’n ôl, os lici di.

“Pan ti’n tyfu fyny mewn byd heteronormative, lle mae’r rhan fwyaf o bobol yn straight, mae yna lot o bethau bach sy’n gwneud i ti feddwl dy fod yn rong fatha person.

“Pobol yn dweud ‘That’s so gay’ a phethau fel yna, ti yn dechrau meddwl gay as in drwg, ond dw i secretly yn gay so dw i’n berson drwg.

“Mae Pride a nosweithiau fel hyn sy’n rhan o Pride yn golygu cael dathlu fo, cael sgwrs, cael hwyl, siarad am ein profiadau ni.”

‘Dal yn broblem’

Er bod cynrychiolaeth LHDTC+ wedi gwella ers dyddiau plentyndod Alun Parrington, sy’n 29 oed, mae’r gwaith dal ar y gweill, meddai.

“Dw i’n lwcus, dw i wedi ffeindio gymaint o ffrindiau da sy’n hoyw.

“Pan ti efo’r support yna i chdi, mae hi’n hawdd anghofio faint o anodd oedd o, ac mae hi’n hawdd weithiau gweld pethau trwy rose tinted glasses a meddwl bod y byd yn well rŵan, tan ti’n siarad efo pobol ifanc am eu profiadau nhw – ac mae o dal yn broblem, homoffobia, ac mae transffobia yn issue anferth.

“Dw i’n meddwl ein bod ni wedi symud ymlaen o ran be’ rydyn ni’n ei weld. O ran y cymeriadau rydyn ni’n eu gweld ar y teledu, mae yna bum gwaith mwy o gynrychiolaeth ac mae hynna’n grêt.

“Ond mae hi’n bwysig cofio bod o ddim yn cured, mae o dal yn broblem ac yn work in progress.”

  • Bydd Ffyrnig yn cael ei darlledu ar S4C nos Wener, Awst 26.