Trosglwyddo ei brwdfrydedd am bwysigrwydd llyfrau i eraill yw un o brif amcanion cadeirydd newydd Bwrdd y Cyngor Llyfrau.

Mae cyn-lyfrgellydd cenedlaethol Cymru, Linda Tomos, wedi bod yn gweithio ym myd llyfrgelloedd ers yr oedd hi’n blentyn, ac mae hi mor angerddol ag erioed dros rym llyfrau.