Fedrith y byd cyhoeddi ddim aros yn llonydd, yn ôl cadeirydd newydd Cyngor Llyfrau Cymru.

Un o amcanion Linda Tomos, cyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol Cymru, yw sicrhau bod y Cyngor Llyfrau yn adlewyrchu’r hyn sy’n apelio ar bobol ac yn parhau i annog pobol i ddarllen.

Bydd Linda Tomos, fu’n arwain y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 2015 a 2019 ac yn gweithio i Lywodraeth Cymru cyn hynny, yn olynu’r Athro M. Wynn Thomas, sy’n ymddeol fel cadeirydd ar ôl ugain mlynedd.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig i bobol sylweddoli bod y Cyngor Llyfrau wedi symud gymaint yn yr ugain mlynedd ddiwethaf, ac mae’r holl glod i’r Athro M. Wynn Thomas am ei arweinyddiaeth fel Cadeirydd y Bwrdd,” meddai Linda Tomos wrth golwg360.

“Erbyn hyn, maen nhw wedi mentro mewn i feysydd newydd digidol ac mae’r cynnwys maen nhw’n ei gefnogi mor amrywiol, ac mae o’n adlewyrchu Cymru heddiw – sy’n bwysig.

“Flynyddoedd yn ôl, roedd y Cyngor Llyfrau yna i hybu cyhoeddi a darllen Cymraeg yn unig. Ond erbyn heddiw, mae’r proffesiynoldeb yn perthyn i’r Gymraeg a’r Saesneg.

“Dw i’n meddwl bod pobol Cymru wedi elwa o hynny ar sail y cynnwys sy’n cael ei gyhoeddi. Wrth gwrs, mae cyhoeddwyr Cymru eisiau clod am y ffordd maen nhw wedi cymryd risgiau ac wedi mentro i feysydd newydd lle mae darllen wedi mynd.

“Fedrwn i ddim aros yn llonydd. Un peth dw i eisiau ei gyflwyno drwy gydweithio gyda’r Bwrdd a chydweithio gyda Helgard [Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau] ydy gofalu ein bod ni’n cynnig pethau mae pobol eisiau.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n adlewyrchu be’ sy’n apelio at bobol heb ein bod ni’n colli’r prif bwrpas o annog pobol i ddarllen a magu’r fath yna o arferiad drwy oes, lle mae darllen yn dod â chysur a phob math o fuddion i bobol.

“Dw i’n gobeithio, fel Cadeirydd, y bydd y Bwrdd yn gweld ffyrdd newydd, creadigol i ehangu’r gynulleidfa.

“Mae yna werth mewn darllen, felly [fydda i’n trio] annog pobol i ddarllen y cynnwys maen nhw eisiau ei ddarllen a hefyd i weld bod y cyfleoedd yna a bod y cynnwys ddigon amrywiol i Gymru heddiw – sydd wrth gwrs yn cynnwys gymaint o wahanol gymunedau a gwahanol ieithoedd, sy’n her i’r Cyngor Llyfrau o ran sut ydyn ni’n gofalu ein bod ni’n gwneud ein gorau i gefnogi pobol.”

‘Adnoddau bach’

Buodd Linda Tomos yn cydweithio â’r Cyngor Llyfrau drwy ei gwaith gyda Llywodraeth Cymru ac fel cyfarwyddwr cyntaf CyMAL: sef isadran polisïau ar gyfer Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru.

“Mae hi’n braf iawn bod yn gysylltiedig [â’r Cyngor Llyfrau], mae’r staff mor dalentog,” meddai wedyn.

“Maen nhw’n gwneud gymaint ar adnoddau bach iawn, a chwarae teg iddyn nhw dydyn nhw ddim, ac erioed wedi, cael yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gwneud y gwaith go iawn. Ond maen nhw’n gwneud y gorau o be sydd ganddyn nhw.”

Mae Linda Tomos wedi gweithio ym myd llyfrgellyddiaeth ar hyd ei gyrfa.

“Mae llyfrgelloedd wedi chwarae rôl allweddol ers dros ganrif a hanner yng Nghymru i roi mynediad i bobol achos mae llyfrau yn ddrud, dim bob amser mae pobol yn gallu fforddio prynu be fysa nhw’n hoffi ei gael, a thrwy lyfrgelloedd maen nhw’n gallu cael y budd o ddarllen.

“Mae hi’n bwysig bod llyfrgelloedd yn cael sylw teg a’r adnoddau i allu gwneud hyn. Maen nhw’n dod â chymaint o fudd i gymdeithas a chymunedau, mae hi’n bwysig, dw i’n meddwl, ein bod ni ddim yn colli’r buddion yna yn enwedig pan mae hi mor hawdd torri nôl ar bethau fel llyfrgelloedd ac archifau.

“Mae’n bwysig bod pobol, drwy waith y Cyngor Llyfrau a chydweithio â llyfrgelloedd, yn sylweddoli pwysigrwydd cefnogi llyfrgelloedd lleol, siopau llyfrau lleol. Unwaith rydych chi wedi’u colli nhw, mae hi’n anodd eu cael nhw’n ôl.”

Y llyfrgellydd sydd am i eraill brofi gwefr geiriau

Cadi Dafydd

“Un o fy hoff bethau am weithio yn y maes yw trio trosglwyddo’r brwdfrydedd sydd gen i tuag at ddarllen”

Yr Athro M. Wynn Thomas, cadeirydd y Cyngor Llyfrau, yn ymddeol ar ôl ugain mlynedd

Mae Linda Tomos, cyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol Cymru, wedi cael ei phenodi i’w olynu